“1. Yn y Rhan hon–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;
mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1);
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);
mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.
2. Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan y swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.
3. Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–
(a)y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
(b)prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 1989(3) (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
(c)prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
(ch)dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
(d)person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 1989(4) (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);
(dd)person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu
(e)person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 2002(5) yn gymwys iddo.
4.—(1) Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.
(2) Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) neu (ch) o baragraff 3–
(a)rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
(b)rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.
5. Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.”
Diwygiwyd adran 2(6) gan baragraff 95 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p.56), paragraff 3(a), (b) ac (c) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 2004 (p.31), ac Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).
Mae diwygiadau i adran 9 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.