- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'u gwneud
24 Hydref 2006
Yn dod i rym
31 Hydref 2006
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2006.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cynnyrch planhigyn” yr un ystyr â “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad adnabod” yr un ystyr ag “identity check” yn Erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad dogfennol” yr un ystyr â “documentary check” yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr un ystyr â “plant health check” yn Erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC(3) ddyddiedig 8 Mai 2000 ar fesurau amddiffyn yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC(4);
mae i “llwyth” yr un ystyr â “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5) yng Nghymru;
mae i “planhigyn” yr un ystyr â “plant” yn Erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;
mae i “planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu” yr un ystyr â “plant intended for planting” yn Erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb; ac
ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth ac eithrio un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 sydd wedi'u glanio yng Nghymru o drydedd wlad, ac sydd:
(a)wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb; neu
(b)yn hadau Solonaceae p'un a ydynt wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb neu beidio.
4.—(1) Rhaid i fewnforiwr dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol adeg mewnforio llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), y ffi a bennir—
(i)yn nhrydedd golofn Atodlen 1 am unrhyw lwyth ac eithrio llwyth o un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn y mae is-baragraff (a)(ii) yn gymwys iddo; neu
(ii)ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 am lwyth o unrhyw un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno ac sy'n dod o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno; a
(b)y ffi a bennir am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
(2) Pan fo gwiriad iechyd planhigion yn cael ei gynnal ar lwyth ar gais mewnforiwr, neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) am y llwyth hwnnw yw—
(a)y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 1 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(i) yn gymwys iddo; neu
(b)y ffi a bennir ym mhumed golofn Atodlen 2 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys iddo.
5. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006(6) wedi'u dirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Hydref 2006
Rheoliadau 3 a 4
| Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu beth arall | Nifer | Ffi | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|
| Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiau | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 10,000 o ran nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi'u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had) | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 1,000 o ran nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 o unedau ychwanegol | £0.33 | £0.49 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannu | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 200 kg o ran pwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 10 kg ychwanegol | £0.12 | £0.18 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Hadau, meinweoedd meithrin | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 100 kg o ran pwysau | £5.67 | £8.50 | |
| — am bob 10 kg ychwanegol | £0.13 | £0.19 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 5,000 o ran nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 o unedau ychwanegol | £0.13 | £0.19 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Blodau wedi'u torri | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 20,000 o ran nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | £0.10 | £0.15 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi'u torri) | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 100 kg o ran pwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 kg y chwanegol | £1.32 | £1.98 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Coed Nadolig wedi'u torri | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 1,000 o ran nifer | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 100 o unedau ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 100 kg o ran pwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 10 kg ychwanegol | £1.32 | £1.98 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| Cloron tatws | Fesul lot | £39.72 | £59.58 |
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | |||
| — am bob 25,000 kg ychwanegol | £39.72 | £59.58 | |
| Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| — uchafbris | £105.92 | £158.88 | |
| Grawn | Fesul llwyth | ||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | £13.24 | £19.86 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | £0.52 | £0.78 | |
| — uchafbris | £529.60 | £794.40 | |
| Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestydd | Fesul llwyth | £13.24 | £19.86 |
Rheoliad 4
| Genws | Nifer | Gwlad tarddiad | Ffi | Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) |
|---|---|---|---|---|
| Pan fo cyfanswm unrhyw ffi yn swm sy'n llai na £0.01, nid yw'r swm hwnnw wedi'i gynnwys. | ||||
| Blodau wedi'u torri | ||||
| Aster | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o ran nifer | Zimbabwe | £3.31 | £4.96 | |
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Zimbabwe | £0.02 | £0.03 | |
| — uchafbris | Zimbabwe | £26.48 | £39.72 | |
| Dianthus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o ran nifer | Colombia | £0.40 | £0.60 | |
| Ecuador | £1.98 | £2.97 | ||
| Israel, Moroco, Twrci | £3.31 | £4.96 | ||
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Colombia | £0.003 | £0.004 | |
| Ecuador | £0.01 | £0.015 | ||
| Israel, Moroco, Twrci | £0.02 | £0.03 | ||
| — uchafbris | Colombia | £3.17 | £4.75 | |
| Ecuador | £15.88 | £23.82 | ||
| Israel, Moroco, Twrci | £26.48 | £39.72 | ||
| Rosa | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 20,000 o ran nifer | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £0.66 | £0.99 | |
| Colombia, Israel, Zambia | £1.32 | £1.98 | ||
| Tanzania, Ethiopia | £3.31 | £4.96 | ||
| India | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 o unedau ychwanegol | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £0.005 | £0.007 | |
| Colombia, Israel, Zambia | £0.01 | £0.015 | ||
| Ethiopia, Tanzania | £0.02 | £0.03 | ||
| India | £0.05 | £0.07 | ||
| — uchafbris | Ecuador, Kenya, Uganda, Zimbabwe | £5.29 | £7.94 | |
| Colombia, Israel, Zambia | £10.59 | £15.89 | ||
| Ethiopia, Tanzania | £26.48 | £39.72 | ||
| India | £52.96 | £79.44 | ||
| Ffrwythau | ||||
| Malus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Chile, De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
| Ariannin, Seland Newydd, UDA | £1.98 | £2.97 | ||
| Brasil | £3.31 | £4.96 | ||
| Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Chile, De Affrica | £0.05 | £0.07 | |
| Ariannin, Seland Newydd, UDA | £0.07 | £0.10 | ||
| Brasil | £0.13 | £0.19 | ||
| Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
| Mangifera | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Brasil | £1.32 | £1.98 | |
| Periw, De Affrica | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Brasil | £0.05 | £0.07 | |
| Periw, De Affrica | £0.26 | £0.39 | ||
| Prunus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Chile, De Affrica, Twrci | £1.32 | £1.98 | |
| Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
| UDA | £4.63 | £6.94 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Chile, De Affrica, Twrci | £0.05 | £0.07 | |
| Ariannin | £0.07 | £0.10 | ||
| UDA | £0.18 | £0.27 | ||
| Pyrus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | De Affrica | £1.32 | £1.98 | |
| Ariannin | £1.98 | £2.97 | ||
| Chile | £3.31 | £4.96 | ||
| Tsieina | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | De Affrica | £0.05 | £0.07 | |
| Ariannin | £0.07 | £0.10 | ||
| Chile | £0.13 | £0.19 | ||
| Tsieina | £0.26 | £0.39 | ||
| Citrus | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Moroco | £0.66 | £0.99 | |
| Twrci | £0.92 | £1.38 | ||
| UDA | £1.32 | £1.98 | ||
| Israel, Mecsico, Uruguay | £1.98 | £2.97 | ||
| Yr Aifft | £3.31 | £4.96 | ||
| Periw, Zimbabwe | £9.93 | £14.89 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Moroco | £0.02 | £0.03 | |
| Twrci | £0.03 | £0.04 | ||
| UDA | £0.05 | £0.07 | ||
| Israel, Mecsico, Uruguay | £0.07 | £0.10 | ||
| Yr Aifft | £0.13 | £0.19 | ||
| Periw, Zimbabwe | £0.39 | £0.58 | ||
| Fort- unella | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | De Affrica | £9.93 | £14.89 | |
| Israel | £6.62 | £9.93 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | De Affrica | £0.39 | £0.58 | |
| Israel | £0.26 | £0.39 | ||
| Mom- ordica | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Suriname | £6.62 | £9.93 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Suriname | £0.26 | £0.39 | |
| Passiflora | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Kenya | £1.32 | £1.98 | |
| Colombia, | £1.98 | £2.97 | ||
| Zimbabwe | £4.63 | £6.94 | ||
| De Affrica | £9.93 | £14.89 | ||
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Kenya | £0.05 | £0.07 | |
| Colombia | £0.07 | £0.10 | ||
| Zimbabwe | £0.18 | £0.27 | ||
| De Affrica | £0.39 | £0.58 | ||
| Llysiau | ||||
| Solanum melon-gena | Fesul llwyth | |||
| — hyd at 25,000 kg o ran pwysau | Twrci | £9.93 | £14.89 | |
| — am bob 1,000 kg ychwanegol | Twrci | £0.39 | £0.58 | |
Rheoliad 4(1)
| Dull gwirio | Nifer | Ffi |
|---|---|---|
| Gwiriad dogfennol | Fesul llwyth | £5.29 |
| Gwiriad adnabod | Fesul llwyth | |
| — hyd at faintioli llwyth tryc, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faintioli cyffelyb | £5.29 | |
| — mwy na'r maintioli uchod | £10.58 |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/171), a weithredodd Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t. 1) (“y Gyfarwyddeb”). Mae'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i dalu'r costau a geir oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion penodol o ran planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o drydydd gwledydd. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith hefyd gyfraddau gostyngol ar gyfer planhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol a'r rheini'n gyfraddau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13d(2) a 18(2) o'r Gyfarwyddeb.
Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i fewnforiwr dalu, adeg mewnforio llwyth y maent yn gymwys iddo, y ffi a bennir yn Atodlen 1 neu'r ffi yn ôl y gyfradd ostyngol yn Atodlen 2, fel y bo'n briodol (rheoliad 4(1)(a)). Mae'r ffi yn daladwy p'un a chynhelir arolygiad ar y llwyth penodol neu beidio (ac eithrio yn achos y ffioedd sy'n daladwy am arolygiad a gyflawnwyd ar gais mewnforiwr y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd (rheoliad 4(2)).
Mae'n ofynnol hefyd i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 3 am wiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod (rheoliad 4(1)(b)).
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael oddi wrth yr Adran Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1.
OJ Rhif L 88, 25.3.2006, t. 9.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: