Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apeliadau a cheisiadau i dribiwnlysoedd eiddo preswyl. Maent yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 o ran mangreoedd yng Nghymru.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £150 pan wneir apêl neu gais i dribiwnlys yn ymwneud â–

  • pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre os oes gorchymyn gwahardd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 2004 (“y Deddf”) yn ei le mewn perthynas â'r fangre honno;

  • pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod rhoi hysbysiad esemptiad dros dro mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth sy'n ddarostyngedig i drwyddedu gorfodol o dan Ran 2 o'r Ddeddf;

  • pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod rhoi hysbysiad esemptiad dros dro mewn perthynas â mangre sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol o dan Ran 3 o'r Ddeddf;

  • pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud, neu'n gwrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwella o dan Ran 1 o'r Ddeddf;

  • pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud, neu'n gwrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwahardd o dan Ran 1 o'r Ddeddf;

  • lefel y treuliau a hawlir gan awdurdod tai lleol sy'n ymwneud â gwaith a wnaed ganddo pan na chafwyd cydymffurfiaeth â hysbysiad gwella;

  • pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi neu wedi gwrthod rhoi trwydded o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf a phan fo wedi penderfynu dirymu neu amrywio trwydded o'r fath (neu wedi penderfynu gwrthod gwneud hynny);

  • pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi gorchymyn rheoli dros dro neu derfynol o dan Ran 4 o'r Ddeddf, neu delerau'r gorchymyn hwnnw, a'i benderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn o'r fath (neu ei benderfyniad i wrthod gwneud hynny);

  • pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi gorchymyn terfynol rheoli tŷ gwag o dan Ran 4 o'r Ddeddf, neu delerau'r gorchymyn hwnnw, a'i benderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn o'r fath (neu ei benderfyniad i wrthod gwneud hynny);

  • iawndal taladwy i drydydd parti pan fo gorchymyn rheoli yn cael ei wneud o dan Ran 4 o'r Ddeddf;

  • rhoi gorchymyn dymchwel o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985;

  • cais i wneud gwaith i fangre nad yw'n ffit o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985.

Nid oes ffi i'w thalu os yw seiliau apêl yn erbyn gorchymyn rheoli yn cynnwys methiant i ddelio â thaliad sy'n delio â materion penodedig, er enghraifft, taliad o renti dros ben.

Mae Rheoliad 5 yn darparu y bydd yr apelydd neu'r ceisydd dan rwymedigaeth i dalu'r ffi ac yn darparu ar gyfer gosod y ffi o'r neilltu os yw'r apelydd neu'r ceisydd neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn budd-dâl penodedig.

Mae Rheoliad 6 yn gosod yr amgylchiadau pan gaiff y tribiwnlys orchymyn i un parti i apêl neu gais ad-dalu unrhyw ffioedd a dducpwyd o dan reoliad 3 gan barti arall.

Mae arfarniad rheoliadol wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources