- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
20 Mehefin 2006
Yn dod i rym
23 Mehefin 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 1 a 11 o Atodlen 13 i Ddeddf Tai 2004(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Mehefin 2006.
(2) Yn y Rheoliadau hyn–
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai 2004;
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Tai 1985(2);
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys eiddo preswyl.
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 sy'n ymwneud â mangreoedd yng Nghymru.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(2), mae ffi o £150 yn daladwy am-
(a)apêl i dribiwnlys o dan–
(i)adran 22(9) o'r Ddeddf (gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre sy'n ddarostyngedig i orchymyn gwahardd);
(ii)paragraff 10 o Atodlen 1 i'r Ddeddf (hysbysiad gwella);
(iii)paragraff 13 o Atodlen 1 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu benderfyniad i wrthod dirymu neu amrywio hysbysiad gwella);
(iv)paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Ddeddf (gorchymyn gwahardd);
(v)paragraff 9 o Atodlen 2 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu benderfyniad i wrthod dirymu neu amrywio gorchymyn gwahardd);
(vi)paragraff 11 o Atodlen 3 i'r Ddeddf (hysbysiad gwella: hawliad i ad-ennill treuliau);
(vii)paragraff 32 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (trwyddedu HMO: penderfyniad i amrywio neu i ddirymu trwydded neu benderfyniad i beidio â gwneud hynny);
(viii)paragraff 32 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli: iawndal i drydydd parti);
(ix)paragraff 26(1)(a) a (b) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (gorchymyn terfynol rheoli tŷ gwag);
(x)paragraff 30 o Atodlen 7 i'r Ddeddf (penderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn terfynol neu dros dro rheoli tŷ gwag neu benderfyniad i beidio â gwneud hynny);
(xi)paragraff 34(2) o Atodlen 7 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli tŷ gwag: iawndal i drydydd parti);
(xii)adran 269(1) o Ddeddf 1985 ( gorchmynion dymchwel);
(b)cais i dribiwnlys o dan–
(i)adran 126(4) o'r Ddeddf (effaith gorchmynion rheoli: dodrefn);
(ii)adran 138 o'r Ddeddf (iawndal taladwy i drydydd part 149 on);
(iii)adran 318(1) o Ddeddf 1985 (pŵer y tribiwnlys i awdurdodi gwneud gwaith ar fangre nad yw'n ffit neu ar gyfer gwelliant).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 5(2), mae ffi o £150 i'w thalu am apêl i dribiwnlys o dan un neu fwy o'r darpariaethau a ganlyn–
(a)adran 62(7) o'r Ddeddf (trwyddedu HMO: gwrthod cyflwyno hysbysiad esemptiad dros dro);
(b)adran 86(7) o'r Ddeddf (trwyddedu dethol: gwrthod cyflwyno hysbysiad esemptiad dros dro);
(c)paragraff 31 o Atodlen 5 i'r Ddeddf (rhoi neu wrthod trwydded);
(ch)paragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (gorchymyn rheoli dros dro a gorchymyn rheoli terfynol);
(d)paragraff 28 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (penderfyniad i amrywio neu i ddirymu gorchymyn rheoli neu benderfyniad i wrthod gwneud hynny).
(3) Nid oes ffi i'w thalu os yw apêl o dan is-baragraff (1)(b) o baragraff 24 o Atodlen 6 i'r Ddeddf yn cael ei gwneud ar y seiliau a osodir yn is-baragraff (3) o'r paragraff hwnnw.
4. Mae'n rhaid i unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3 fynd gyda'r apêl neu'r cais a rhaid ei thalu â siec sy'n daladwy i, neu â gorchymyn post wedi ei dynnu o blaid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
5.—(1) Mae'r apelydd neu'r ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sydd i'w thalu o dan reoliad 3.
(2) Nid oes ffi i'w thalu o dan reoliad 3 os, ar y dyddiad y gwneir yr apêl neu'r cais, yw'r apelydd neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn–
(a)unrhyw un o'r budd-daliadau a ganlyn o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(3)–
(i)cymhorthdal incwm; neu
(ii)budd-dal tai;
(b)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(4);
(c)credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(5)y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;
(ch)credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002(6).
(3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os-
(a)naill ai–
(i)oes elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddau)(7)i'r credyd treth y mae'r person neu bartner y person yn ei gael; neu
(ii)yw'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant (8); a
(b)yw'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14, 213 neu lai.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “partner” (“partner”) o ran person, yw–
(a)os yw'r person yn aelod o gwpwl, yr aelod arall o'r cwpwl hwnnw; neu
(b)os yw'r person yn briod ar yr un pryd â dau neu fwy o aelodau o aelwyd y person hwnnw, unrhyw aelod o'r fath.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “cwpwl” (“couple”) yw–
(a)dyn a dynes sy'n briod â'i gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd;
(b)dyn a dynes nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig;
(c)dau o bobl o'r un rhyw sy'n bartneriaid sifil i'w gilydd ac sy'n aelodau o'r un aelwyd; neu
(ch)dau o bobl o'r un rhyw nad ydynt yn bartneriaid sifil i'w gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil,
ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau o bobl o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd megis petaent yn bartneriaid sifil os, ond yn unig os, byddid yn ystyried eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵ r a gwraig petaent yn hytrach yn ddau o bobl o wahanol ryw.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o ran unrhyw apêl neu gais y mae ffi i'w thalu ar ei gyfer o dan reoliad 3, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti i'r apêl neu'r cais ad-dalu i unrhyw barti arall y cyfan neu ran o unrhyw ffi a dalwyd gan y parti hwnnw o ran yr apêl neu'r cais.
(2) Ni chaiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i barti wneud ad-daliad o'r fath os yw'r tribiwnlys, pan fo'n ystyried p'un ai i wneud hynny ai peidio, wedi'i fodloni fod y parti neu bartner y parti yn cael cymorth o unrhyw fath a grybwyllir yn rheoliad 5(2).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mehefin 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apeliadau a cheisiadau i dribiwnlysoedd eiddo preswyl. Maent yn gymwys o ran apeliadau a cheisiadau o unrhyw un o'r mathau a bennir yn rheoliad 3 sy'n cael eu gwneud ar ôl 23 Mehefin 2006 o ran mangreoedd yng Nghymru.
Mae Rheoliadau 3 a 4 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £150 pan wneir apêl neu gais i dribiwnlys yn ymwneud â–
pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod cymeradwyo defnydd o fangre os oes gorchymyn gwahardd o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 2004 (“y Deddf”) yn ei le mewn perthynas â'r fangre honno;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod rhoi hysbysiad esemptiad dros dro mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth sy'n ddarostyngedig i drwyddedu gorfodol o dan Ran 2 o'r Ddeddf;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwrthod rhoi hysbysiad esemptiad dros dro mewn perthynas â mangre sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol o dan Ran 3 o'r Ddeddf;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud, neu'n gwrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwella o dan Ran 1 o'r Ddeddf;
pan fo awdurdod tai lleol yn gwneud, neu'n gwrthod dirymu neu amrywio, hysbysiad gwahardd o dan Ran 1 o'r Ddeddf;
lefel y treuliau a hawlir gan awdurdod tai lleol sy'n ymwneud â gwaith a wnaed ganddo pan na chafwyd cydymffurfiaeth â hysbysiad gwella;
pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi neu wedi gwrthod rhoi trwydded o dan Ran 2 neu 3 o'r Ddeddf a phan fo wedi penderfynu dirymu neu amrywio trwydded o'r fath (neu wedi penderfynu gwrthod gwneud hynny);
pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi gorchymyn rheoli dros dro neu derfynol o dan Ran 4 o'r Ddeddf, neu delerau'r gorchymyn hwnnw, a'i benderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn o'r fath (neu ei benderfyniad i wrthod gwneud hynny);
pan fo awdurdod tai lleol wedi rhoi gorchymyn terfynol rheoli tŷ gwag o dan Ran 4 o'r Ddeddf, neu delerau'r gorchymyn hwnnw, a'i benderfyniad i ddirymu neu i amrywio gorchymyn o'r fath (neu ei benderfyniad i wrthod gwneud hynny);
iawndal taladwy i drydydd parti pan fo gorchymyn rheoli yn cael ei wneud o dan Ran 4 o'r Ddeddf;
rhoi gorchymyn dymchwel o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985;
cais i wneud gwaith i fangre nad yw'n ffit o dan Ran 9 o Ddeddf Tai 1985.
Nid oes ffi i'w thalu os yw seiliau apêl yn erbyn gorchymyn rheoli yn cynnwys methiant i ddelio â thaliad sy'n delio â materion penodedig, er enghraifft, taliad o renti dros ben.
Mae Rheoliad 5 yn darparu y bydd yr apelydd neu'r ceisydd dan rwymedigaeth i dalu'r ffi ac yn darparu ar gyfer gosod y ffi o'r neilltu os yw'r apelydd neu'r ceisydd neu bartner yr apelydd neu'r ceisydd yn derbyn budd-dâl penodedig.
Mae Rheoliad 6 yn gosod yr amgylchiadau pan gaiff y tribiwnlys orchymyn i un parti i apêl neu gais ad-dalu unrhyw ffioedd a dducpwyd o dan reoliad 3 gan barti arall.
Mae arfarniad rheoliadol wedi cael ei wneud mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111; e-bost HousingIntranet@wales.gsi.gov.uk).
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan baragraffau 1 a 11 o Atodlen 13 i'r Ddeddf yn arferadwy o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "appropriate national authority" ("yr awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261(1) o'r Ddeddf.
1992 p.4; diwygiwyd gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adrannau 60 ac Atodlen 6. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
1995 p.18; diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynwyr a Diwygio Lles 1999 (p. 30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.
Gweler adran 11(3), (4) a (6) o Ddeddf Credydau Treth 2002.
Gweler adran 8 o Deddf Credydau Treth 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: