RHAN 2Casglu, cludo, storio, trafod, prosesu a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Casglu, cludo a storio8

1

Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 7(1), 7(2) neu 7(5) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

2

At ddibenion paragraff (1), os bydd gwahanol gategorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu cludo mewn un cerbyd ond mewn gwahanol gynwysyddion neu adrannau, ac os na ellir gwarantu y bydd y gwahanol fathau o sgil-gynhyrchion yn hollol ar wahân, rhaid trin y sgil-gynhyrchion sy'n cael eu cludo yn unol â'r gofynion ar gyfer y sgil-gynhyrchion uchaf eu risg sy'n cael eu cludo.

3

Yn unol ag Erthygl 7(6) o'r Rheoliad hwnnw, ni fydd darpariaethau Erthygl 7 yn gymwys i wrtaith sy'n cael ei gludo o fewn y Deyrnas Unedig.

4

Yn unol â pharagraff 1 o Bennod X o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, caniateir i ddogfen fasnachol sy'n cynnwys yr wybodaeth ym Mhennod III o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, ni waeth beth fyddo'i fformat, fynd gyda sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gludir o fewn y Deyrnas Unedig.