xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
23.—(1) Mewn cysylltiad â darpariaethau'r Rheoliadau hyn addesir neu eithrir gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.
(2) Addesir adran 25(1) megis at ddibenion yr adran honno bod unrhyw gyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at “premises” (“mangre”) fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hyn a bod unrhyw gyfeiriad at is-adran sy'n cynnwys cyfeiriad at “premises” yn gyfeiriad at yr is-adran honno wedi ei haddasu felly.
(3) Addesir adran 25(1) megis petai'r cyfeiriad at is-adran (4) o'r adran honno yn gyfeiriad at yr is-adran fel y'i haddaswyd gan ddarpariaeth paragraff (4).
(4) Yn adran 25(4) hepgorer y geiriau o “potatoes” (pan fo'n digwydd gyntaf) i'r diwedd.
(5) Yn adran 26, hepgorer adrannau (2), (4), (5), (6), (7), (8) a (9) .
Mewnosodwyd adran 25 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 3, Rhan III ac Atodlen 4, paragraff 5(2) a chan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48), Atodlen 6, paragraff 16.