xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3. Yn rheoliad 2—
(a)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “is-bwyllgor cymunedol” (“community sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodwyd gan bwyllgor safonau awdurdod lleol o dan adran 56 o Ddeddf 2000;”;
(b)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “is-bwyllgor adran 54A” (“section 54A sub-committee”) yw is-bwyllgor a benodir gan bwyllgor safonau awdurdod perthnasol o dan adran 54A(1) o Ddeddf 2000;”;
(c)yn y diffiniad o “pwyllgor safonau”, yn lle “mae'n cynnwys is-bwyllgor i bwyllgor safonau;” rhodder “mae'n cynnwys is-bwyllgor adran 54A ac is-bwyllgor cymunedol.”; ac
(ch)hepgorer y diffiniad o “is-bwyllgor i bwyllgor safonau”.