12.—(1) Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(c) o Reoliad y Gymuned (rhoi deunydd ar dir pori) yn dramgwydd.
(2) At ddibenion paragraff (1), tir y bwriedir ei ddefnyddio i bori neu gnydio bwydydd anifeiliaid ar ôl rhoi neu ddyroddi arno wrteithiau organig a deunyddiau i wella'r pridd (ac eithrio gwrtaith neu gynnwys llwybr treulio) o fewn y cyfnodau canlynol yw tir pori–
(a)deufis yn achos moch; a
(b)tair wythnos yn achos anifeiliaid eraill a ffermir.
(3) Bydd unrhyw berson sydd–
(a)yn defnyddio tir pori ar gyfer pori o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2); neu
(b)yn rhoi'n fwyd i foch neu i anifeiliaid eraill a ffermir o fewn y cyfnod hwnnw unrhyw beth sydd wedi'i gnydio o dir pori yn ystod y cyfnod hwnnw;
yn euog o dramgwydd.