xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8Gweinyddu a gorfodi

Rhoi cymeradwyaethau, etc

40.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni bod cydymffurfio â gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn wedi digwydd.

(2Lle y bo'n briodol, rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad bennu,–

(a)cyfeiriad y fangre a gweithredydd y fangre;

(b)y rhannau o'r fangre lle y gellir derbyn a phrosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid; ac

(c)y cyfarpar, y dulliau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â hwy a'r paramedrau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'u mewn.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, neu'n ei rhoi neu'n ei roi yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd–

(a)rhoi'r rhesymau; a

(b)egluro hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben.

(4Tra byddo'r fangre'n cael ei dilysu at ddibenion rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddyd ysgrifenedig ynghylch sut y mae'n rhaid gwaredu'r deunydd a broseswyd neu a gafodd ei drin, ac mae methu cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn yn dramgwydd.

Atal, diwygio a dirymu cymeradwyaethau, etc.

41.—(1Drwy gyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd–

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal ar unwaith gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os na chydymffurfir ag unrhyw un o'r amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth, yr awdurdodiad neu'r cofrestriad oddi tanynt, a

(b)caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os y'i bodlonir na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.

(2O ran ataliad neu ddiwygiad o dan baragraff (1)(b)–

(a)rhaid iddo gael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid;

(b)fel arall ni fydd yn cael effaith am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(3Rhaid i'r hysbysiad–

(a)ddatgan pryd y mae'n dod yn effeithiol;

(b)rhoi'r rhesymau drosto; ac

(c)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Os na fydd yr hysbysiad yn cael effaith ar unwaith, a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 42, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol hyd oni wneir y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith ar unwaith a'i fod yn cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os yw wedi'i fodloni, yn dilyn sylwadau a gyflwynir o dan reoliad 42, os o gwbl, yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cefnogi ataliad, ac o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y fangre'n cael ei rhedeg yn unol â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned.

Cyflwyno sylwadau i berson a benodwyd

42.—(1Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch gwrthodiad, ataliad neu ddiwygiad o dan reoliad 40 neu 41 o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad o'r penderfyniad gael ei roi i berson a benodwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r person a benodwyd roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.

Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo

43.  Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd–

(a)cyflwyno i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw waredu'r sgil-gynnyrch yn y modd a gaffo ei bennu yn yr hysbysiad (ac, os oes angen, yn pennu sut i'w storio hyd nes y'i gwaredir); neu

(b)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre yn gwahardd dod â sgil-gynhyrchion anifeiliaid i mewn i'r fangre, neu'n caniatáu hyn mewn ffordd a bennir yn yr hysbysiad yn unig.

Glanhau a diheintio

44.—(1Os bydd yn rhesymol i arolygydd amau bod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddo neu iddi yn risg i iechyd anifail neu'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal am y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y fangre, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd gael ei lanhau a'i ddiheintio neu i'r fangre gael ei glanhau neu ei diheintio.

(2Caiff yr hysbysiad–

(a)pennu'r dull glanhau a diheintio;

(b)pennu dull gwaredu unrhyw ddeunydd sydd ar ôl yn y cerbyd, y cynhwysydd neu yn y fangre; ac

(c)gwahardd symud unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid i mewn i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd neu i'r fangre hyd nes bydd y gwaith glanhau a diheintio gofynnol wedi'i gwblhau'n foddhaol.

Cydymffurfio â hysbysiadau

45.—(1Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.

(2Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.

Pwerau mynediad

46.—(1O ddangos, os bydd angen hynny, unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, bydd hawl gan arolygydd i fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre (gan gynnwys unrhyw fangre ddomestig os y'i defnyddir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad y Gymuned neu â'r Rheoliadau hyn) a hynny at ddibenion sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “fangre”yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

(2Caiff arolygydd–

(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(c)cymryd unrhyw samplau;

(ch)gweld, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y'u cedwir) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

(d)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'i archwilio a gwirio ei weithrediad; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys darparu ar gyfer yr arolygydd unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifeiliaid neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd â'r canlynol gydag ef–

(i)y cyfryw bersonau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(ii)unrhyw un o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu'n tynnu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

(4Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw'n fangre wedi'i meddiannu rhaid i'r arolygydd ei gadael fel y'i cafodd, sef yn effeithiol o ddiogel fel na allo neb nad yw wedi'i awdurdodi fynd i mewn iddi.

Rhwystro

47.  Bydd unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw–

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb achos rhesymol, yn methu rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn i'r arolygydd amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu

(ch)yn methu dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith.

Cosbau

48.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliad hwn yn agored–

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn y swyddogaeth honno,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

49.—(1Gorfodir y Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw ladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, a gweithfeydd torri sy'n gosod cig ffres ar y farchnad a lle y'u gorfodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(2Ac eithrio fel a bennir ym mharagraffau (1) uchod (2) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Mesurau trosiannol: cynhyrchion technegol

50.—(1Er gwaethaf rheoliadau 4 a 5, caiff gosod ar y farchnad fathau o ddeunydd Categori 1 a Chategori 2 y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 i'w traddodi i waith technegol pwrpasol a gymeradwywyd yn unol ag Erthygl 18 o Reoliad y Gymuned ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw.

(2Mae methu cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 (gosod ar y farchnad) neu Erthygl 5 o'r Rheoliad hwnnw (casglu a chludo) yn dramgwydd.

Mesurau trosiannol: cynhyrchion ffotograffig yn dod o gelatin

51.—(1Er gwaethaf rheoliad 4, yn unol ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC, awdurdodir defnyddio gelatin i weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig os–

(a)y'i cynhyrchwyd o ddeunydd Categori 1 yn unol â'r Penderfyniad hwnnw; a

(b)y'i mewnforiwyd yn unol â'r Penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig fynd rhagddo yn y ffatri ffotograffig a restrir yn Atodiad I i'r Penderfyniad hwnnw, ac yn unol â chymeradwyaeth a roddwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal y gymeradwyaeth ar unwaith os na chydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw berson–

(a)cludo'r gelatin ffotograffig mewn cerbyd sy'n cludo ar yr un pryd unrhyw gynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid, gan gynnwys gelatin a fwriedir at ddibenion ac eithrio'r diben o'i ddefnyddio yn y diwydiant ffotograffig;

(b)defnyddio'r gelatin a fewnforiwyd ac eithrio yn y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd;

(c)defnyddio'r gelatin at unrhyw ddiben ac eithrio cynhyrchu ffotograffig; neu

(ch)anfon y gelatin i Aelod-wladwriaeth arall.

(5Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd sicrhau bod unrhyw gelatin ffotograffig sydd dros ben neu weddillion y gelatin ffotograffig a gwastraff arall sy'n deillio ohono–

(a)yn cael eu cludo mewn cynhwysion dan sêl nad ydynt yn gollwng ac sydd wedi'u labelu ‘for disposal only’ mewn cerbydau o dan amodau hylendid boddhaol;

(b)yn cael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi'n unol â Chyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2000/76/EC(1) neu mewn safle tirlenwi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC(2); neu

(c)yn cael eu hallforio i'r wlad y daeth y gelatin ohoni yn unol â Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 259/93 ar oruchwylio a rheoli llwythi o wastraff o fewn y Gymuned Ewropeaidd, i'r Gymuned ac o'r Gymuned(3).

(6Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd gadw cofnodion am ddwy flynedd o leiaf yn rhoi manylion ynghylch prynu a defnyddio gelatin ffotograffig, yn ogystal ag ynghylch gwaredu gweddillion a deunydd dros ben.

(7Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac nad yw wedi'i gludo, ei ddefnyddio neu ei waredu'n unol â'r rheoliad hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardygydd waredu'r deunydd fel a bennir yn yr hysbysiad.

(8Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn neu ag hysbysiad a gyflwynir oddi tano'n dramgwydd.

Mesurau trosiannol: llaeth

52.  Awdurdodir casglu, cludo, prosesu, defnyddio a storio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005, a'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion dyroddi cofrestriadau ac awdurdodiadau'n unol â'r Rheoliad hwnnw.

Diddymu a dirymu

53.—(1Diddymir y canlynol i'r graddau y maent yn effeithiol o ran Cymru–

(a)adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12, 19 i 26, 29, 33 o Ddeddf Lladd-dai 1974(4) ac, yn adran 34, y diffiniad o “horse”, “construction regulations”, “licence”, “knacker’s yard”; a

(b)adran 6 o Ddeddf Cwn 1906(5).

(2Dirymir Gorchymyn Rendro (Trin Hylif) (Cymru) 2001(6) a Dirymir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003.

(1)

OJ Rhif L332, 28.12.2000, t.91.

(2)

OJ Rhif L182, 16.7.1999, t.1; Cyfarwyddeb fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a"r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(3)

OJ Rhif L30, 6.2.1993, t.1; Rheoliad fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2557/2001 (L349, 31.12.2001, t.1).