Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

5.—(1Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael eu dehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc);

(b)adran 3 (rhagdybiaeth y bwriedir bwyd i'w fwyta gan bobl);

(c)adran 20 (tramgwyddau o ganlyniad i fai person arall);

(ch)adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adrannau 14 neu 15 o'r Ddeddf;

(d)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);

(dd)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(e)adran 33(1) (rhwystro etc swyddogion);

(f)adran 33(2), gyda'r addasiad bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn cael ei ystyried yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);

(ff)adran 35(1) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (e);

(g)adran 35(2) a (3), i'r graddau y maent yn ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y caiff ei chymhwyso gan is-baragraff (f);

(ng)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(h)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);

(2Bydd adran 9 o'r Ddeddf(1) (archwilio ac atafaelu bwyd dan amheuaeth) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai bwyd y byddai'n dramgwydd ei werthu oddi tanynt yn fwyd nad oedd yn cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

(1)

Diwgiwyd adran 9 gan O.S. 2004/3279.