xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 5(1) a 6

ATODLEN 3LL+CDARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI MEWN RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â STAFF

RHAN 1LL+CAwdurdod gyda Maer a Chabinet Gweithredol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

1.  Yn y Rhan hon–LL+C

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);

mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan [F1y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod].LL+C

3. [F2(1)]  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–LL+C

[F3(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;]

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(3) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(4) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);

(dd)person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu

(e)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr [F4awdurdod lleol] ) o Ddeddf Addysg 2002(5) yn gymwys iddo.

[F5(f)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod; neu

(ff)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.]

[F6(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—

(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (ff).]

4.—(1Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo [F7person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod], rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.LL+C

(2Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) [F8, (ch), (f), neu (ff) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)]

(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a

(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.

5.  Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.LL+C

[F96.  Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.]LL+C

RHAN 2LL+CAwdurdod gydag Arweinydd a Chabinet Gweithredol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 3 Rhn. 2 mewn grym ar 3.7.2006, gweler rhl. 1(1)

1.  Yn y Rhan hon–LL+C

ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i swydd neu sydd â swydd daledig neu gyflogaeth o dan yr awdurdod;

mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;

mae gan “corff gweithredol” (“executive”) ac “arweinydd gweithredol” (“executive leader”) yr un ystyr ag yn Rhan II o Ddeddf 2000;

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(7);

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.

2.  Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid i swyddogaethau penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, aelod o staff yr awdurdod perthnasol, ar ran yr awdurdod perthnasol, gael eu cyflawni gan [F10y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan brif weithredwr yr awdurdod].LL+C

3. [F11(1)]  Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn–LL+C

[F12(a)y person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod;]

(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(8) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);

(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;

(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;

(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(9) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol); neu

(dd)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr [F13awdurdod lleol] ) o Ddeddf Addysg 2002(10) yn gymwys iddo.

[F14(e)y swyddog a ddynodwyd yn swyddog monitro’r awdurdod;

(f)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaethau democrataidd yr awdurdod.]

[F15(2) Nid yw paragraff 2 yn gymwys i ddiswyddo, na chymryd camau disgyblu yn erbyn, swyddog y bwriedir cymryd camau disgyblu mewn perthynas ag ef,—

(a)a oedd yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f), ond nad yw bellach, ar adeg y camau disgyblu arfaethedig, yn swyddog o’r fath; a

(b)pan fo’r camymddwyn honedig neu, yn ôl y digwydd, y rheswm dros y cynnig o ddiswyddo, wedi digwydd yn ystod y cyfnod pan oedd y swyddog yn swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(1)(a) i (f).]

4.—(1Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog, ar ran yr awdurdod perthnasol, yn cyflawni swyddogaeth penodi neu ddiswyddo [F16person a benodwyd yn brif weithredwr yr awdurdod] , rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn gwneud cynnig o benodiad neu, yn ôl y digwydd, rhaid cymeradwyo'r diswyddiad cyn rhoi rhybudd diswyddo.LL+C

(2Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor o'r awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), (b), (c) [F17, (ch), (e), neu (f) o baragraff 3(1) neu’r swyddogaeth o ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato ym mharagraff 3(2)]

(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredol fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a

(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o gorff gweithredol yr awdurdod perthnasol.

5.  Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan–LL+C

(a)person arall yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â phenodi'r person arall hwnnw fel aelod o staff yr awdurdod perthnasol; neu

(b)aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad yn ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.

[F186.  Rhaid i’r awdurdod perthnasol bennu lefel y gydnabyddiaeth ariannol, ac unrhyw newid yn lefel y gydnabyddiaeth ariannol, a delir i brif swyddog.]LL+C

F19RHAN 3LL+CAwdurdod gyda Maer a Rheolwr Gweithredol y Cyngor

 

F19....  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F19  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F19  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F19  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20RHAN 4LL+CAwdurdod sy'n Gweithredu Trefniadau Amgen

 

F20....  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F20  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(4)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(8)

Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

(9)

Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

2002 p.32.