- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
5.—(1) Mae'r apelydd neu'r ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3.
(2) Nid oes ffi i'w thalu o dan reoliad 3 os, ar y dyddiad y gwneir yr apêl neu'r cais, yw'r apelydd neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn–
(a)unrhyw un o'r budd-daliadau a ganlyn o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1)–
(i)cymhorthdal incwm; neu
(ii)budd-dal tai;
(b)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(2);
(c)credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(3)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;
(ch)credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002(4).
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os-
(a)naill ai–
(i)oes elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddau)(5)i'r credyd treth y mae'r person neu bartner y person yn ei gael; neu
(ii)yw'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant (6); a
(b)yw'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14, 213 neu lai.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “partner” (“partner”) o ran person, yw–
(a)os yw'r person yn aelod o gwpwl, yr aelod arall o'r cwpwl hwnnw; neu
(b)os yw'r person yn briod ar yr un pryd â dau neu fwy o aelodau o aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o'r fath.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “cwpwl” (“couple”) yw–
(a)dyn a dynes sy'n briod â'i gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd;
(b)dyn a dynes nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig;
(c)dau o bobl o'r un rhyw sy'n bartneriaid sifil i'w gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd; neu
(ch)dau o bobl o'r un rhyw nad ydynt yn bartneriaid sifil i'w gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil,
ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau o bobl o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil os, ond yn unig os, byddid yn ystyried eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig petaent yn hytrach yn ddau o bobl o wahanol ryw.
1992 p.4; diwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adrannau 60 ac Atodlen 6. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1995 p.18; diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynwyr a Diwygio Lles 1999 (p. 30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.
Gweler adran 11(3), (4) a (6) o Ddeddf Credydau Treth 2002.
Gweler adran 8 o Deddf Credydau Treth 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: