xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1511 (Cy.147)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

13 Mehefin 2006

Yn dod i rym

Mehefin 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1)at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau o Frwyliaid (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2006; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 14 Mehefin 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), mewn perthynas ag ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “daliad” (“holding”) yw cyfleuster a ddefnyddir ar gyfer magu neu gadw brwyliaid;

ystyr “Penderfyniad y Comisiwn” (“Commission Decision”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin ar ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus a hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau (3);

(2Mae i ymadroddion a ddiffinnir ym Mhenderfyniad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

Y cyfrifoldeb dros ddethol

3.  Y Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn.

Dethol daliadau

4.—(1Rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad (neu unrhyw gyflogai neu asiant i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad) anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn pen 7 niwrnod ar ôl cael cais gan y Cynulliad Cenedlaethol, yr wybodaeth y mae arno ei hangen i'w gynorthwyo i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn, gan gynnwys–

(a)y nifer o frwyliaid neu'r nifer o heidiau o frwyliaid ar y daliad;

(b)nifer ac amserau cylchdroeon yr heidiau o frwyliaid ar y daliad; ac

(c)math cynhyrchu'r brwyliaid ar y daliad.

(2Mae unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Pwerau arolygwyr

5.—(1Mae gan arolygydd, ar ôl dangos rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol, i fynd i mewn i unrhyw ddaliad a ddetholir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn, er mwyn canfod yn unol â'r Penderfyniad hwnnw–

(a)a yw Salmonela spp. yn bodoli neu wedi bodoli yno;

(b)statws brechu'r brwyliaid ar y daliad yn erbyn Salmonela; ac

(c)a yw cyffuriau gwrthficrobaidd wedi'u defnyddio.

(2Yn ychwanegol at ei hawl o dan baragraff (1), caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw ddaliad er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(3Pan fo wedi mynd i mewn i ddaliad, caiff arolygydd–

(a)cymryd samplau o deunydd ysgarthol;

(b)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag, gan gynnwys cofnodion cyfrifiadurol, a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;

(c)holi unrhyw berson; ac

(ch)cymryd gydag ef unrhyw berson, cerbyd neu gyfarpar y mae'n barnu ei bod yn angenrheidiol i roi'r Rheoliadau hyn ar waith neu i'w gorfodi.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “arolygydd” yw unrhyw berson a benodir i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu awdurdod lleol.

Tramgwyddau

6.  Bydd unrhyw berson sydd–

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol iddo ei roi neu ei rhoi er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu

(ch)yn methu, heb esgus rhesymol, â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, yn euog o dramgwydd.

Y gosb

7.  Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

8.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu gynrychiolydd tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd ef, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

9.—(1Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, mai ef, ac nid yr awdurdod lleol, sy'n gorfod cyflawni unrhyw ddyletswydd a osodwyd ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mehefin 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu pŵer mynediad i arolygwyr i ymgymryd â'r samplu sy'n ofynnol o dan Benderfyniad y Comisiwn 2005/636/EC (ynghylch cyfraniad ariannol gan y Gymuned at arolwg gwaelodlin o ba mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn heidiau o frwyliaid Gallus gallus ac mae hwnnw'n arolwg sydd i'w gynnal yn yr Aelod-wladwriaethau) i ddarganfod pa mor gyffredin y mae Salmonela spp. mewn brwyliaid. Mae rheoliad 3 yn darparu bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gyfrifol am ddethol daliadau i'w samplu at ddibenion Penderfyniad y Comisiwn. Mae Rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i feddiannydd daliad neu'r person sydd â gofal dros ddaliad roi gwybodaeth, os gofynnir iddo wneud hynny, i'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn cynorthwyo'r Cynulliad Cenedlaethol i ddethol y daliadau sydd i'w cynnwys yn yr arolwg. Mae rheoliad 5 yn darparu pwerau amrywiol i arolygwyr, gan gynnwys pŵer mynediad a phŵer i gymryd samplau o ddeunydd ysgarthol, i archwilio cofnodion ac i holi unrhyw berson. Mae rheoliad 6 yn creu tramgwyddau am rwystro arolygydd rhag arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn ac mae rheoliad 7 yn nodi'r gosb sy'n gymwys. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaethau o ran tramgwyddau gan gyrff corfforaethol. Mae rheoliad 9 yn darparu y gall y Rheoliadau hyn gael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

Mae arfarniad rheoliadol am yr effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a gellir cael copïau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L 228, 3.9.2005, t.14.