Rhanddirymiadau'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid
26.—(1) Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion diagnostig, dibenion addysgol neu ddibenion ymchwil os yw hynny'n unol ag awdurdodiad.
(2) Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi–
(a)os yw'n unol ag awdurdodiad; a
(b)os yw mewn gwaith technegol a gymeradwywyd.
(3) Caniateir rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned yn fwyd i–
(a)anifeiliaid sw;
(b)anifeiliaid syrcas;
(c)ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas;
(ch)cŵ n o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu
(d)cynrhon ar gyfer abwyd pysgota,
os yw'n unol ag awdurdodiad.
(4) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o fangreoedd a awdurdodir ar gyfer rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gwn hela a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota.
(5) Mae'r gofrestr yn y paragraff blaenorol i gynnwys yr wybodaeth ganlynol–
(a)enw'r gweithredydd;
(b)cyfeiriad y fangre; ac
(c)y busnes sy'n cael ei redeg yn y fangre.
(6) Yn y rheoliad hwn ac yn y rheoliad canlynol ystyr “sw” yw mangre sydd naill ai wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981(1) neu fangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi gollyngiad iddi o dan adran 14 o'r Ddeddf honno.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.