RHAN 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU

PENNOD 3CYNLLUNIAU GWEITHREDU – PRIF FEYSYDD AWYR

Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu19

1

Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2008—

a

llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r brif faes awyr; a

b

cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.

2

Dim ond os nad oedd hi'n ofynnol i'r awdurdod cymwys lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prif faes awyr yn unol â pharagraff (1) oherwydd nad ef oedd yr awdurdod cymwys ar 30 Ebrill 2008 neu cyn hynny y mae paragraff (3) yn gymwys.

3

Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2013—

a

llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r prif faes awyr; a

b

cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.

4

Mae paragraff (5) yn gymwys—

a

pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn; a

b

o leiaf bob pum mlynedd ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.

5

Rhaid i'r awdurdod cymwys—

a

adolygu; a

b

diwygio, os bydd angen,

y cynllun gweithredu.

6

Rhaid cyflwyno i'r Cynulliad gynllun gweithredu wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (5)(b) a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.