Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

mae “aelod” (“member”), mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—

(a)

aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol; neu

(b)

person sydd yn aelod o unrhyw gyd-bwyllgor neu is-bwllgor, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod perthnasol ar y cyd-bwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor cymuned, awdurdod tân a gyfansoddwyd drwy gynllun cyfuno o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(1), awdurdod tân ac achub a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2) neu gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno yn gymwys iddi, ac awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3);

ystyr “camau Rhan III” (“Part III proceedings”) yw unrhyw ymchwiliad, adroddiad, cyfeiriad, beirniadaeth neu unrhyw gamau eraill arall yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “Cod Ymddygiad” (“Code of Conduct”) yw Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd am y tro gan awdurdod perthnasol yn unol ag adran 51 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “mesurau disgyblu” (“disciplinary measures”) yw—

(a)

atal, neu atal yn rhannol; neu

(b)

anghymhwyso;

ystyr “Pwyllgor Safonau” (“Standards Committee”) yw Pwyllgor Safonau, neu is-bwyllgor ohono, a sefydlwyd gan awdurdod perthnasol yn unol ag adran 53, adran 54A, neu adran 56 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000; ac

mae “sicrhau” (“secure”), mewn perthynas ag unrhyw indemniad a ddarperir drwy gyfrwng yswiriant yn cynnwys trefnu'r yswiriant hwnnw a thalu amdano a dehonglir ymdraddion perthynol yn unol â hynny.

(1)

1947 (p.41). Effaith adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yw, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r adran honno, y bydd awdurdod tân a gyfansoddir o dan adran 5 neu adran 6 o Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947 yn parhau i fod yn effeithiol er bod yr adrannau hynny wedi cael eu diddymu gan Ddeddf 2004.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources