xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Wedi'i wneud
29 Mehefin 2006
Yn dod i rym
30 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005(2), hepgorer y geiriau “Cyngor Sir Ynys Môn”.
Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad
Rosemary F Thomas
Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru
29 Mehefin 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn yn dod â'r trefniadau trosiannol i ben a wnaed o dan Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn Rhif 4”) o ran Cyngor Sir Ynys Môn (“y Cyngor”).
O dan y trefniadau hynny, mae pob awdurdod cynllunio lleol a restrir yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 yn gallu parhau â'r broses sy'n arwain yn y pen draw at fabwysiadu ei gynllun datblygu unedol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn hytrach na gorfod dechrau ar y gwaith o baratoi cynllun datblygu lleol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Mae'r Gorchymyn hwn yn tynnu'r Cyngor oddi ar y rhestr awdurdodau cynllunio lleol yn yr Atodlen i Orchymyn Rhif 4 ac felly mae'n gosod dyletswydd ar y Cyngor i baratoi cynllun datblygu lleol ar gyfer ei ardal.
O.S. 2005/2722 (Cy.193) (C.110) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/842 (Cy.72).