2006 Rhif 2825 (Cy.248)
Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 80(7) o Ddeddf Tai 20041, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Dethol Tai (Amodau Ychwanegol) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 26 Hydref 2006.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai ac anheddau2 y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
a
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
b
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 19893; ac
c
ystyr “Gorchymyn 2002” (“the 2002 Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 20024.
Amodau Ychwanegol3
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), at ddibenion adran 80(2)(b) o'r Ddeddf mae naill ai'r amod cyntaf neu'r ail amod yn gymwys—
a
yr amod cyntaf yw, naill ai bod
i
awdurdod tai lleol wedi datgan ardal yn ardal adnewyddu o dan adran 89 o Ddeddf 1989; neu
ii
awdurdod tai lleol wedi darparu cymorth i unrhyw berson yn unol â pholisi a fabwysiadwyd ac a gyhoeddwyd o dan erthyglau 3 a 4 o Orchymyn 2002 yn yr ardal honno (pŵer awdurdodau tai lleol i ddarparu cymorth);
b
yr ail amod yw bod ardal ei ddosbarth neu'r ardal yn ei ddosbarth yn cynnwys lleiafswm o 25% o'r stoc dai a osodir gan landlordiaid y sector preifat5.
2
Rhaid i awdurdod tai lleol fod yn fodlon bod y naill neu'r llall o'r amodau a osodir o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1) wedi'u bodloni cyn dynodi ardal ei ddosbarth neu ardal yn ei ddosbarth yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)