RHAN 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU
PENNOD 1CYFFREDINOL
Dyletswydd i gyhoeddi meini prawf neu werthoedd terfyn
14. Rhaid i'r Cynulliad, a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2007 gyhoeddi canllawiau sy'n gosod gwerthoedd terfyn neu feini prawf eraill ar gyfer nodi blaenoriaethau i gynlluniau gweithredu.
Cynlluniau gweithredu: gofynion cyffredinol
15.—(1) Rhaid i unrhyw gynllun gweithredu a gaiff ei lunio neu ei ddiwygio o dan y Rhan hon—
(a)bodloni amcanion Erthygl 1(c) o'r Gyfarwyddeb;
(b)gael ei gynllunio i drafod materion ac effeithiau sŵn, gan gynnwys lleihau sŵn os bydd angen;
(c)amcanu i ddiogelu ardaloedd tawel mewn crynodrefi rhag cynnydd mewn sŵn;
(ch)ymdrin â blaenoriaethau y mae'n rhaid eu nodi drwy roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir yn unol â rheoliad 14;
(d)bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd mwyaf pwysig fel y'u cadarnhawyd gan fapiau sŵn strategol a fabwysiadwyd yn unol â rheoliad 23; ac
(dd)bodloni'r gofynion yn Atodlen 4.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i—
(a)unrhyw gynllun gweithredu; a
(b)unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu,
a gaiff ei lunio o dan y Rhan hon ar gyfer crynodref.
(3) Rhaid i gynllun gweithredu ac unrhyw ddiwygiad o gynllun gweithredu gael ei seilio ar yr ardaloedd mwyaf pwysig a sefydlwyd gan y canlynol a bod yn gymwys yn benodol i'r ardaloedd hynny—
(a)pob map sŵn strategol—
(i)a wneir neu a ddiwygir yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 ac a fabwysiedir yn unol â rheoliad 23, a
(ii)yn ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi; a
(b)map sŵn cyfunol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “map sŵn cyfunol” (“consolidated noise map”) yw un map sŵn strategol sy'n gyfuniad o bob map sŵn strategol—
(a)a wneir neu a ddiwygir yn unol â rheoliad 7, 11 neu 12 ac a fabwysiedir yn unol â rheoliad 23; a
(b)sy'n ymwneud ag unrhyw ran o'r ardal y mae'r cynllun gweithredu'n ymdrin â hi.
PENNOD 2CYNLLUNIAU GWEITHREDU – FFYNONELLAU Sŵn AC EITHRIO PRIF FEYSYDD AWYR
Awdurdod Cymwys
16. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw'r Cynulliad.
Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu
17.—(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys, heb fod yn hwyrach na 18 Gorffennaf 2008, lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—
(a)lleoedd yn agos i brif ffyrdd cylch cyntaf;
(b)lleoedd yn agos i brif reilffyrdd cylch cyntaf; ac
(c)crynodrefi cylch cyntaf.
(2) Rhaid i'r awdurdod cymwys a hynny heb fod yn hwyrach nag 18 Gorffennaf 2013 lunio cynlluniau gweithredu ar gyfer—
(a)lleoedd yn agos i brif ffyrdd;
(b)lleoedd yn agos i brif reilffyrdd; ac
(c)crynodrefi.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys—
(a)pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran swn; a
(b)pob pum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.
(4) Rhaid i'r awdurdod cymwys—
(a)adolygu; a
(b)diwygio, os bydd angen,
y cynllun gweithredu.
PENNOD 3CYNLLUNIAU GWEITHREDU – PRIF FEYSYDD AWYR
Awdurdod Cymwys
18. Yr awdurdod cymwys o ran y Bennod hon yw gweithredydd y maes awyr.
Dyletswydd i lunio, adolygu a diwygio cynlluniau gweithredu
19.—(1) Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2008—
(a)llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r brif faes awyr; a
(b)cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.
(2) Dim ond os nad oedd hi'n ofynnol i'r awdurdod cymwys lunio cynllun gweithredu ar gyfer y prif faes awyr yn unol â pharagraff (1) oherwydd nad ef oedd yr awdurdod cymwys ar 30 Ebrill 2008 neu cyn hynny y mae paragraff (3) yn gymwys.
(3) Rhaid i'r awdurdod cymwys heb fod yn hwyrach na 30 Ebrill 2013—
(a)llunio cynllun gweithredu ar gyfer lleoedd yn agos i'r prif faes awyr; a
(b)cyflwyno'r cynllun gweithredu hwnnw i'r Cynulliad.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys—
(a)pa bryd bynnag y bydd prif ddatblygiad yn digwydd ac yn effeithio ar y sefyllfa bresennol o ran sŵn; a
(b)o leiaf bob pum mlynedd ar ôl y dyddiad y mabwysiedir cynllun gweithredu yn unol â rheoliad 24.
(5) Rhaid i'r awdurdod cymwys—
(a)adolygu; a
(b)diwygio, os bydd angen,
y cynllun gweithredu.
(6) Rhaid cyflwyno i'r Cynulliad gynllun gweithredu wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (5)(b) a hynny o fewn tri diwrnod gwaith i'w ddiwygio.
PENNOD 4CYNLLUNIAU GWEITHREDU – CYFRANOGIAD CYHOEDDUS
Cyfranogiad cyhoeddus
20.—(1) Rhaid i awdurdodau cymwys, wrth baratoi a diwygio cynlluniau gweithredu o dan reoliadau 16 ac 18 sicrhau—
(a)yr ymgynghorir â'r cyhoedd ynghylch cynigion ar gyfer cynlluniau gweithredu;
(b)y rhoddir i'r cyhoedd gyfleoedd cynnar ac effeithiol i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ac adolygu'r cynlluniau gweithredu;
(c)y rhoddir sylw i ganlyniadau'r cyfranogiad cyhoeddus hwnnw;
(ch)y rhoddir gwybod i'r cyhoedd am y penderfyniadau a wneir; a
(d)y darperir amserlenni rhesymol yn caniatáu digon o amser ar gyfer pob cam o gyfranogiad y cyhoedd.
PENNOD 5RHOI CYNLLUNIAU GWEITHREDU AR WAITH
Rhoi cynlluniau gweithredu ar waith
21.—(1) Os bydd cynllun gweithredu neu ddiwygiad o gynllun gweithredu—
(a)wedi'i fabwysiadu yn unol â rheoliad 24; a
(b)yn nodi bod awdurdod cyhoeddus yn gyfrifol am weithred benodol,
rhaid i'r awdurdod cyhoeddus hwnnw drin y cynllun gweithredu fel pe bai'n bolisi iddo i'r graddau y mae'n ymwneud â'r weithred honno.
(2) Caiff awdurdod cyhoeddus wyro oddi wrth unrhyw bolisi a grybwyllir ym mharagraff (1)—
(a)os yw'n darparu ar gyfer—
(i)y Cynulliad, a
(ii)yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am baratoi'r cynllun gweithredu neu'r diwygiad (os nad y Cynulliad sy'n gyfrifol am hynny),
o roi rhesymau ysgrifenedig am wyro oddi wrth y polisi hwnnw; a
(b)os yw'n cyhoeddi'r rhesymau hynny.
(3) Yn y rheoliad hwn mae “awdurdod cyhoeddus” (“public authority”) yn cynnwys unrhyw berson sy'n arfer swyddogaethau o natur gyhoeddus, ond nid yw'n cynnwys—
(a)Tŷ'r Cyffredin na Thŷ'r Arglwyddi na pherson sy'n arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â thrafodion yn y Senedd yn Llundain;
(b)llysoedd na thribiwnlysoedd; nac
(c)y Cynulliad.