- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Rhaid bod–
(a)man derbyn lle y mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn cael eu derbyn;
(b)man lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio gyda chyfleusterau digonol ar gyfer gwneud hynny; ac
(c)man glân lle y mae compost neu weddill traul yn cael ei storio.
(2) Rhaid i'r man glân fod wedi'i wahanu'n ddigonol oddi wrth y man derbyn a'r fan lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r man glân o'r mannau eraill.
(3) Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w lanhau a'i ddiheintio a rhaid bod yno le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin.
2. Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y man derbyn a naill ai–
(a)eu trin ar unwaith; neu
(b)eu storio yn y man derbyn a'u trin heb oedi amhriodol.
3. Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd–
(a)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi â deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu hylifau sy'n dod ohono; a
(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi â deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu â hylifau sy'n dod ohono.
4. Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos–
(a)y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned;
(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi a deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu a hylifau sy'n dod ohono, a
(c)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi a deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu a hylifau sy'n dod ohnono.
5. Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin yn y man pwrpasol cyn iddynt adael y fangre a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo dim ond gwastraff arlwyo heb ei drin ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: