Search Legislation

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 1293 (Cy.127)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

10 Mai 2006

Yn dod i rym

12 Mai 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol–

RHAN 1Cyflwyniad

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006; maent yn gymwys i Gymru ac yn dod i rym ar 12 Mai 2006.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn–

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol i fod yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas â sir neu fwrdeistref sirol yw cyngor y sir neu'r fwrdeistref sirol honno;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) ym Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “Rheoliad y Gymuned” (“the Community Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(3) fel y'i diwygiwyd gan y canlynol ac fel y'i darllenir gyda hwy–

(a)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(4);

(b)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a mesurau trosiannol penodol(5);

(c)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(6);

(ch)

Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a Chategori 3(7);

(d)

Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol(8);

(dd)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd (9);

(e)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a 2 ac a fwriedir at ddibenion techchnegol(10);

(h)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw(11).

(ff)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran dulliau o waredu neu o ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsnewid bio-nwy a phrosesu brasderau wedi'u rendro(12);

(g)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid(13);

(2Y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a geir yn Erthyglau 4, 5 a 6 o Reoliad y Gymuned yn y drefn honno yw'r deunydd Categori 1, y deunydd Categori 2 a'r deunydd Categori 3, ac mae i ymadroddion eraill a ddiffinnir yn Rheoliad y Gymuned yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn.

Cymeradwyaethau, etc.

3.  Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, cofrestriad, gyfarwyddyd hysbysiad neu gydnabyddiaeth a ddyroddir o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned fod yn ysgrifenedig, a gallant fod yn ddarostyngedig i'r amodau sy'n angenrheidiol i

(a)sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)diogelu iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid.

RHAN 2Casglu, cludo, storio, trafod, prosesu a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid

Deunydd Categori 1

4.—(1Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 1 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 4(2) neu Erthygl 4(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion Erthygl 4(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.

(3Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys o ran deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(e) o Reoliad y Gymuned (gwastraff arlwyo o gyfrwng cludo sy'n gweithredu o'r tu allan i'r Gymuned).

Deunydd Categori 2

5.—(1Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 2 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 5(2), Erthygl 5(3) neu Erthygl 5(4) (ac eithrio'r ddarpariaeth yn Erthygl 5(4) sy'n ymwneud ag allforio) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion Erthygl 5(2)(b) o Reoliad y Gymuned caniateir prosesu'r deunydd drwy ddefnyddio unrhyw un neu rai o ddulliau prosesu 1 i 5.

(3At ddibenion Erthygl 5(2)(e) o Reoliad y Gymuned caniateir rhoi ar dir y sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn yr is-baragraff hwnnw ar yr amod nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gosod unrhyw gyfyngiadau sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid mewn perthynas â'r sgil-gynhyrchion hynny.

Deunydd Categori 3

6.  Bydd unrhyw berson sy'n meddu ar unrhyw ddeunydd Categori 3 neu sydd â rheolaeth drosto ac sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 6(2) neu Erthygl 6(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Cymysgu sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd

7.  Pan gymysgir sgil-gynhyrchion mamalaidd a sgil-gynhyrchion anfamalaidd, rhaid ystyried y cymysgedd yn sgil-gynhyrchion mamalaidd.

Casglu, cludo a storio

8.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 7(1), 7(2) neu 7(5) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2At ddibenion paragraff (1), os bydd gwahanol gategorïau o sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn cael eu cludo mewn un cerbyd ond mewn gwahanol gynwysyddion neu adrannau, ac os na ellir gwarantu y bydd y gwahanol fathau o sgil-gynhyrchion yn hollol ar wahân, rhaid trin y sgil-gynhyrchion sy'n cael eu cludo yn unol â'r gofynion ar gyfer y sgil-gynhyrchion uchaf eu risg sy'n cael eu cludo.

(3Yn unol ag Erthygl 7(6) o'r Rheoliad hwnnw, ni fydd darpariaethau Erthygl 7 yn gymwys i wrtaith sy'n cael ei gludo o fewn y Deyrnas Unedig.

(4Yn unol â pharagraff 1 o Bennod X o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, caniateir i ddogfen fasnachol sy'n cynnwys yr wybodaeth ym Mhennod III o Atodiad II i Reoliad y Gymuned, ni waeth beth fyddo'i fformat, fynd gyda sgil-gynhyrchion anifeiliaid a gludir o fewn y Deyrnas Unedig.

RHAN 3Cyfyngiadau ar fynediad at sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac ar eu defnyddio

Cyfyngiadau ar roi gwastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill yn fwyd

9.—(1Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(b) o Reoliad y Gymuned (sy'n gwahardd rhoi gwastraff arlwyo neu ddeunyddiau bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys gwastraff arlwyo neu sy'n deillio ohono yn fwyd i anifeiliaid a ffermir) yn dramgwydd ac mae rhoi'r cyfryw ddeunyddiau'n fwyd i unrhyw anifail arall sy'n cnoi cil, i fochyn neu i aderyn hefyd yn dramgwydd.

(2Mae rhoi unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid arall ac eithrio'r canlynol yn fwyd i unrhyw anifail sy'n cnoi cil, i fochyn neu i aderyn yn dramgwydd (onid yw wedi'i brosesu'n unol â Rheoliad y Gymuned)–

(a)llaeth hylif neu laeth tor a ddefnyddir ar y fferm y mae'n tarddu ohoni; neu

(b)yn unol ag Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i cymhwysir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.

Ailgylchu mewnrywogaethol

10.—(1Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(a) o Reoliad y Gymuned (sy'n gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol) yn dramgwydd.

(2Er gwaethaf paragraff (1), nid yw rhoi protein anifeiliaid wedi'i brosesu sy'n deillio o gyrff neu o rannau o gyrff pysgod yn fwyd i bysgod yn dramgwydd os gwneir hyn yn unol ag Erthyglau 2 i 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 ac Atodiad I iddo.

(3Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 5 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys o ran–

(a)gwastraff arlwyo o bob math (gan gynnwys gwastraff arlwyo nad yw Rheoliad y Gymuned yn gymwys iddo oherwydd Erthygl 1(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw) onid yw naill ai–

(i)wedi'i brosesu drwy ddefnyddio dull 1 ym Mhennod III o Atodiad V i Reoliad y Gymuned, neu

(ii)wedi'i drin yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn; a

(b)sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill nad ydynt wedi'u prosesu na'u trin yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.

(2Mae unrhyw berson sy'n dod ag unrhyw wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall (ac eithrio llaeth, llaeth tor, gwrtaith neu gynnwys y llwybr treulio) i mewn i unrhyw fangre lle y cedwir da byw yn euog o dramgwydd.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw meddiannydd y fangre a'r person sy'n rheoli'r sgil-gynhyrchion yn sicrhau nad oes gan y da byw fynediad at y sgil-gynhyrchion, ac–

(a)os caiff y sgil-gynhyrchion eu cludo i'r fangre ar gerbyd sy'n dod i mewn i'r fangre i gasglu sgil-gynhyrchion eraill ac os na symudir y sgil-gynhyrchion o'r cerbyd tra byddo'r cerbyd yn y fangre;

(b)os caiff y sgil-gynhyrchion eu dwyn, yn unol â'r gymeradwyaeth neu'r awdurdodiad ar gyfer y gweithfeydd perthnasol, i fangre lle y mae'r gweithfeydd canlynol wedi'u lleoli–

(i)canolfan gasglu, gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes, llosgydd neu fangre gymeradwy arall a oedd ar waith fel mangre gymeradwy ar 1 Tachwedd 2002; neu

(ii)gweithfeydd hanner-ffordd Categori 3, gweithfeydd technegol neu weithfeydd lle y defnyddir y sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion addysgol, dibenion ymchwilio, neu ddibenion diagnostig; neu

(c)os bwriedir rhoi'r sgil-gynhyrchion yn fwyd i anifeiliaid yn y fangre yn unol ag Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned fel y'i cymhwysir gan reoliad 26(3) o'r Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant garcas neu ran o garcas unrhyw dda byw nas cigyddwyd i'w bwyta gan bobl, tra byddo'n disgwyl anfon y carcas neu'r rhan o garcas neu ei waredu neu ei gwaredu'n unol â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, sicrhau y'i cedwir yn y fath fodd fel nad oes gan anifeiliaid ac adar (gan gynnwys anifeiliaid ac adar gwyllt) fynediad ato neu ati, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

(5Mae i unrhyw berson ganiatáu i dda byw gael mynediad at unrhyw wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall yn dramgwydd ac eithrio at–

(a)gwrtaith;

(b)llaeth neu laeth tor;

(c)cynnwys llwybr treulio a roddwyd ar dir ar yr amod na chaniateir i dda byw fynd ar y tir am dair wythnos o leiaf ar ôl ei roi ar y tir; neu

(ch)gwrtaith a gynhyrchwyd ac a roddwyd ar dir yn unol â rheoliad 16 ar yr amod y cydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwnnw.

(6Mae i unrhyw berson ganiatáu i unrhyw anifail gael mynediad at ddeunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo neu sgil-gynnyrch anifeiliaid arall mewn gweithfeydd bio-nwy neu gompostio yn dramgwydd, ac eithrio nad yw'n dramgwydd i adar gwyllt gael mynediad at y deunydd yn ystod ail gyfnod compostio neu gyfnod compostio dilynol.

(7Yn y rheoliad hwn ystyr “da byw” yw pob anifail a ffermir, ac unrhyw anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil, moch ac adar (ac eithrio adar gwyllt).

Tir pori

12.—(1Mae mynd yn groes i Erthygl 22(1)(c) o Reoliad y Gymuned (rhoi deunydd ar dir pori) yn dramgwydd.

(2At ddibenion paragraff (1), tir y bwriedir ei ddefnyddio i bori neu gnydio bwydydd anifeiliaid ar ôl rhoi neu ddyroddi arno wrteithiau organig a deunyddiau i wella'r pridd (ac eithrio gwrtaith neu gynnwys llwybr treulio) o fewn y cyfnodau canlynol yw tir pori–

(a)deufis yn achos moch; a

(b)tair wythnos yn achos anifeiliaid eraill a ffermir.

(3Bydd unrhyw berson sydd–

(a)yn defnyddio tir pori ar gyfer pori o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2); neu

(b)yn rhoi'n fwyd i foch neu i anifeiliaid eraill a ffermir o fewn y cyfnod hwnnw unrhyw beth sydd wedi'i gnydio o dir pori yn ystod y cyfnod hwnnw;

yn euog o dramgwydd.

RHAN 4Mangreoedd a gymeradwywyd a'r awdurdod cymwys

Yr awdurdod cymwys

13.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol fydd yr awdurdod cymwys at ddibenion rhoi cymeradwyaethau o dan–

(a)Pennod III a Phennod IV o Reoliad y Gymuned;

(b)yr Atodiadau i'r Rheoliad hwnnw;

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005; ac

(ch)y Rheoliadau hyn.

(2Ef hefyd fydd yr awdurdod cymwys ar gyfer–

(a)gwirio gweithfeydd hanner-ffordd yn unol ag Erthyglau 10(2)(d) a 10(3)(d) o Reoliad y Gymuned;

(b)gwirio gweithfeydd storio yn unol ag Erthygl 11(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

(c)dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori a Chategori 2 yn unol ag Erthyglau 13(2)(c) a 13(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw, goruchwylio gweithfeydd prosesu Categori 1, 2 a 3 yn unol â pharagraff o Bennod IV o Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw, a dilysu'r gweithfeydd hynny yn unol â pharagraff 1 o Bennod V o Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw;

(ch)awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 2 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 yn unol â pharagraff 2 o Bennod 1 o Atodiad VI i'r Rheoliad hwnnw;

(d)gwirio gweithfeydd oleocemegol yn unol ag Erthygl 14(2)(d) o'r Rheoliad hwnnw a derbyn y cofnodion a gyflwynir yn unol ag Erthygl 14(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

(dd)gwirio gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio yn unol ag Erthygl 15(2)(c) o'r Rheoliad hwnnw;

(e)dilysu a gwirio gweithfeydd prosesu Categori 3 yn unol ag Erthygl 17(2)(c) a 17(2)(e) o'r Rheoliad hwnnw;

(f)awdurdodi defnyddio dros dro waith prosesu Categori 3 ar gyfer prosesu deunydd Categori 1 neu Gategori 2 yn unol â pharagraff 2 o Bennod 1 o Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw, neu ddefnyddio gwaith prosesu Categori 2 fel canolfan gasglu yn unol â pharagraff 3 o Atodiad IX i'r Rheoliad hwnnw;

(ff)derbyn cofnodion yn ymwneud â gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol a gyflwynir yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iv) o'r Rheoliad hwnnw;

(g)cydnabod labordai at ddibenion dadansoddi samplau o weithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(a)(iii) o'r Rheoliad hwnnw, derbyn gwybodaeth o dan Erthygl 18(2)(a)(v) o'r Rheoliad hwnnw, a gwirio gweithfeydd bwyd anifeiliaid anwes a gweithfeydd technegol yn unol ag Erthygl 18(2)(b) o'r Rheoliad hwnnw;

(ng)goruchwylio ailbrosesu yn unol ag Erthygl 25(2)(c) a (d) o'r Rheoliad hwnnw;

(h)arolygu a goruchwylio'n unol ag Erthygl 26 o'r Rheoliad hwnnw;

(i)rhoi cyfarwyddiadau at ddibenion paragraff 4 o Bennod II o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw;

(j)derbyn dogfennau masnachol a gyflwynir yn unol â Phennod V o Atodiad II i'r Rheoliad hwnnw;

(l)awdurdodi pwynt cynrychioliadol yn siambr ymlosgi llosgydd yn unol â pharagraff 3 o Bennod II o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw, ac archwilio llosgyddion yn unol â pharagraff 8 o Bennod VII o Atodiad IV i'r Rheoliad hwnnw(14); ac

(ll)awdurdodi gofynion penodol yn unol â pharagraff 14 o Ran C o Bennod II o Atodiad VI i'r Rheoliad hwnnw(15).

(3Awdurdodir defnyddio'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 yn unol ag Erthyglau 1 a 2 o'r Rheoliad hwnnw a'r awdurdod cymwys at ddibenion sicrhau y cydymffurfir ag Erthygl 5(3) o'r Rheoliad hwnnw yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Cymeradwyo mangreoedd

14.—(1Ni chaiff neb weithredu unrhyw un o'r canlynol, sef–

(a)gwaith hanner-ffordd Categori 1, 2 neu 3;

(b)gwaith storio;

(c)gwaith hylosgi neu gydhylosgi;

(ch)gwaith prosesu Categori 1 neu Gategori 2;

(d)gwaith oleocemegol Categori 2 neu Gategori 3;

(dd)gwaith bio-nwy neu waith compostio;

(e)gwaith prosesu categori 3;

(f)gwaith bwyd anifeiliaid anwes neu waith technegol;

(ff)gwaith sy'n defnyddio unrhyw un neu rai o'r prosesau a ddisgrifir yn Atodiadau I i V i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005,

i storio, prosesu, trin, gwaredu neu ddefnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid, oni bai bod–

(g)y fangre;

(h)gweithredydd y fangre; ac

(i)y cyfarpar (os o gwbl);

wedi'u cymeradwyo at y diben hwnnw yn unol â Rheoliad y Gymuned ac â'r Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i weithredydd mangre a gymeradwywyd sicrhau–

(a)bod y fangre yn cael ei chynnal a'i chadw a'i gweithredu yn unol â'r canlynol–

(i)amodau'r gymeradwyaeth, a

(ii)gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw berson a gyflogir gan y gweithredydd, ac unrhyw berson y caniateir iddo fynd i mewn i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.

(3Rhaid i weithredydd gwaith hylosgi neu waith gydhylosgi uchel ei gynhwysedd sy'n hylosgi neu'n cydhylosgi deunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned waredu'r lludw yn unol â pharagraff 4 o Bennod VII o Atodiad IV i Reoliad y Gymuned yn yr un modd â gweithredydd gwaith hylosgi isel ei gynhwysedd; ond er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r ddarpariaeth hon yn gymwys o ran hylosgi neu gydhylosgi cynnyrch sy'n deillio o ddeunydd y cyfeirir ato yn Erthygl 4(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac a gafodd ei brosesu neu ei drin eisoes yn unol â Rheoliad y Gymuned.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

15.—(1Bydd darpariaethau Rhan I o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn yn gymwys i waith bio-nwy a gwaith compostio sy'n cael eu defnyddio ar gyfer trin unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn ychwanegol at ofynion paragraffau 1 i 11 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

(2Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo–

(a)Rhaid i wastraff alwyo sydd yn cael ei drin mewn gwaith bio-nwy a gwaith compostio gael eu trin unai yn unol â Atodiad VI, Pennod II, paragraffau 12 neu 13 o Reoliad y Gymuned neu yn unol â Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(b)rhaid trin unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid arall sy'n cael ei drin mewn gwaith bio-nwy neu waith compostio yn unol â pharagraffau 12 neu 13 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw weithredydd sy'n methu cydymffurfio â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Compostio gwastraff arlwyo yn y fangre y mae'n tarddu ohoni

16.  Yn unol ag Erthygl 6(2)(g) o Reoliad y Gymuned a pharagraff 14 o Bennod II o Atodiad VI iddo, nid yw darpariaethau'r Bennod honno a darpariaethau rheoliad 14(1)(dd) uchod yn gymwys i gompostio gwastraff arlwyo Categori 3 yn y fangre y mae'n tarddu ohoni ar yr amod–

(a)mai dim ond ar dir yn y fangre honno y rhoddir y deunydd pydredig;

(b)na chedwir unrhyw anifeiliaid sy'n cnoi cil na moch yn y fangre; ac

(c)os cedwir adar yn y fangre, fod y deunydd yn cael ei gompostio mewn cynhwysydd diogel sy'n atal yr adar rhag mynd ato tra bydd y deunydd yn pydru.

Hunanwiriadau gweithfeydd prosesu a gweithfeydd hanner-ffordd

17.—(1Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid i'r gweithredydd gofnodi'r camau sy'n cael eu cymryd yn unol ag Erthygl 25(2) o Reoliad y Gymuned gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Mae Atodlen 2 (hylif sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil) yn effeithiol mewn perthynas â hylif sy'n dod o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.

Samplu mewn gweithfeydd prosesu

18.—(1Os yw gwaith prosesu yn prosesu deunydd Categori 1 neu ddeunydd Categori 2, a bod deunydd proteinaidd a broseswyd i'w anfon i fan tirlenwi (neu, yn achos deunydd Categori 2, i'w roi ar dir neu i'w anfon i waith bio-nwy neu waith compostio), rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–

(a)cymryd o allfa'r popty y mae'r deunydd yn cael ei brosesu ynddo sampl o 50 gram o leiaf o ddeunydd proteinaidd wedi'i brosesu; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Clostridium perfringens.

(2Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac y bwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd a broseswyd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, ar bob un o'r diwrnodau y traddodir y deunydd o'r fangre–

(a)cymryd sampl gynrychioliadol o'r deunydd proteinaidd a broseswyd; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Salmonela ac am Enterobacteriaceae.

(3Os yw gwaith prosesu'n prosesu deunydd Categori 3 ac os na fwriedir defnyddio'r deunydd proteinaidd mewn bwydydd anifeiliaid, rhaid i'r gweithredydd, unwaith bob wythnos–

(a)cymryd sampl o'r deunydd proteinaidd a broseswyd ac sy'n cael ei draddodi o'r fangre; a

(b)anfon y sampl i labordy a gymeradwywyd i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Samplu mewn gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

19.—(1Yn achos gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio, rhaid i'r gweithredydd, o dro i dro yn ôl yr hyn a bennir yn y gymeradwyaeth, gymryd sampl gynrychioliadol o ddeunydd sydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau amser a thymheredd a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn neu i Reoliad y Gymuned a'i hanfon i'w phrofi am Salmonela ac Enterobacteriaceae (neu, yn achos deunydd sy'n deillio o wastraff arlwyo, Salmonela yn unig) mewn labordy a gymeradwywyd i gynnal y profion hynny.

(2Yn achos profion sy'n cadarnhau nad yw'r deunydd sydd wedi'i drin yn cydymffurfio â'r terfynau ym mharagraff 15 o Bennod II o Atodiad VI i Reoliad y Gymuned, rhaid i'r gweithredydd–

(a)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith, gan roi manylion llawn am y methiant, am natur y sampl ac am y swp yr oedd yn deillio ohono;

(b)sicrhau na fydd unrhyw weddill traul na chompost, yr amheuir ei fod wedi'i halogi neu y mae'n hysbys ei fod wedi'i halogi, yn cael ei symud o'r fangre oni bai–

(i)ei fod wedi'i ail-drin o dan oruchwyliaeth y Cynulliad Cenedlaethol a'i ailsamplu a'i ailbrofi gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bod yr ailbrofi wedi dangos bod y gweddill traul neu'r compost a gafodd ei ail-drin yn cydymffurfio â'r safonau yn Rheoliad y Gymuned; neu

(ii)ei fod wedi'i draddodi i'w brosesu neu i'w hylosgi mewn gwaith prosesu neu losgydd a gymeradwywyd neu (yn achos gwastraff arlwyo) wedi'i draddodi i fan tirlenwi; ac

(c)cofnodi'r camau a gymerwyd yn unol â'r rheoliad hwn.

(3Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Samplau a anfonir i labordai

20.—(1Pa bryd bynnag y bydd gweithredydd yn anfon sampl i labordy yn unol â'r Rhan hon, rhaid i'r gweithredydd anfon yn ysgrifenedig gyda'r sampl yr wybodaeth ganlynol–

(a)enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;

(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl; ac

(c)disgrifiad o'r sampl a manylion sy'n dynodi pa sampl ydyw.

(2Ni chaiff neb ymyrryd â sampl a gymerwyd o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o effeithio ar ganlyniad y prawf.

(3Rhaid i'r gweithredydd gadw cofnod o holl ganlyniadau profion labordy.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio â pharagraffau (1) neu (3) neu sy'n mynd yn groes i baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

Labordai

21.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo labordai o dan y rheoliad hwn i gynnal un neu ragor o'r profion yn y rheoliad hwn os caiff ei fodloni bod gan y labordai hynny y cyfleusterau, y personél a'r gweithdrefnau gweithredu angenrheidiol i wneud hynny.

(2Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymeradwyaeth neu barhau i wneud hynny, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i'r labordy gynnal yn llwyddiannus unrhyw brofion rheoli ansawdd y mae'n rhesymol i'r Cynulliad Cenedlaethol weld yn dda eu cynnal.

(3Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn ac sy'n cynnal profion at ddibenion y Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned wneud hynny yn unol â'r darpariaethau canlynol, a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Rhaid cynnal prawf ar gyfer Clostridium perfringens yn unol â'r dull yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7937/1997 (BS-EN 13401:1999) (Enumeration of Clostridium perfringens) neu ddull cyfwerth(16).

(5Rhaid cynnal prawf Salmonela yn unol ag un o'r dulliau yn Rhan II o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag–

(a)ISO 6579/2002/BS-EN 12824:1998 (Detection of Salmonella) neu ddull cyfwerth(17); neu

(b)NMKL 71: 1993 neu ddull cyfwerth(18).

(6Rhaid cynnal prawf Enterobacteriaceae yn unol â'r dull yn Rhan III o Atodlen 3, neu (os yw hynny wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth) â dull sy'n cydymffurfio ag ISO 7402/1993 (BS 5763: Rhan 10: 1993) (Enumeration of Enterobacteriaceae) neu ddull cyfwerth(19).

(7Pan fydd profion yn cael eu cynnal er mwyn canfod un o'r canlynol, rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu ar unwaith y Cynulliad Cenedlaethol a gweithredydd y fangre–

(a)os yw'r profion yn methu cadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Clostridium perfringens;

(b)os yw'r profion yn methu â chadarnhau bod y deunydd yn rhydd rhag Salmonela; neu

(c)os yw'r deunydd yn methu'r prawf ar gyfer Enterobacteriaceae ym mharagraff 5, Rhan III o Atodlen 3;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(8Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, o ran deunydd wedi'i brosesu, ar ddiwrnod olaf pob mis o nifer y profion a gynhaliwyd yn ystod y mis hwnnw, eu math a'u canlyniadau, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(9Os yw'r sampl wedi'i hanfon i labordy a gymeradwywyd o fangre y tu allan i Gymru, rhaid dehongli'r gofyniad yn y rheoliad hwn i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol fel gofyniad i hysbysu'r awdurdod cymwys ar gyfer y fangre y mae'r sampl wedi'i hanfon ohoni.

RHAN 5Rhoi ar y farchnad sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion wedi'u prosesu

Rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu a chynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio yn ddeunydd bwyd anifeiliaid

22.  Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad brotein anifeiliaid wedi'i brosesu neu gynhyrchion eraill wedi'u prosesu y gellid eu defnyddio'n ddeunydd bwyd anifeiliaid ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 19 o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gwn a chynhyrchion technegol

23.—(1Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad fwyd i anifeiliaid anwes, bwyd cnoi i gŵ n, cynhyrchion technegol (ac eithrio deilliadau braster a gynhyrchwyd o ddeunydd Categori 2) neu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid hynny y cyfeirir atynt yn Atodiad VIII i Reoliad y Gymuned ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 20(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad ddeilliadau braster a gynhyrchwyd o ddeunydd Categori 2 ac nad ydynt yn bodloni gofynion Erthygl 20(3) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

(3Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys o ran–

(a)cynhyrchion technegol a gynhyrchir yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004; neu

(b)gelatin ffotograffig a gynhyrchir yn unol â Phenderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC.

Rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol

24.  Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi ar y farchnad gompost neu weddillion traul i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio ar dir amaethyddol sicrhau bod arno neu arnynt label neu fod dogfennau yn mynd gydag ef neu gyda hwy yn y fath fodd fel ag i dynnu sylw'r derbynnydd at ofynion rheoliad 12 (darpariaethau'n ymwneud â thir pori) a bydd unrhyw berson sy'n methu gwneud hynny yn euog o dramgwydd.

RHAN 6Rhanddirymiadau

Yr awdurdod cymwys ar gyfer Pennod V o Reoliad y Gymuned

25.  Yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod V o Reoliad y Gymuned (rhanddirymiadau) fydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Rhanddirymiadau'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid

26.—(1Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at ddibenion diagnostig, dibenion addysgol neu ddibenion ymchwil os yw hynny'n unol ag awdurdodiad.

(2Caniateir defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi–

(a)os yw'n unol ag awdurdodiad; a

(b)os yw mewn gwaith technegol a gymeradwywyd.

(3Caniateir rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a bennir yn Erthygl 23(2)(b) o Reoliad y Gymuned yn fwyd i–

(a)anifeiliaid sw;

(b)anifeiliaid syrcas;

(c)ymlusgiaid ac adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas;

(ch)cŵ n o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu

(d)cynrhon ar gyfer abwyd pysgota,

os yw'n unol ag awdurdodiad.

(4Mae'r Cynulliad Cenedlaethol i gynnal cofrestr o fangreoedd a awdurdodir ar gyfer rhoi sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'r fath yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas, cwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gwn hela a chynrhon ar gyfer abwyd pysgota.

(5Mae'r gofrestr yn y paragraff blaenorol i gynnwys yr wybodaeth ganlynol–

(a)enw'r gweithredydd;

(b)cyfeiriad y fangre; ac

(c)y busnes sy'n cael ei redeg yn y fangre.

(6Yn y rheoliad hwn ac yn y rheoliad canlynol ystyr “sw” yw mangre sydd naill ai wedi'i chofrestru o dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981(20) neu fangre y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi gollyngiad iddi o dan adran 14 o'r Ddeddf honno.

(7Bydd unrhyw berson sy'n defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid at unrhyw un o'r dibenion yn y rheoliad hwn ac eithrio yn unol ag awdurdodiad yn euog o dramgwydd.

Canolfannau casglu

27.—(1At ddibenion Erthygl 23(2) o Reoliad y Gymuned, ni chaiff unrhyw berson weithredu canolfan gasglu at ddibenion bwydo sgil-gynhyrchion anifeiliaid–

(a)i gwn o gynelau cydnabyddedig neu i heidiau cydnabyddedig o gŵ n hela; neu

(b)i gynrhon ar gyfer abwyd pysgota;

onid yw'r fangre a gweithredydd y fangre wedi'u hawdurdodi.

(2Ni chaiff unrhyw berson weithredu unrhyw fangre lle y cesglir sgil-gynhyrchion anifeiliaid a lle y cânt eu trin ar gyfer eu rhoi yn fwyd i anifeiliaid sw neu syrcas mewn mangreoedd eraill onid yw'r fangre lle y cesglir y sgil-gynhyrchion hynny a lle y cânt eu trin a gweithredydd y fangre honno wedi'u hawdurdodi.

(3Rhaid i weithredydd mangreoedd a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn gynnal a gweithredu'r fangre'n unol ag–

(a)yr amodau sy'n gymwys i ganolfan gasglu yn Atodiad IX i Reoliad y Gymuned;

(b)amodau'r awdurdodiad; ac

(c)holl ofynion perthnasol eraill Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn.

(4Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir yn y fangre, neu a wahoddir i'r fangre, yn cydymffurfio â'r amodau a'r gofynion hynny.

(5Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

Claddu anifeiliaid anwes

28.  Yn unol ag Erthygl 24(1)(a) o Reoliad y Gymuned, caniateir i anifeiliaid anwes sydd wedi trigo gael eu claddu.

Ardaloedd pellennig

29.—(1Dim ond Ynys Enlli ac Ynys Bur sy'n ardaloedd pellennig at ddibenion Erthygl 24(1)(b) o Reoliad y Gymuned ac yn unol â hynny caniateir gwaredu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid y cyfeirir atynt yn yr is-baragraff hwnnw ac sy'n tarddu o'r ardaloedd hynny drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre ar yr amod y gwneir hyn yn unol â Rhan C o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003(21).

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a rhan C o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Claddu yn achos brigiad clefyd

30.—(1Yn unol ag Erthygl 24(1)(c) o Reoliad y Gymuned, os oes brigiad clefyd sydd wedi'i grybwyll yn Rhestr A o Swyddfa Ryngwladol Clefydau Episootig, ni fydd yn dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i sgil-gynhyrchion anifeiliaid gael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi neu eu claddu yn y fangre (fel y diffinnir “burning or burial on site”yn Rhan A o Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003) os yw'r sgil-gynnyrch anifeiliaid yn cael ei gludo, a'i gladdu neu ei losgi, yn unol–

(a)â hysbysiad a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan Erthygl 24(1)(c) sy'n awdurdodi gwaredu yn unol â'r ddarpariaeth honno; a

(b)â darpariaethau Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn EC Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo.

(2Yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 6 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 a Rhan B o Atodiad II iddo yw'r Cynulliad Cenedlaethol.

Llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna

31.  Yn unol ag Erthygl 8 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003, caniateir gwaredu gwenyn a chynhyrchion gwenyna Categori 2 drwy eu claddu neu eu llosgi yn y fangre os yw hynny'n cael ei wneud yn unol â'r Erthygl honno.

RHAN 7Cofnodion

Cofnodion

32.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo gadw cofnod o dan y Rheoliadau hyn ei gadw am ddwy flynedd o leiaf, ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

(2Caiff cofnod fod ar ffurf ysgrifenedig neu electronig.

Cofnodion ar gyfer traddodi, cludo neu dderbyn sgil-gynhyrchion anifeiliaid

33.  Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9(1) o Reoliad y Gymuned yn euog o dramgwydd.

Cofnodion ar gyfer claddu neu losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid

34.  Bydd unrhyw berson sy'n methu cydymffurfio ag Erthygl 9 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 yn euog o dramgwydd.

Cofnodion ar gyfer gwaredu neu ddefnyddio yn y fangre

35.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i weithredydd unrhyw fangre sy'n gwaredu neu'n defnyddio unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid (ac eithrio gwrtaith neu ddeunydd nad yw wedi'i gynnwys yn Rheoliad y Gymuned o dan Erthygl 1(2) o'r Rheoliad hwnnw), neu gynnyrch wedi'i brosesu yn y fangre wneud cofnod wrth waredu neu ddefnyddio sgil-gynnyrch o bob gwarediad neu ddefnydd yn dangos y dyddiad y gwaredwyd neu y defnyddiwyd y sgil-gynnyrch anifeiliaid a faint o'r deunydd a waredwyd neu a ddefnyddiwyd a disgrifiad ohono, a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys i waredu yn y fangre drwy roi sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu gynhyrchion wedi'u prosesu yn fwyd i ymlusgiaid ac i adar ysglyfaethus ac eithrio anifeiliaid sw neu syrcas.

Cofnodion traddodi i'w cadw gan weithredwyr gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

36.—(1Rhaid i weithredydd unrhyw waith bio-nwy neu waith compostio sydd yn derbyn gwastraff arlwyo gofnodi–

(a)y dyddiad y danfonwyd y gwastraff arlwyo i'r fangre;

(b)faint o wastraff arlwyo a ddanfonwyd a disgrifiad ohono, gan gynnwys datganiad ynghylch a gymerwyd camau yn y tarddle i sicrhau nad oedd cig wedi'i gynnwys yn y gwastraff; ac

(c)enw'r cludydd;

a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Cofnodion triniaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

37.  Rhaid i weithredydd gwaith bio-nwy neu waith compostio sy'n trin gwastraff arlwyo neu sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill gofnodi–

(a)y dyddiadau y caiff y deunydd ei drin;

(b)disgrifiad o'r deunydd a gaiff ei drin;

(c)faint o ddeunydd a gaiff ei drin;

(ch)canlyniad pob gwiriad a gyflawnwyd ar y pwyntiau critigol a nodir o dan baragraff 4 o Ran I o Atodlen 1; a

(d)digon o wybodaeth i ddangos bod y deunydd wedi'i drin yn ôl y paramedrau gofynnol;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

Cofnodion ar gyfer labordai a gymeradwywyd

38.  Rhaid i weithredydd labordy a gymeradwywyd o dan reoliad 21 gofnodi, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol–

(a)enw a chyfeiriad y fangre lle y cymerwyd y sampl;

(b)y dyddiad y cymerwyd y sampl;

(c)disgrifiad o'r sampl a sut i'w hadnabod;

(ch)y dyddiad y daeth y sampl i law yn y labordy;

(d)y dyddiad y profwyd y sampl yn y labordy; ac

(dd)canlyniad y prawf;

a bydd methu gwneud hynny'n dramgwydd.

Cofnodion i'w cadw ar gyfer traddodi compost neu weddill traul

39.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd mangre y mae anifeiliaid cnoi cil, moch neu adar yn cael eu cadw arni gofnodi–

(a)y dyddiad y deuir â'r compost neu'r gweddill traul i'r fangre honno;

(b)faint o gompost neu weddill traul a disgrifiad ohono;

(c)y tir y rhoddir y compost neu'r gweddill traul arno;

(ch)dyddiad ei roi ar y tir; a

(d)y dyddiad y rhoddwyd y tir gyntaf dan gnwd neu'r dyddiad y caniatawyd i anifeiliaid sy'n cnoi cil, moch neu adar (ac eithrio adar gwyllt) fynd ar y tir, p'un bynnag yw'r cynharaf;

a bydd methu gwneud hynny yn dramgwydd.

(2Ni fydd y gofyniad ym mharagraff (1) i gadw cofnodion yn gymwys yn achos unrhyw gyflenwad o gompost neu weddill traul sydd i'w ddefnyddio mewn unrhyw fangre a ddefnyddir fel annedd yn unig.

RHAN 8Gweinyddu a gorfodi

Rhoi cymeradwyaethau, etc

40.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hyn os yw wedi'i fodloni bod cydymffurfio â gofynion Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn wedi digwydd.

(2Lle y bo'n briodol, rhaid i gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad bennu,–

(a)cyfeiriad y fangre a gweithredydd y fangre;

(b)y rhannau o'r fangre lle y gellir derbyn a phrosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid; ac

(c)y cyfarpar, y dulliau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn unol â hwy a'r paramedrau y mae'n rhaid prosesu neu drin y sgil-gynhyrchion anifeiliaid o'u mewn.

(3Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gwrthod rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, neu'n ei rhoi neu'n ei roi yn ddarostyngedig i amod, rhaid iddo wneud y canlynol drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r ceisydd–

(a)rhoi'r rhesymau; a

(b)egluro hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol at y diben.

(4Tra byddo'r fangre'n cael ei dilysu at ddibenion rhoi cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi cyfarwyddyd ysgrifenedig ynghylch sut y mae'n rhaid gwaredu'r deunydd a broseswyd neu a gafodd ei drin, ac mae methu cydymffurfio â'r cyfarwyddyd hwn yn dramgwydd.

Atal, diwygio a dirymu cymeradwyaethau, etc.

41.—(1Drwy gyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd–

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal ar unwaith gymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os na chydymffurfir ag unrhyw un o'r amodau y rhoddwyd y gymeradwyaeth, yr awdurdodiad neu'r cofrestriad oddi tanynt, a

(b)caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal neu ddiwygio cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os y'i bodlonir na chydymffurfir â darpariaethau Rheoliad y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn.

(2O ran ataliad neu ddiwygiad o dan baragraff (1)(b)–

(a)rhaid iddo gael effaith ar unwaith os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid;

(b)fel arall ni fydd yn cael effaith am o leiaf 21 o ddiwrnodau ar ôl cyflwyno'r hysbysiad.

(3Rhaid i'r hysbysiad–

(a)ddatgan pryd y mae'n dod yn effeithiol;

(b)rhoi'r rhesymau drosto; ac

(c)esbonio hawl gweithredydd y fangre i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(4Os na fydd yr hysbysiad yn cael effaith ar unwaith, a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 42, ni fydd diwygiad neu ataliad yn effeithiol hyd oni wneir y penderfyniad terfynol gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â'r rheoliad canlynol, onid yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, i'r diwygiad neu'r ataliad gael effaith ar unwaith a'i fod yn cyflwyno hysbysiad i'r gweithredydd.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy hysbysiad, ddirymu cymeradwyaeth, awdurdodiad neu gofrestriad os yw wedi'i fodloni, yn dilyn sylwadau a gyflwynir o dan reoliad 42, os o gwbl, yn unol â'r rheoliad canlynol sy'n cefnogi ataliad, ac o gymryd holl amgylchiadau'r achos i ystyriaeth, na fydd y fangre'n cael ei rhedeg yn unol â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned.

Cyflwyno sylwadau i berson a benodwyd

42.—(1Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch gwrthodiad, ataliad neu ddiwygiad o dan reoliad 40 neu 41 o fewn 21 o ddiwrnodau ar ôl i hysbysiad o'r penderfyniad gael ei roi i berson a benodwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Rhaid i'r person a benodwyd roi adroddiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'i ddyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.

Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid neu wastraff arlwyo

43.  Os bydd arolygydd yn barnu ei bod yn angenrheidiol at ddibenion iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd neu os na chydymffurfir ag unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned, caiff yr arolygydd–

(a)cyflwyno i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid, hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw waredu'r sgil-gynnyrch yn y modd a gaffo ei bennu yn yr hysbysiad (ac, os oes angen, yn pennu sut i'w storio hyd nes y'i gwaredir); neu

(b)cyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre yn gwahardd dod â sgil-gynhyrchion anifeiliaid i mewn i'r fangre, neu'n caniatáu hyn mewn ffordd a bennir yn yr hysbysiad yn unig.

Glanhau a diheintio

44.—(1Os bydd yn rhesymol i arolygydd amau bod unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre y mae'r Rheoliadau hyn neu Reoliad y Gymuned yn gymwys iddo neu iddi yn risg i iechyd anifail neu'r cyhoedd, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i'r person sydd â gofal am y cerbyd neu'r cynhwysydd, neu i feddiannydd y fangre, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd gael ei lanhau a'i ddiheintio neu i'r fangre gael ei glanhau neu ei diheintio.

(2Caiff yr hysbysiad–

(a)pennu'r dull glanhau a diheintio;

(b)pennu dull gwaredu unrhyw ddeunydd sydd ar ôl yn y cerbyd, y cynhwysydd neu yn y fangre; ac

(c)gwahardd symud unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid i mewn i'r cerbyd neu i'r cynhwysydd neu i'r fangre hyd nes bydd y gwaith glanhau a diheintio gofynnol wedi'i gwblhau'n foddhaol.

Cydymffurfio â hysbysiadau

45.—(1Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir ag ef, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir ag ef ar draul y person hwnnw.

(2Bydd unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo ac sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau'r hysbysiad hwnnw neu sy'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd.

Pwerau mynediad

46.—(1O ddangos, os bydd angen hynny, unrhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, bydd hawl gan arolygydd i fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre (gan gynnwys unrhyw fangre ddomestig os y'i defnyddir at unrhyw ddiben mewn cysylltiad â Rheoliad y Gymuned neu â'r Rheoliadau hyn) a hynny at ddibenion sicrhau y cydymffurfir â Rheoliad y Gymuned a'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae “fangre”yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

(2Caiff arolygydd–

(a)atafaelu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid a'u gwaredu yn ôl yr angen;

(b)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(c)cymryd unrhyw samplau;

(ch)gweld, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y'u cedwir) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Gymuned, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo;

(d)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'i archwilio a gwirio ei weithrediad; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys darparu ar gyfer yr arolygydd unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(dd)marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifeiliaid neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac

(e)mynd â'r canlynol gydag ef–

(i)y cyfryw bersonau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(ii)unrhyw un o gynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Rheoliad y Gymuned.

(3Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu'n tynnu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) yn euog o dramgwydd.

(4Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw'n fangre wedi'i meddiannu rhaid i'r arolygydd ei gadael fel y'i cafodd, sef yn effeithiol o ddiogel fel na allo neb nad yw wedi'i awdurdodi fynd i mewn iddi.

Rhwystro

47.  Bydd unrhyw berson yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw–

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb achos rhesymol, yn methu rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol i'r person hwnnw ofyn i'r arolygydd amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu

(ch)yn methu dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith.

Cosbau

48.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliad hwn yn agored–

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na thri mis, neu i'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i'w gadw yn y carchar am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran–

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn y swyddogaeth honno,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(3At ddibenion paragraff (2) uchod, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

49.—(1Gorfodir y Rheoliadau gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn unrhyw ladd-dai, sefydliadau trin anifeiliaid hela, a gweithfeydd torri sy'n gosod cig ffres ar y farchnad a lle y'u gorfodir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

(2Ac eithrio fel a bennir ym mharagraffau (1) uchod (2) mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Mesurau trosiannol: cynhyrchion technegol

50.—(1Er gwaethaf rheoliadau 4 a 5, caiff gosod ar y farchnad fathau o ddeunydd Categori 1 a Chategori 2 y cyfeirir atynt yn Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 i'w traddodi i waith technegol pwrpasol a gymeradwywyd yn unol ag Erthygl 18 o Reoliad y Gymuned ei awdurdodi yn unol ag Erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw.

(2Mae methu cydymffurfio ag Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 (gosod ar y farchnad) neu Erthygl 5 o'r Rheoliad hwnnw (casglu a chludo) yn dramgwydd.

Mesurau trosiannol: cynhyrchion ffotograffig yn dod o gelatin

51.—(1Er gwaethaf rheoliad 4, yn unol ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC, awdurdodir defnyddio gelatin i weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig os–

(a)y'i cynhyrchwyd o ddeunydd Categori 1 yn unol â'r Penderfyniad hwnnw; a

(b)y'i mewnforiwyd yn unol â'r Penderfyniad hwnnw.

(2Rhaid i'r gwaith o weithgynhyrchu cynhyrchion ffotograffig fynd rhagddo yn y ffatri ffotograffig a restrir yn Atodiad I i'r Penderfyniad hwnnw, ac yn unol â chymeradwyaeth a roddwyd at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol atal y gymeradwyaeth ar unwaith os na chydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw berson–

(a)cludo'r gelatin ffotograffig mewn cerbyd sy'n cludo ar yr un pryd unrhyw gynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd neu fwyd anifeiliaid, gan gynnwys gelatin a fwriedir at ddibenion ac eithrio'r diben o'i ddefnyddio yn y diwydiant ffotograffig;

(b)defnyddio'r gelatin a fewnforiwyd ac eithrio yn y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd;

(c)defnyddio'r gelatin at unrhyw ddiben ac eithrio cynhyrchu ffotograffig; neu

(ch)anfon y gelatin i Aelod-wladwriaeth arall.

(5Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd sicrhau bod unrhyw gelatin ffotograffig sydd dros ben neu weddillion y gelatin ffotograffig a gwastraff arall sy'n deillio ohono–

(a)yn cael eu cludo mewn cynhwysion dan sêl nad ydynt yn gollwng ac sydd wedi'u labelu ‘for disposal only’ mewn cerbydau o dan amodau hylendid boddhaol;

(b)yn cael eu gwaredu fel gwastraff drwy eu llosgi'n unol â Chyfarwyddeb Senedd Ewrop a'r Cyngor 2000/76/EC(22) neu mewn safle tirlenwi yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC(23); neu

(c)yn cael eu hallforio i'r wlad y daeth y gelatin ohoni yn unol â Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 259/93 ar oruchwylio a rheoli llwythi o wastraff o fewn y Gymuned Ewropeaidd, i'r Gymuned ac o'r Gymuned(24).

(6Rhaid i weithredydd y ffatri ffotograffig a gymeradwywyd gadw cofnodion am ddwy flynedd o leiaf yn rhoi manylion ynghylch prynu a defnyddio gelatin ffotograffig, yn ogystal ag ynghylch gwaredu gweddillion a deunydd dros ben.

(7Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth unrhyw ddeunydd y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac nad yw wedi'i gludo, ei ddefnyddio neu ei waredu'n unol â'r rheoliad hwn, yn ei gwneud yn ofynnol i'r ardygydd waredu'r deunydd fel a bennir yn yr hysbysiad.

(8Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r rheoliad hwn neu ag hysbysiad a gyflwynir oddi tano'n dramgwydd.

Mesurau trosiannol: llaeth

52.  Awdurdodir casglu, cludo, prosesu, defnyddio a storio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005, a'r Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion dyroddi cofrestriadau ac awdurdodiadau'n unol â'r Rheoliad hwnnw.

Diddymu a dirymu

53.—(1Diddymir y canlynol i'r graddau y maent yn effeithiol o ran Cymru–

(a)adrannau 1, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 12, 19 i 26, 29, 33 o Ddeddf Lladd-dai 1974(25) ac, yn adran 34, y diffiniad o “horse”, “construction regulations”, “licence”, “knacker’s yard”; a

(b)adran 6 o Ddeddf Cwn 1906(26).

(2Dirymir Gorchymyn Rendro (Trin Hylif) (Cymru) 2001(27) a Dirymir Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(28)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2006

Rheoliad 158 19(1)

ATODLEN 1Gofynion ychwanegol ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a gweithfeydd compostio

RHAN 1Mangreoedd

1.—(1Rhaid bod–

(a)man derbyn lle y mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin (gan gynnwys gwastraff arlwyo) yn cael eu derbyn;

(b)man lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio gyda chyfleusterau digonol ar gyfer gwneud hynny; ac

(c)man glân lle y mae compost neu weddill traul yn cael ei storio.

(2Rhaid i'r man glân fod wedi'i wahanu'n ddigonol oddi wrth y man derbyn a'r fan lle y mae cerbydau a chynwysyddion yn cael eu glanhau a'u diheintio er mwyn atal y deunydd sydd wedi'i drin rhag cael ei halogi. Rhaid gosod lloriau fel na all hylifau ollwng i'r man glân o'r mannau eraill.

(3Rhaid i'r man derbyn fod yn un hawdd i'w lanhau a'i ddiheintio a rhaid bod yno le neu gynhwysydd sydd wedi'i amgáu ac y gellir ei gloi i dderbyn a storio'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin.

2.  Rhaid dadlwytho'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn y man derbyn a naill ai–

(a)eu trin ar unwaith; neu

(b)eu storio yn y man derbyn a'u trin heb oedi amhriodol.

3.  Rhaid i'r gwaith gael ei weithredu yn y fath fodd–

(a)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi â deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu hylifau sy'n dod ohono; a

(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi â deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu â hylifau sy'n dod ohono.

4.  Rhaid i'r gweithredydd nodi, rheoli a monitro pwyntiau critigol addas yng ngweithrediad y gwaith i ddangos–

(a)y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn ac â Rheoliad y Gymuned;

(b)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin ei halogi a deunydd sydd heb ei drin neu sydd wedi'i drin yn rhannol neu a hylifau sy'n dod ohono, a

(c)fel na chaiff deunydd sydd wedi'i drin yn rhannol ei halogi a deunydd nad yw wedi'i drin i'r un graddau neu a hylifau sy'n dod ohnono.

5.  Rhaid glanhau cynwysyddion, llestri a cherbydau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu trin yn y man pwrpasol cyn iddynt adael y fangre a chyn bod unrhyw ddeunydd sydd wedi'i drin yn cael ei lwytho. Yn achos cerbydau sy'n cludo dim ond gwastraff arlwyo heb ei drin ac nad ydynt yn cludo deunydd sydd wedi'i drin ar ôl hynny, dim ond olwynion y cerbyd y mae angen eu glanhau.

RHAN IISystemau a pharamedrau ar gyfer trin gwastraff arlwyo

1.  Oni fydd cymeradwyaeth yn benodol yn caniatáu system wahanol, rhaid trin gwastraff arlwyo drwy un o'r systemau a bennir yn y tabl isod. Rhaid i'r system sicrhau y bydd y deunydd yn cael ei drin yn ôl y paramedrau canlynol:

Compostio

SystemCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio mewn adweithydd caeedigCompostio mewn rhenciau wedi'u hamgáu
Mwyafswm maint y gronyn40cm6cm40cm
Isafbwynt y tymheredd60°C70°C60°C
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd2 ddiwrnod1 awr8 niwrnod (yn ystod y cyfnod hwn, rhaid troi'r rhenc o leiaf deirgwaith a hynny heb fod yn llai aml na phob deuddydd)

Rhaid bodlonir gofynion ynglŷn ag amser a thymheredd fel rhan o'r broses gompostio.

Bio-nwy

SystemBio-nwy mewn adweithydd caeedigBio-nwy mewn adweithydd caeedig
Mwyafswm maint y gronyn5cm6cm
Isafbwynt y tymheredd57°C70°C
Lleiafswm yr amser a dreuliwyd ar isafbwynt y tymheredd5 awr1 awr

2.  Fel rheol rhaid i'r gymeradwyaeth bennu un o'r dulliau yn y tabl, ond caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo system wahanol os yw wedi'i fodloni ei fod yn sicrhau'r un gostyngiad mewn pathogenau â'r dulliau hynny (gan gynnwys unrhyw amodau ychwanegol sy'n cael eu gosod ar gyfer y dulliau hynny) ac os felly rhaid i'r system gyfan gael ei disgrifio'n llawn yn y gymeradwyaeth.

Gweithfeydd compostio

3.  Os yw'r gymeradwyaeth ar gyfer gwaith compostio yn pennu un o'r dulliau yn y tabl, rhaid iddi bennu pa un ac, yn ychwanegol at hynny, rhaid bod ynddi'r naill neu'r llall o'r amodau canlynol–

(a)y bydd mesurau yn cael eu cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo a bod y deunydd yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau o leiaf ar ôl ei drin (nid yw'n angenrheidiol ei storio mewn system wedi'i hamgáu), neu

(b)y bydd y deunydd yn cael ei drin eto, ar ôl y driniaeth gyntaf, gan ddefnyddio un o'r dulliau sydd yn y tabl ac sydd wedi'i bennu yn y gymeradwyaeth (nid o reidrwydd yr un dull ag a ddefnyddiwyd ar gyfer y driniaeth gyntaf) ac eithrio, os yw'r driniaeth mewn rhenc, nad oes angen i'r ail driniaeth fod mewn rhenc wedi'i hamgáu.

Gweithfeydd bio-nwy

4.  Rhaid i gymeradwyaeth gwaith bio-nwy bennu un o'r dulliau yn y tabl ac, yn ychwanegol at hynny, ei gwneud yn ofynnol naill ai–

(a)bod camau wedi'u cymryd yn y tarddle i sicrhau na chafodd cig ei gynnwys yn y gwastraff arlwyo; neu

(b)bod y deunydd, ar ôl iddo gael ei drin, yn cael ei storio am 18 o ddiwrnodau ar gyfartaledd.

Rheoliad 17(4)

ATODLEN 2Hylif yn deillio o anifeiliaid sy'n cnoi cil

Trin neu ollwng hylif wrth brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil

1.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynnyrch anifeiliaid yn deillio o anifail sy'n cnoi cil–

(a)gollwng yr hylif sy'n dod o'r broses neu ei anfon i'w ollwng–

(i)i garthffos gyhoeddus yn unol â chydsyniad neu gytundeb elifiant masnachol gan yr ymgymerwr carthffosiaeth perthnasol o dan Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991(29); neu

(ii)i ddyfroedd a reolir (o fewn ystyr Deddf Adnoddau Dŵ r 1991(30)) i gydymffurfio â chydsyniad gollwng gan Asiantaeth yr Amgylchedd o dan y Ddeddf honno; neu

(b)trin yr hylif sy'n dod o'r gwaith prosesu yn y fangre brosesu yn y fath fodd fel bod gan yr hylif a gafodd ei drin–

(i)lefel o solidau crog o ddim mwy nag 80 mg y litr, a

(ii)galw am ocsigen biocemegol o ddim mwy na 60 mg y litr,

ac mae methu gwneud hynny'n dramgwydd.

(2Os yw'r person sy'n prosesu'r sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn traddodi hylif nad yw wedi'i drin yn unol ag is-baragraff (1)(b) i'w ollwng gan berson arall, a bod y person hwnnw'n methu ei ollwng yn unol ag is-baragraff (1)(a)–

(a)mae'r person hwnnw ynghyd â'r proseswr yn euog o dramgwydd; ond

(b)mae i'r proseswr ddangos i'r proseswr gredu ar sail resymol y byddai'r person yn gollwng yr hylif yn unol ag is-baragraff 1(a) yn amddiffyniad.

(3Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys o ran gwaed nad yw wedi'i gymysgu gydag unrhyw ddeunydd arall sy'n dod o anifail sy'n cnoi cil.

Mesur hylif a gafodd ei drin

2.—(1Er mwyn sicrhau bod yr hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) y lleiaf y mae'n rhaid i weithredydd sy'n trin hylif yn unol â'r paragraff hwnnw ei wneud yw'r mesuriadau canlynol.

(2Rhaid i'r gweithredydd fonitro'n barhaus lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin neu fel arall ei mesur deirgwaith y dydd.

(3Unwaith yr wythnos, rhaid i'r gweithredydd fesur lefel y solidau crog yn yr hylif a gafodd ei drin drwy ddull sy'n cydymffurfio â “Suspended Settleable and Total Dissolved Solids in Waters and Effluents(31)”.

(4Unwaith yr wythnos rhaid i'r gweithredydd fesur galw'r hylif a gafodd ei drin am ocsigen biocemegol drwy ddull sy'n cydymffurfio â'r “5 day Biochemical Oxygen Demand (BOD5)(32)”.

(5Os yw unrhyw un o'r mesuriadau hyn yn dangos nad yw'r hylif a gafodd ei drin yn cydymffurfio â'r lefelau ym mharagraff 1(1)(b) rhaid i'r gweithredydd sicrhau mai'r hylif a gafodd ei drin yn unol â pharagraff 1(1)(a) yn unig sydd yn cael ei ryddhau hyd onid yw profion pellach yn dangos bod y system drin yn cyrraedd y lefelau gofynnol.

(6Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cofnodion

3.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n prosesu unrhyw sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi dyddiadau a chanlyniadau mesuriadau a wnaed yn unol â pharagraff 2.

(2Ar gyfer yr holl hylif a gaiff ei ollwng neu ei draddodi o'r fangre brosesu, rhaid iddo, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–

(a)ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin oedd yr hylif;

(b)dyddiad a dull ei ollwng neu ei draddodi;

(c)faint ohono a ollyngwyd neu a draddodwyd;

(ch)ym mha le y'i gollyngwyd, neu'r fangre y traddodwyd ef iddi; a

(d)enw'r cludydd, os oedd cludydd.

(3Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Cofnodion traddodi

4.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n traddodi unrhyw hylif sy'n deillio o brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n deillio o anifail sy'n cnoi cil (p'un ai ef ei hun a'u prosesodd ai peidio) o unrhyw fangre, gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gofnodi–

(a)cyfeiriad y fangre y cesglir yr hylif ohoni;

(b)y dyddiad y cesglir yr hylif;

(c)faint o hylif a disgrifiad ohono, ac ai hylif wedi'i drin neu heb ei drin ydyw;

(ch)y fan lle y mae i'w ollwng neu i'w waredu.

(2Rhaid iddo roi copi i'r person sy'n cludo'r hylif.

(3Rhaid i'r cludydd gadw ei gopi o'r cofnod gyda'r llwyth hyd oni ollyngir neu oni waredir yr hylif.

(4Rhaid i'r sawl sy'n traddodi gadw copi o'r cofnod am ddwy flynedd o leiaf, a rhaid i'r cludydd ei gadw am ddwy flynedd o leiaf.

(5Mae methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau'r paragraff hwn yn dramgwydd.

Rheoliad 21

ATODLEN 3Dulliau Profi

RHAN IY DULL AR GYFER YNYSU CLOSTRIDIUM PERFRINGENS

Amser profi

1.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C ac 8°C nes bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell, rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.

Samplau

2.  Rhaid cyflawni'r profion drwy ddefnyddio dwy gyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid i bob sampl 10 gram gael ei rhoi'n aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml Clostridium perfringens o wanedydd a wnaed o 0.1% pepton a 0.8% sodiwm clorid wrth pH o 7 a'i chymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.

Planiadau

3.  Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o'r hydoddiant i ddysgl petri 90 mm sterilaidd (yn ddyblyg) y mae'n rhaid ychwanegu ynddi 15 ml o agar Shahidi-Ferguson (agar SF)(33) ar dymheredd o 47°C±1°C a'i gymysgu ar unwaith a chan bwyll drwy droelli'r ddysgl 5 gwaith yn glocwedd a 5 gwaith yn wrthglocwedd.

4.  Pan fydd yr agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml pellach o agar SF ar dymheredd o 47°C±1°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo a chyda'r platiau at i fyny, rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Samplau â chytrefi Clostridium perfringens

5.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi nodweddiadol o Clostridium perfringens (du). Bydd y sampl yn methu dros dro os bydd unrhyw gytrefi sy'n nodweddiadol o Clostridium perfringens yn bresennol, ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau ai cytrefi o Clostridium perfringens ydynt ai peidio.

6.  Yn achos pob plât, rhaid is-feithrin 10 cytref nodweddiadol o Clostridium perfringens ar blât agar SF pellach. Os bydd llai na 10 cytref ar y plât, rhaid is-feithrin pob cytref nodweddiadol ar blât pellach. Rhaid deor y platiau'n anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

7.  Os oes gordyfiant ar arwynebedd y platiau ac nad yw'n bosibl dethol cytrefi nodweddiadol a ynyswyd yn dda, rhaid is-feithrin 10 cytref a amheuir ar ddyblygiadau o blatiau agar SF a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

8.  Rhaid is-feithrin un gytref nodweddiadol o bob plât ar yr agar SF a'i deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Cytrefi a gafodd eu his-feithrin

9.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob plât am gytrefi sy'n nodweddiadol o Clostridium perfringens. Rhaid i bob cytref sy'n nodweddiadol o Clostridium perfringens

(a)gael trywanblaniad i gyfrwng symudoldeb nitrad(34); a

(b)ei phlannu naill ai mewn cyfrwng gelatin lactos(35) neu mewn disgiau gelatin golosg(36);

a'u deor yn anerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Symudoldeb

10.  Rhaid archwilio'r cyfrwng symudoldeb nitrad am y math o dyfiant ar hyd y llinell drywanu. Os oes tystiolaeth o dyfiant yn tryledu i mewn i'r cyfrwng oddi wrth y llinell drywanu, rhaid ystyried bod y bacteria yn symudol.

Rhydwytho nitrad yn nitrid

11.  Ar ôl archwilio'r cyfrwng symudoldeb nitrad, rhaid ychwanegu ato 0.2 ml i 0.5 ml o adweithydd canfod nitrid. Bydd lliw coch yn ymffurfio yn cadarnhau bod y bacteria wedi rhydwytho nitrad i nitrid. Rhaid diystyru meithriniadau sy'n dangos adwaith wan (h.y. lliw pinc). Os na fydd lliw coch yn ymffurfio cyn pen 15 munud, rhaid ychwanegu swm bach o lwch zinc a gadael i'r plât sefyll am 15 munud. Os bydd lliw coch yn ymffurfio ar ôl ychwanegu llwch zinc, bydd hyn yn cadarnhau nad yw nitrad wedi'i rydwytho'n nitrid.

Cynhyrchu nwy ac asid o lactos a gelatin yn troi'n hylif

12.  Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am bresenoldeb swigod bach nwy yn y cyfrwng.

13.  Rhaid archwilio'r cyfrwng gelatin lactos am liw. Mae lliw melyn yn dangos bod y lactos wedi eplesu.

14.  Rhaid oeri'r cyfrwng gelatin lactos am un awr ar 2- 8°C ac yna'i wirio i weld a yw'r gelatin wedi hylifo. Os yw'r cyfrwng wedi ymsolido, rhaid ei ailddeor yn anerobig am 18- 24 awr eto, oeri'r cyfrwng am un awr eto ar 2- 8°C a'i wirio eto i weld a yw'r gelatin wedi hylifo.

15.  Rhaid penderfynu ar bresenoldeb Clostridium perfringens ar sail y canlyniadau o baragraffau 10 i 14. Rhaid ystyried bod bacteria sy'n cynhyrchu cytrefi duon ar agar SF, yn ansymudol, yn rhydwytho nitrad yn nitrid, yn cynhyrchu nwy ac asid o lactos ac yn hylifo gelatin o fewn 48 awr yn Clostridium perfringens.

Profion Rheoli

16.  Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–

(a)Clostridium perfringens heb fod yn fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio;

(b)Escherichia coli NCTC 10418((37) neu sylwedd cyfwerth iddo nad yw'n fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; ac

(c)protein anifeiliaid neu gompost neu weddill traul wedi'i brosesu sy'n rhydd rhag Clostridium perfringens.

17.  Rhaid rhoi darnau 10 gram o brotein anifail wedi'i rendro yn aseptigol yn y naill a'r llall o ddau gynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog (BPW)(38) a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y samplau mewn daliant gwastad.

18.  Rhaid rhoi un gytref o Clostridium perfringens mewn 10 ml BPW a'i chymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol. Rhaid ailadrodd hyn ar gyfer Escherichia coli.

19.  Yna caiff y rhain eu trin a'u harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.

RHAN IIY DULLIAU AR GYFER YNYSU SALMONELA

A.Y DULL BACTERIOLEGOL

1.—(1Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

(2Rhaid gweithredu'r profion yn ddyblyg gan ddefnyddio dwy gyfran 25 gram yr un o bob sampl a anfonwyd i'w phrofi.

Diwrnod un

2.  Ar y diwrnod cyntaf, rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddwr Pepton Byfferog (BPW) a'u deor ar 37°C±1°C am 18 awr±2 awr.

Diwrnod dau

3.  Ar yr ail ddiwrnod, rhaid plannu 0.1 ml o'r cynhwysydd BPW wedi'i ddeor mewn 10 ml o gawl Rappaports Vassiliadis (cawl RV)(39) a'i ddeor ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ±3awr.

Diwrnod tri

4.  Ar y trydydd diwrnod, rhaid gosod y cawl RV ar ddau blât 90 milimetr o Agar Gwyrdd Gloyw (BGA)(40) neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD)(41) gan ddefnyddio dolen 2.5 mm mewn diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o un plât mewn patrwm igam-ogam gan fynd ymlaen i'r ail blât heb aildrydanu'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm- 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C ±2°C dros nos am 24 ± 3 awr. Rhaid ailddeor y cawl RV gweddilliol ar 41.5°C±0.5°C am 24 awr ychwanegol.

5.  The residual RV broth must be reincubated at 41.5°C±0.5°C for a further 24 hours.

Diwrnod pedwar

6.  Ar y pedwerydd diwrnod, rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o dair cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela–

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey(42); ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

7.  Rhaid i'r cawl RV a ailddeorwyd gael ei osod ar blatiau fel a ddisgrifir ym mharagraff 4.

Diwrnod pump

8.  Ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O”ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyflynedig ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau gyda un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.

9.  Rhaid archwilio'r platiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 a chymryd camau pellach yn ôl paragraff 6 ac 8.

B.Y DULL DARGLUDIANT TRYDANOL

10.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar ddiwrnod cael y sampl rhaid ei storio mewn oergell hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf bedair awr cyn i'r prawf ddechrau.

Diwrnod un

11.  Ar y diwrnod cyntaf rhaid gweithredu'r profion yn ddyblyg drwy ddefnyddio dwy gyfran 25 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi'r ddwy sampl 25 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 225 ml o Ddŵr Pepton/Lysin/Glwcos Byfferog (BPW/L/G)(43) a'u deor ar 37°C am 18 awr.

Diwrnod dau

12.  Ar yr ail ddiwrnod rhaid ychwanegu'r BPW/L/G a ddeorwyd at gyfrwng Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin-N-Ocsid (SC/T/D)(44) a Glwcos Lysin Decarbocsylas (LD/G)(45) mewn celloedd neu bantiau dargludo trydanol. Ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng mwy na 5 ml rhaid ychwanegu 0.2 ml o BPW/L/G ac ar gyfer celloedd neu bantiau sy'n cynnwys cyfrwng 5 ml neu lai rhaid ychwanegu 0.1 ml o BPW/L/G. Rhaid bod y celloedd neu'r pantiau wedi'u cysylltu â chyfarpar mesur dargludiant trydanol addas a osodwyd i fonitro a chofnodi newidiadau yn y dargludiant trydanol fesul 6 munud dros gyfnod o 24 awr. Rhaid cadw tymheredd y celloedd a'r pantiau ar 37°C.

Diwrnod tri

13.  Ar y trydydd diwrnod, ar ddiwedd y cyfnod 24 awr, rhaid i'r wybodaeth a gofnodwyd gan y cyfarpar mesur dargludiant gael ei dadansoddi a'i dehongli gan ddefnyddio'r meini prawf a ddiffinnir gan weithgynhyrchwyr y cyfarpar. Os dynodir dros dro bod pant neu gell yn cadarnhau bod Salmonela'n bresennol, rhaid cadarnhau'r canlyniad drwy is-feithrin cynnwys y pant neu'r gell ar ddau blât 90 milimetr o BGA neu ar un plât 90 milimetr o BGA ac un plât 90 milimetr o Agar Sylos Lysin Deocsicolad (XLD) sy'n defnyddio dolen 2.5 mm ei diamedr. Rhaid plannu defnyn yn y platiau sydd wedi'i gymryd o ymyl wyneb yr hylif drwy dynnu'r ddolen dros y cyfan o'r naill blât mewn patrwm igam-ogam gan fynd ymlaen i'r plât arall heb ailwefru'r ddolen. Rhaid i'r bwlch rhwng llinellau'r ddolen fod yn 0.5 cm- 1.0 cm. Rhaid deor y platiau ar 37°C dros nos.

Diwrnod pedwar

14.  Ar y pedwerydd diwrnod, rhaid archwilio'r platiau a rhaid is-feithrin lleiafswm o 3 cytref o bob plât sy'n dangos amheuaeth o dyfiant Salmonela–

(a)ar blât agar gwaed;

(b)ar blât agar MacConkey; ac

(c)i gyfrwng biocemegol sy'n addas i adnabod Salmonela.

Rhaid deor y cyfryngau hyn ar 37°C dros nos.

Diwrnod pump

15.  ar y pumed diwrnod, rhaid i'r cyfrwng cyfansawdd wedi'i ddeor neu'r hyn sy'n gyfwerth iddo gael ei archwilio a rhaid cofnodi'r canlyniadau, gan ddiystyru'r meithriniadau y mae'n amlwg nad ydynt yn rhai Salmonela. Rhaid cyflawni profion sleidiau serolegol sy'n defnyddio Salmonela amryfalent “O”ac amryfalent “H” (cyfnod 1 a 2) sera cyfludol ar gytrefi detholedig a amheuir ac a gasglwyd o blatiau agar gwaed neu blatiau MacConkey. Os bydd adweithiau yn un o'r sera neu yn y ddau rhaid dosbarthu'r cytrefi drwy seroleg sleidiau. Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol, rhaid i weithredydd y labordy anfon is-feithriniad at un o Labordai Milfeddygol Rhanbarthol Asiantaeth Labordai Milfeddygol yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar gyfer dosbarthu ymhellach.

RHAN IIIY DULL AR GYFER YNYSU ENTEROBACTERIACEAE

1.  Rhaid dechrau'r profion pan ddaw'r sampl i law neu ar y diwrnod gwaith cyntaf sy'n caniatáu i'r dull hwn gael ei gwblhau. Os na ddechreuir y prawf ar y diwrnod y daw'r sampl i law rhaid ei storio mewn oergell rhwng 2°C a 8°C hyd nes y bydd ei hangen. Os cafodd y sampl ei rhoi mewn oergell rhaid ei thynnu o'r oergell a'i storio ar wres ystafell am o leiaf un awr cyn i'r prawf ddechrau.

Samplau

2.  Rhaid gweithredu'r profion drwy ddefnyddio pum cyfran 10 gram o bob sampl a gyflwynir i'w phrofi. Rhaid rhoi pob sampl 10 gram yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml o Ddŵ r Pepton Byfferog a'i chymysgu'n drylwyr hyd nes bod y samplau mewn daliant gwastad.

Planiadau

3.  Am bob cyfran o'r sampl rhaid trosglwyddo 1 ml o hydoddiant i ddysgl petri 90 mm ddi-haint (yn ddyblyg). Rhaid bod y platiau wedi'u labelu i ddynodi cyfran y sampl y cymerwyd yr hydoddiant ohoni. Rhaid ychwanegu 15 ml o Agar Glwcos Bustl Coch Fioled (VRBGA)(46) ar dymheredd o 47°C±2°C ym mhob dysgl petri ac ar unwaith ei gymysgu gan bwyll drwy droelli'r ddysgl bum gwaith yn glocwedd a phum gwaith yn wrthglocwedd.

4.  Unwaith y mae'r agar wedi ceulo, rhaid troshaenu pob plât agar â 10 ml VRBGA pellach o agar ar dymheredd o 47°C±2°C. Pan fydd y droshaen wedi ceulo rhaid troi'r platiau wyneb i waered a'u deor yn anerobig ar 36°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Samplau â chytrefi Enterobacteriaceae

5.  Ar ôl y deoriad rhaid archwilio pob set o blatiau dyblyg am gytrefi sy'n nodweddu Enterobacteriaceae (cytrefi porffor 1-2 mm eu diamedr). Rhaid cyfrif yr holl gytrefi nodweddiadol ar bob plât a chymryd cymedr rhifyddol y platiau dyblyg.

Bydd y sampl yn methu dros dro naill ai–

(a)os bydd unrhyw gymedr rhifyddol dros 30(47); neu

(b)os bydd tri neu ragor o gymedrau rhifyddol dros 10;

ac yn yr achos hwnnw rhaid dilyn y weithdrefn ganlynol er mwyn cadarnhau a yw'r cytrefi yn Enterobacteriaceae neu beidio.

6.  Ar ôl cyfrif y cytrefi, rhaid cymryd cytrefi nodweddiadol ar hap o'r platiau agar, a rhaid i'r nifer fod o leiaf yn ail isradd y cytrefi a gyfrifwyd. Rhaid is-feithrin y cytrefi ar blât agar gwaed a'u deor yn aerobig ar 37°C±1°C am 20 awr±2 awr.

Archwilio'r is-feithriniadau

7.  Rhaid cyflawni prawf ocsidas a phrawf eplesiad glwcos ar bob un o'r pum cytref a gafodd eu his-feithrin. Rhaid ystyried bod cytrefi sy'n ocsidas-negyddol ac yn eplesiad glwcos-cadarnhaol yn Enterobacteriaceae.

8.  Os na phrofir bod yr holl gytrefi yn Enterobacteriaceae, rhaid i'r cyfanswm cyfrif ym mharagraff 5 gael ei leihau yn gymesur cyn cadarnhau a ddylai'r sampl fethu neu beidio.

Dulliau rheoli

9.  Rhaid cynnal profion rheoli bob dydd wrth ddechrau profi gan ddefnyddio–

(a)Escherichia coli NCTC 10418 heb fod yn fwy na saith niwrnod oed ar adeg ei ddefnyddio; ac

(b)protein anifeiliaid neu gompost neu weddill traul wedi'i brosesu sy'n rhydd rhag Enterobacteriaceae.

10.  Rhaid rhoi cyfran 10 gram o'r protein anifail wedi'i rendro yn aseptigol mewn cynhwysydd sterilaidd sy'n cynnwys 90 ml BPW a'i gymysgu'n drwyadl nes bod y sampl mewn daliant gwastad.

11.  Rhaid rhoi un gytref o Escherichia coli mewn 10 ml BPW a'i gymysgu i ffurfio daliant gwastad. Rhaid ychwanegu 0.1 ml o'r daliad at y daliad yn y paragraff blaenorol.

12.  Yna caiff hon ei thrin a'i harchwilio yn yr un modd â'r samplau prawf. Os na ffurfir cytrefi nodweddiadol yna rhaid bod profion y diwrnod hwnnw'n annilys a rhaid eu hailadrodd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn ail-wneud Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid 2003, y gwnaed darpariaeth ganddynt yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta (OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1) (“Rheoliad y Gymuned”).

Maent yn gorfodi offerynnau Cymunedol ychwanegol. Mae'r offerynnau hyn yn atodol i Reoliad y Cyngor ac yn ei ddiwygio ymhellach ac yn gwneud mesurau trosiannol pellach.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn dileu mesurau darpariaethol Cymunedol sydd bellach wedi dod i ben.

At hyn, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae'r Rheoliadau'n diddymu'r darpariaethau hynny sy'n ymwneud â iardiau nacer yn Neddf Lladd-dai 1974 gan fod iardiau nacer yn cael eu rheoleiddio bellach o dan y Rheoliadau hyn.

I'r graddau y mae'r adran yn gymwys o ran Cymru, maent yn diddymu adran 6 o Ddeddf Cŵ n 1906 a oedd yn ymwneud â gadael carcasau yn y fath fodd fel y gallai cŵ n gael mynediad atynt, ac yn rhoi yn ei lle ddarpariaeth yn rheoliad 11 sy'n rheoleiddio mynediad pob anifail at sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Dyma'r offerynnau trosiannol sy'n diwygio–

(a)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta(48);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 811/2003 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahardd ailgylchu mewnrywogaethol ar gyfer pysgod, claddu a llosgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac o ran mesurau trosiannol penodol(49);

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 813/2003 ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran casglu, cludo a gwaredu cyn-fwydydd(50);

(ch)Penderfyniad y Comisiwn 2003/326/EC ar fesurau trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwahanu gweithfeydd oleocemegol Categori 2 a rhai Categori 3(51);

(d)Penderfyniad y Comisiwn 2004/407/EC ar reolau iechydol ac ardystio trosiannol o dan Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran mewnforio gelatin ffotograffig o drydydd gwledydd penodol(52);

(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 668/2004 sy'n diwygio Atodiadau penodol i Reoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, o ran mewnforio sgil-gynhyrchion anifeiliaid o drydydd gwledydd(53);

(e)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 878/2004 sy'n gosod mesurau trosiannol yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyfer sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol a ddosberthir yn ddeunyddiau Categori 1 a Chategori 2 ac a fwriedir at ddibenion technegol (54);

(f)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 79/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran defnyddio llaeth, cynhyrchion ar sail llaeth a chynhyrchion sy'n deillio o laeth, ac a ddiffinnir fel deunydd Categori 3 yn y Rheoliad hwnnw(55);

(ff)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 92/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y modd y gwaredir neu y defnyddir sgil-gynhyrchion anifeiliaid, ac sy'n diwygio Atodiad VI y Rheoliad o ran trawsffurfio bio-nwy a phrosesu brasderau a rendrwyd(56);

(g)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 93/2005 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran prosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n dod o bysgod a dogfennau masnachol ar gyfer cludo sgil-gynhyrchion anifeiliaid(57).

Gwneir darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi mesurau yn Rheoliad y Gymuned o ran mewnforio, allforio a masnachu rhwng Aelod-wladwriaethau gan offerynnau ar wahân.

Mae'r Rheoliadau'n darparu fel a ganlyn.

Mae categoreiddio, casglu, cludo, gwaredu, storio, prosesu neu ddefnyddio deunydd Categori 1, Categori 2 neu Gategori 3 ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliadau 4, 5 a 6) yn dramgwydd penodol. Mae cymysgedd o sgil-gynhyrchion mamalaidd ac anfamalaidd i'w trin fel pe baent yn sgil-gynhyrchion mamalaidd (rheoliad 7).

Mae casglu, cludo, adnabod neu storio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ac eithrio yn unol â Rheoliad y Gymuned (rheoliad 8) yn dramgwydd penodol.

Mae rheoliadau 9 a 10 yn gorfodi'r cyfyngiadau a geir yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi yn fwyd wastraff arlwyo a phrotein anifail wedi'i brosesu. At hyn, mae rheoliad 9 yn gwahardd rhoi yn fwyd i anifeiliaid a ffermir sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill heb eu prosesu.

Mae rheoliad 11 yn cyfyngu ar fynediad at wastraff arlwyo a sgil-gynhyrchion anifeiliaid eraill.

Mae rheoliad 12 yn gorfodi'r cyfyngiadau yn Erthygl 22 o Reoliad y Gymuned ar roi gwrtaith organig ar dir pori.

Mae rheoliadau 13 i 15 yn darparu ar gyfer cymeradwyo mangreoedd ar gyfer y gwahanol ddulliau o drin sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae Rheoliad 16 yn darparu nad oes angen cymeradwyaeth ar gyfer compostio mewn mangre y tarddodd y deunydd a gaiff ei gompostio ohoni os cydymffurfir ag amodau'r rheoliad hwnnw.

Mae rheoliadau 17 i 21 yn darparu ar gyfer gwiriadau mewn gweithfeydd, wrth samplu ac mewn labordai a gymeradwywyd.

Mae rheoliadau 22 i 24 yn rheoleiddio rhoi ar y farchnad gynhyrchion amrywiol sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Mae rheoliadau 25 i 27 yn darparu rhanddirymiadau sy'n ymwneud â defnyddio sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar gyfer tacsidermi ac i'w rhoi'n fwyd i rai anifeiliaid penodedig. Mae Rheoliad 28 yn caniatáu claddu anifeiliaid anwes.

Mae rheoliad 29 yn caniatáu claddu a llosgi mewn ardaloedd pellennig, a ddiffinnir fel Ynys Enlli ac Ynys Bur. Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer claddu neu losgi yn achos brigiad clefyd neu ar gyfer llosgi a chladdu gwenyn a chynhyrchion gwenyna.

Mae rheoliadau 32 i 39 yn darparu ar gyfer cadw cofnodion.

Mae rheoliadau 40 i 42 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gymeradwyaethau, awdurdodiadau a chofrestriadau, am eu hatal neu eu dirymu ac am sylwadau yn erbyn hysbysiad i'w diwygio, i'w hatal neu i'w dirymu.

O dan reoliadau 43 i 45 gall arolygydd gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol gwaredu sgil-gynnyrch anifeiliaid neu wastraff arlwyo ac yn ei gwneud yn ofynnol glanhau a diheintio unrhyw gerbyd, cynhwysydd neu fangre. Rhaid cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rheoliadau hyn a hynny ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo.

Mae rheoliadau 46 a 47 yn darparu pwerau mynediad a thramgwydd o rwystro arolygydd.

Gorfodir y Rheoliadau gan yr awdurdod lleol ac eithrio mewn mangreoedd penodol (rheoliad 49).

Mae rheoliadau 50 i 52 yn darparu ar gyfer mesurau trosiannol i gynhyrchion technegol, cynhyrchion ffotograffig o gelatin a llaeth (nad oes iddynt ddyddiad dod i ben).

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithfeydd bio-nwy a chompostio.

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwaredu hylif o rendro sgil-gynhyrchion anifeiliaid sy'n cnoi cil.

Mae Atodlen 3 yn darparu ar gyfer dulliau profi.

Mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol neu gyfnod o dri mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu dymor o ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb (rheoliad 48).

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copïau o Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

OJ Rhif L273, 10.10.2002, t.1.

(4)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(5)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(6)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(7)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.24.

(8)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.42.

(9)

OJ Rhif L151,30.4.2004, t.11 fel y"i cywirwyd gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L208, 10.6.2004, t. 9 ac fel y"i cywirwyd ymhellach gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L396, 31.12.2004, t.63.

(10)

OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1.

(11)

OJ Rhif L162, 30.4.2004, t 62.

(12)

OJ Rhif L16, 20.1.2005, p.46.

(13)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, p.27.

(14)

Ychwanegwyd Pennod VII at Atodiad IV gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.

(15)

Ychwanegwyd y paragraff hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 808/2003.

(16)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig, British Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain W4 4AL.

(17)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(18)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(19)

Cyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig; gweler uchod.

(20)

1981 p.37.

(21)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(22)

OJ Rhif L332, 28.12.2000, t.91.

(23)

OJ Rhif L182, 16.7.1999, t.1; Cyfarwyddeb fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a"r Cyngor (OJ Rhif L284, 31.10.2003, t.1).

(24)

OJ Rhif L30, 6.2.1993, t.1; Rheoliad fel y"i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2557/2001 (L349, 31.12.2001, t.1).

(25)

1974 p.3.

(28)

1998 p.38.

(29)

1991 p.56.

(30)

1991 p.57.

(31)

Ceir hwn yn y gyfres “Methods for the Examination of Waters and Associated Materials” sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd ar y rhyngrwyd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 011751957X.

(32)

Ceir hwn yn y gyfres “Methods for the Examination of Waters and Associated Materials” sydd ar gael ar dudalen we Asiantaeth yr Amgylchedd (http://www.environment-agency.gov.uk/nls) ond a gyhoeddwyd cyn hynny gan y Llyfrfa fel ISBN 0117522120.

(33)

Shahidi-Ferguson Agar – Gweler Shahidi, S.A. a Ferguson, A.R. (1971) Applied Microbiology 21:500-506. American Society for Microbiology, 1913 1 St N.W., Washington DC 20006, UDA.

(34)

Motility nitrate medium – Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O"Keefe MF, Vahlefeld R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892. National Research Council of Canada, Ottawa ON K1A OR6, Canada.

(35)

Lactos gelatin medium – Gweler Hauschild AHW, Gilbert RJ, Harmon SM, O"Keefe MF, Vahlefield R, (1997) ICMSF Methods Study VIII, Canadian Journal of Microbiology 23, 884-892.

(36)

Charcoal gelatin discs -Gweler Mackie a McCartney, (1996) Practical Medical Microbiology 14, 509. Churchill Livingstone, Robert Stevenson House, 1-3 Baxter"s Place, Leith Walk, Caeredin EH1 3AF.

(37)

The National Collection of Type Cultures, Central Public Health Laboratory, 61 Colindale Ave, Llundain NW9 5HT.

(38)

Buffered Pepton Water – Gweler Edel, W. and Kampelmacher, E.H. (1973) Bulletin of World Health Organisation, 48: 167-174, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).

(39)

Rappaports Vassiliadis Broth – Gweler Vassiliadis P, Pateraki E, Papaiconomou N, Papadkis J A, a Trichopoulos D (1976) Annales de Microbiologie (Institute Pasteur) 127B: 195-200. Elsevier, 23 rue Linois, 75724 Paris, Cedex 15, Ffrainc.

(40)

Brilliant Green Agar – Gweler Edel W and Kampelmacher E H (1969) Bulletin of World Health Organisation 41:297-306, World Health Organisation Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir (ISSN 0042-9686).

(41)

Xylose Lisene Deoxycholate Agar – Gweler Taylor W I, (1965) American Journal of Clinical Pathology, 44:471-475, Lippincott and Raven, 227E Washington Street, Philadelphia PA 19106, UDA.

(42)

MacConkey Agar – Gweler (1963) International Standards for Drinking Water, World Health Distribution and Sales, CH-1211, Genefa 27, Y Swistir.

(43)

Buffered Peptone Water/Lysine/Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbiology 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(44)

Selenite Cystine Trimethylamine-N-Oxide Dulcitol – Gweler Easter, M C and Gibson, D M, (1985) Journal of Hygiene 94:245-262, Cambridge University Press, Caer-grawnt

(45)

Lysine Decarboxylase Glucose – Gweler Ogden I D (1988) International Journal of Food Microbilogy 7:287-297, Elsevier Science BV, PO Box 211, 1000 AE, Amsterdam, Yr Iseldiroedd (ISSN 0168-1695).

(46)

Violet Red Bile Glucose Agar – Gweler Mossell D A A, Eelderink I, Koopmans M, van Rossem F (1978) Laboratory Practice 27 No. 12 1049-1050; Emap Maclaren, PO Box 109, Maclaren House, 19 Scarbrook Road, Croydon CR9 1QH.

(47)

Mae cymedr rhifyddol yn gyfwerth â 3x10 197 o unedau ffurfio cytref fesul gram o"r sampl wreiddiol.

(48)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.1.

(49)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.14.

(50)

OJ Rhif L117, 13.5.2003, t.22.

(51)

OJ Rhif L117,13.5.2003, t.24.

(52)

OJ Rhif L151, 30.4.2004, t.11 fel y"i cywirwyd gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L208, 10.6.2004, t.9 ac fel y"i cywirwyd ymhellach gan Gorigendwm a gyhoeddwyd yn y Cylchgrawn Swyddogol yn OJ Rhif L396, 31.12.2004, t.63.

(53)

OJ Rhif L112, 19.4.2004, t.1.

(54)

OJ Rhif L162, 30.4.2004, t.62.

(55)

OJ Rhif L16, 20.1.2005, t.46.

(56)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.27.

(57)

OJ Rhif L19, 21.1.2005, t.34.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources