xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
25. Yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod V o Reoliad y Gymuned (rhanddirymiadau) fydd y Cynulliad Cenedlaethol.
26.—(1) Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion diagnostig, dibenion addysgol neu ddibenion ymchwil os yw hynny'n unol ag awdurdodiad.
(2) Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi–
(a)os yw'n unol ag awdurdodiad; a
(b)os yw mewn gwaith technegol a gymeradwywyd.
(3) Caniateir rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned yn fwyd i–
(a)anifeiliaid sw;
(b)anifeiliaid syrcas;
(c)ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas;
(ch)cŵ n o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu
(d)cynrhon ar gyfer abwyd pysgota,
os yw'n unol ag awdurdodiad.
(4) Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o fangreoedd a awdurdodir ar gyfer rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gwn hela a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota.
(5) Mae'r gofrestr yn y paragraff blaenorol i gynnwys yr wybodaeth ganlynol–
(a)enw'r gweithredydd;
(b)cyfeiriad y fangre; ac
(c)y busnes sy'n cael ei redeg yn y fangre.
(6) Yn y rheoliad hwn ac yn y rheoliad canlynol ystyr “sw” yw mangre sydd naill ai wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981(1) neu fangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi gollyngiad iddi o dan adran 14 o'r Ddeddf honno.
(7) Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.
27.—(1) At ddibenion Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned, ni chaiff unrhyw berson weithredu canolfan gasglu at ddibenion bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid–
(a)i gwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu
(b)i gynrhon ar gyfer abwyd pysgota;
onid yw'r fangre a gweithredydd y fangre wedi'u hawdurdodi.
(2) Ni chaiff unrhyw berson weithredu unrhyw fangre lle y cesglir sgil-gynhyrchion anifeiliaid a lle y cânt eu trin ar gyfer eu rhoi yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas mewn mangreoedd eraill onid yw'r fangre lle y cesglir y sgil-gynhyrchion hynny a lle y cânt eu trin a gweithredydd y fangre honno wedi'u hawdurdodi.
(3) Rhaid i weithredydd mangreoedd a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn gynnal a gweithredu'r fangre'n unol ag–
(a)yr amodau sy'n gymwys i ganolfan gasglu yn Atodiad IX i Reoliad y Gymuned;
(b)amodau'r awdurdodiad; ac
(c)holl ofynion perthnasol eraill Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.
(4) Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir yn y fangre, neu a wahoddir i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.
(5) Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.
28. Yn unol ag Erthygl 24(1)(a) o Reoliad y Gymuned, caniateir i anifeiliaid anwes sydd wedi trigo gael eu claddu.
29.—(1) Dim ond Ynys Enlli ac Ynys Bur sy'n ardaloedd pellennig at ddibenion Erthygl 24(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac yn unol â hynny caniateir gwaredu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw ac sy'n tarddu o'r ardaloedd hynny drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre ar yr amod y gwneir hyn yn unol â Rhan C o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003(2).
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a rhan C o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.
30.—(1) Yn unol ag Erthygl 24(1)(c) o Reoliad y Gymuned, os oes brigiad clefyd sydd wedi'i grybwyll yn Rhestr A o Swyddfa Ryngwladol Clefydau Episootig, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre (fel y diffinnir “burning or burial on site”yn Rhan A o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003) os yw'r sgil-gynnyrch anifeiliaid yn cael ei gludo, a'i gladdu neu ei losgi, yn unol–
(a)â hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Erthygl 24(1)(c) sy'n awdurdodi gwaredu yn unol â'r ddarpariaeth honno; a
(b)â darpariaethau Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn EC Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo.
(2) Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.
31. Yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, caniateir gwaredu gwenyn a chynhyrchion gwenyna Categori 2 drwy eu claddu neu eu llosgi yn y fangre os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â'r Erthygl honno.
OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.