- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2
1. Niwed Dosbarth 1 yw unrhyw niwed eithafol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a)marw o unrhyw achos;
(b)canser yr ysgyfaint;
(c)mesothelioma a thyfiannau malaen eraill;
(ch)parlysu parhaol islaw'r gwddf;
(d)niwmonia difrifol a rheolaidd;
(dd)colli ymwybyddiaeth yn barhaol;
(e)anafiadau o losgiadau 80%.
2. Niwed Dosbarth II yw unrhyw niwed difrifol iawn y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a)clefyd cardio-resbiriadol;
(b)asthma;
(c)clefydau resbiriadol anfalaen;
(ch)gwenwyno gan blwm;
(d)sioc anaffylactig;
(dd)cryptosporidiosis;
(e)clefyd y llengfilwyr;
(f)cnawdnychiant myocardaidd;
(ff)trawiad ysgafn;
(g)dryswch cronig;
(ng)twymyn ddifrifol reolaidd;
(h)colli llaw neu droed;
(i)torasgwrn difrifol;
(j)llosgiadau difrifol;
(l)colli ymwybyddiaeth am ddyddiau.
3. Niwed Dosbarth III yw unrhyw niwed difrifol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a)anhwylderau'r llygad;
(b)llid y ffroenau;
(c)pwysedd gwaed uchel;
(ch)anhunedd;
(d)nam newroseicolegol;
(dd)syndrom adeilad afiach;
(e)dermatitis rheolaidd a chyson, gan gynnwys dermatitis drwy gyffyrddiad;
(f)alergedd;
(ff)llid y coluddion;
(g)dolur rhydd;
(ng)chwydu;
(h)straen difrifol cronig;
(i)trawiad ysgafn ar y galon;
(j)canser malaen y croen ond un y gellir ei drin;
(l)colli bys;
(ll)torpenglog ac ergydwst difrifol;
(m)clwyfau difrifol i'r pen neu i'r corff sy'n torri drwy'r cnawd;
(n)llosgiadau difrifol i'r dwylo;
(o)anafiadau straen neu ysigiad difrifol;
(p)meigryn difrifol a rheolaidd.
4. Niwed Dosbarth IV yw unrhyw niwed cymedrol y gellir yn rhesymol ei rag-weld o ganlyniad i'r perygl posibl dan sylw, gan gynnwys—
(a)haint y nodau eisbilennol;
(b)anghysur difrifol achlysurol;
(c)tyfiannau diniwed;
(ch)niwmonia ysgafn achlysurol;
(d)torri bys;
(dd)ergydwst ysgafn;
(e)briwiau cymedrol i'r wyneb neu i'r corff;
(f)cleisio difrifol i'r corff;
(ff)peswch neu annwyd difrifol rheolaidd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: