xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 2926 (Cy.261)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'i wneud

7 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

1 Ionawr 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1, 8(1) ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac a freiniwyd ynddo bellach, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) (Diwygio) 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ionawr 2007.

Diwygio Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006

2.—(1Diwygir Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(2)fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 8 (Adnabod anifeiliaid a symudir i Aelod-wladwriaeth arall o'r daliad geni neu o'r daliad mewnforio), yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Mae'n rhaid bod gan yr ail ddull o adnabod god adnabod sydd yn union yr un fath â'r cod a ddefnyddiwyd yn y dull cyntaf o adnabod o dan erthygl 6(3), yn achos anifail a aned yng Nghymru, neu erthygl 10(3) yn achos anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad..

(3Yn erthygl 13 (Rhoi dull newydd o adnabod gyda chod gwahanol yn lle'r hen un)—

(a)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (1) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl canfod bod y modd adnabod yn annarllenadwy neu ar goll, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (2) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl canfod bod y modd adnabod yn annarllenadwy neu ar goll, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad..

(4Yn erthygl 23 (Tynnu tagiau clust neu roi rhai newydd yn eu lle), ym mharagraff (3), (4) a (5)—

(a)yn lle “6 mis” rhodder “28 niwrnod”;

(b)yn lle “i'r tag symud gael ei dynnu neu ei golli neu ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy” rhodder “canfod bod y tag symud ar goll neu'n annarllenadwy”.

(5Yn erthygl 24 (Tynnu tagiau clust a thatŵs o dan Orchmynion blaenorol neu roi rhai newydd yn eu lle)—

(a)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “6 mis” rhodder “28 niwrnod”;

(ii) yn lle “sylwi ei golli neu ar ar ôl sylwi ei fod yn annarllenadwy” rhodder “ar ôl sylwi ei fod wedi ei golli neu ei fod yn annarllenadwy”.

(b)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

(4A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (4) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl canfod bod y tag tarddiad wedi cael ei dynnu neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.;

(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(5A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (5) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl i'r nod F gael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.;

(ch)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

(6A) Rhaid i geidwad wneud yr hyn sy'n ofynnol gan baragraff (6) cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod ar ôl i'r nod R gael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu yn annarllenadwy, ond ym mhob achos cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad..

(6Yn erthygl 25 (Rhoi tagiau clust newydd yn lle rhai a gollwyd mewn marchnadoedd), ym mharagraff (2), ar ôl “cyn gynted ag y bo modd” mewnosoder“, ond dim mwy na 28 niwrnod ar ôl i'r tag clust neu'r tatŵgael ei dynnu, neu ar ôl canfod ei fod ar goll neu'n annarllenadwy”.

(7Yn Rhan 9 (Amrywiol), cyn erthygl 35 (Gorfodi), mewnosoder—

Pwerau arolygwyr

34A.  At unrhyw ddiben yn ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff arolygydd—

(a)casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail, ac at y diben hwn gall ofyn i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a dal gafael ar unrhyw anifail;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad beri bod unrhyw gopi neu gofnodion ar gael;

(c)symud ymaith a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;

(ch)cael mynediad i, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chofnodion;

(d)pan fo cofnod yn cael ei gadw ar gyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod fod ar gael mewn ffurf y gellir ei gymryd ymaith;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd fod ar gael, a chofnodi eu Rhif au;

(e)fynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion o Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu unrhyw bobl neu bethau eraill sydd yn ei dyb ef yn angenrheidiol, gydag ef.

Pŵer i wahardd symud anifeiliaid

34B.(1) Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud anifeiliaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad, neu oddi arno, os yw'r arolygydd wedi'i fodloni bod gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn briodol.

(2) Gellir diwygio neu ddirymu hysbysiad o dan baragraff (1) drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.

Cymorth rhesymol

34C.  Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn wneud hynny yn ddi-oed, oni bai bod ganddo achos rhesymol i beidio.

Gwybodaeth anwir

34Ch.  Rhaid i berson beidio â rhoi gwybodaeth y gŵyr ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

34D.(1) Os dangosir bod tramgwydd yn erbyn y Ddeddf sydd wedi ei gyflawni gan gorff corfforaethol—

(a)wedi cael ei gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,

bydd y swyddog hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2) Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffygion aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau'r aelod hwnnw o ran rheoli megis petai yn gyfarwyddwr i'r corff.

(3) Ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb o'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swydd o'r fath..

Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006

3.—(1Diwygir Atodlen 1 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006 fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 6, yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) Pan fo anifail yn cael ei draddodi o ddaliad yr adnabod i Aelod-wladwriaeth arall, rhaid i'r ceidwad roi tag adnabod arall ar yr anifail gyda chod sy'n union yr un fath â'r cyntaf a nodi'r cod sydd ar y tagiau adnabod yng nghofrestr y ceidwad ac yn y ddogfen symud..

(3Ym mharagraff 16 (symud i Aelod-wladwriaeth arall drwy ganolfan gynnull)—

(i)yn is-baragraff (3), ar ôl “ceidwad”, dileer y gair “cofnodi” a mewnosoder “osod ail dag clust neu dransbonder electronig ar yr anifail sy'n dwyn ei god adnabod unigol, a chofnodi”;

(ii)yn yr is-baragraff hwnnw, yn lle “Rhif ” rhodder “cod”;

(iii)yn lle is-baragraff (6) rhodder—

(6) Nid yw is-baragraff (5)(a) yn gymwys ond o ran anifeiliaid a gafodd eu symud o'r daliad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Diwygio) (Cymru) 2006 ddod i rym.

(4Ym mharagraff 17 (symud i Aelod-wladwriaeth arall drwy ganolfan gynnull)—

(i)yn is-baragraff (3), hepgorer y geiriau “Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)”;

(ii)hepgorer is-baragraff (4).

Cymryd lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006

4.  Mae'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, sy'n cymryd lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006, yn effeithiol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Tachwedd 2006

Erthygl 4

ATODLEN

Yn lle Atodlen 3 i Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005, rhodder:

Erthygl 17(3)(a)

ATODLEN 3

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006 (“y prif Orchymyn”).

Mae Erthyglau 2(2) a 3 yn diwygio darpariaethau'r prif Orchymyn ar adnabod anifeiliaid a gaiff eu symud i Aelod-wladwriaeth arall o'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn symud ymaith y posibilrwydd o nodi anifail o'r fath gyda “tag X” (fel y'i diffinnir yn Erthygl 2(1) o'r prif Orchymyn). Mae Erthygl 3(3) yn diwygio Erthygl 16 o Atodlen 1 i'r prif Orchymyn gan beri, yn achos anifail a gaiff ei symud o ddaliad i ganolfan gynnull ar gyfer ei gludo i Aelod-wladwriaeth arall, bod rhaid gosod ail dag clust arno cyn i'r anifail adael y daliad.

Mae paragraffau (3) i (6) o Erthygl 2 yn diwygio darpariaethau'r prif Orchymyn ar osod tagiau neu ddulliau eraill o adnabod yn lle rhai a gafodd eu tynnu, a gollwyd neu a aeth yn annarllenadwy. Effaith y diwygiadau yw bod rhaid gosod modd adnabod yn lle un a gollwyd cyn gynted ag y bo modd, ond dim mwy na 28 niwrnod, ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei golli, neu ar ôl canfod y golled neu'r annarllenadwyedd, ond ym mhob achos cyn i'r anifail adael y daliad.

Mae Erthygl 2(7) yn mewnosod darpariaethau gorfodi newydd yn y prif Orchymyn. Mae Erthygl 34A yn rhoi amrediad o bwerau i arolygwyr, ac mae Erthygl 34B yn rhoi pŵer iddynt wahardd symud anifeiliaid ar ddaliad, i ddaliad ac oddi yno, drwy hysbysiad a gyflwynir i geidwad, os ydynt wedi'u bodloni bod gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn gorfodi'r prif Orchymyn yn briodol. Ceir Erthyglau 34C, 34Ch a 34D newydd yn ymwneud â rhoi cymorth rhesymol i berson sy'n gweithredu o dan y prif Orchymyn, â darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, ac â thramgwyddau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol.

Mae Erthygl 3 a'r Atodlen yn cymryd lle Atodlen 3 i'r prif Orchymyn, sy'n rhagnodi'r ffurflen ar gyfer cofnodi symudiadau anifeiliaid. Mae'r ffurflen newydd yn cynnwys blwch i gofnodi'r cyfnod y disgwylir i'r daith ei chymryd. Mae hyn yn ofynnol gan Erthygl 4 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1/2005 (O.J. L3, 5.01.2005, t.1) ar warchod anifeiliaid yn ystod eu cludo a gwaith cysylltiedig.

Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Adran dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i “the appropriate Minister” ac i “the Ministers” (fel y'u diffinnir yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i'r “Secretary of State”, ac eithrio'r swyddogaethau hynny a gynhwysir yn Atodlen 1 o Ddeddf 1981, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044).