Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) (Rhif 2) 2006.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Hydref 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “cynnyrch planhigyn” yr un ystyr â “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;

  • mae i “gwiriad adnabod” yr un ystyr ag “identity check” yn Erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;

  • mae i “gwiriad dogfennol” yr un ystyr â “documentary check” yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;

  • mae i “gwiriad iechyd planhigion” yr un ystyr â “plant health check” yn Erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC(1) ddyddiedig 8 Mai 2000 ar fesurau amddiffyn yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/35/EC(2);

  • mae i “llwyth” yr un ystyr â “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;

  • ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3) yng Nghymru;

  • mae i “planhigyn” yr un ystyr â “plant” yn Erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb;

  • mae i “planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu” yr un ystyr â “plant intended for planting” yn Erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb; ac

  • ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth ac eithrio un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.

Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â llwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 sydd wedi'u glanio yng Nghymru o drydedd wlad, ac sydd:

(a)wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb; neu

(b)yn hadau Solonaceae p'un a ydynt wedi'u rhestru yn Atodiad V, Rhan B o'r Gyfarwyddeb neu beidio.

Ffioedd

4.—(1Rhaid i fewnforiwr dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol adeg mewnforio llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), y ffi a bennir—

(i)yn nhrydedd golofn Atodlen 1 am unrhyw lwyth ac eithrio llwyth o un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn y mae is-baragraff (a)(ii) yn gymwys iddo; neu

(ii)ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 am lwyth o unrhyw un math o blanhigyn neu gynnyrch planhigyn a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen honno ac sy'n dod o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno; a

(b)y ffi a bennir am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod yn nhrydedd golofn Atodlen 3.

(2Pan fo gwiriad iechyd planhigion yn cael ei gynnal ar lwyth ar gais mewnforiwr, neu unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am y llwyth, y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) am y llwyth hwnnw yw—

(a)y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 1 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir ym mhumed golofn Atodlen 2 os yw'r llwyth yn llwyth y mae paragraff (1)(a)(ii) yn gymwys iddo.

Dirymu

5.  Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006(4) wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Hydref 2006

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources