xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005

2.  Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005(1), hepgorer y geiriau “Cyngor Sir Ynys Môn”.

Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad

Rosemary F Thomas

Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru

29 Mehefin 2006