http://www.legislation.gov.uk/wsi/2006/1511/regulation/9/made/welsh
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2012-08-28
ANIFEILIAID, CYMRU;IECHYD ANIFEILIAID
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer mynediad i arolygwyr i ymgymryd â'r samplu sy'n ofynnol o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC (ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin o ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac mae hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau) i ddarganfod pa mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn brwyliaid. Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad roi gwybodaeth, os gofynnir iddo wneud hynny, i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg. Mae rheoliad 5 yn darparu pwerau amrywiol i arolygwyr, gan gynnwys pŵer mynediad a phŵer i gymryd samplau o ddeunydd ysgarthol, i archwilio cofnodion ac i holi unrhyw berson. Mae rheoliad 6 yn creu tramgwyddau am rwystro arolygydd rhag arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 7 yn nodi'r gosb sy'n gymwys. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau o ran tramgwyddau gan gyrff corfforaethol. Mae rheoliad 9 yn darparu y gall y Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.
The Salmonella in Broiler Flocks (Survey Powers) (Wales) Regulations 2006
Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006
Regulations
The Environment, Planning and Rural Affairs (Miscellaneous Amendments) (Wales) Regulations 2018
Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018
reg. 38(b)
reg. 1(3)
Gorfodi9
1
Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.
2
Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).