ATODLEN 3DARPARIAETHAU I'W HYMGORFFORI MEWN RHEOLAU SEFYDLOG YN YMWNEUD â STAFF
RHAN 1Awdurdod gyda Maer a Chabinet Gweithredol
1
Yn y Rhan hon–
ystyr “aelod o'r staff” (“member of staff”) yw rhywun a benodwyd i neu sy'n dal swydd daledig neu gyflogaeth dan yr awdurdod;
mae i “camau disgyblu” (“disciplinary action”) yr un ystyr ag yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006;
ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 198912;
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 200013;
mae i “maer etholedig” a “chorff gweithredol” yr un ystyr sydd I “elected mayor” ac “executive” yn Rhan II o Ddeddf 2000; ac
ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog a benodwyd gan yr awdurdod at ddibenion y darpariaethau yn y Rhan hon.
2
Yn amodol ar baragraffau 3 a 5, rhaid cyflawni swyddogaeth penodi a diswyddo aelod o staff yr awdurdod perthnasol, a chymryd camau disgyblu yn ei erbyn, ar ran yr awdurdod perthnasol, gan y swyddog a ddynodwyd dan adran 4(1) o Ddeddf 1989 (dynodiad ac adroddiadau pennaeth gwasanaeth taledig) fel pennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod neu gan swyddog a enwebwyd gan bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod.
3
Nid yw paragraff 2 yn gymwys i benodi neu ddiswyddo, neu gamau disgyblu yn erbyn, y canlynol–
a
y swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod;
b
prif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6) o Ddeddf 198914 (swyddi â chyfyngiad gwleidyddol);
c
prif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o Ddeddf 1989;
ch
dirprwy brif swyddog o fewn ystyr adran 2(8) o Ddeddf 1989;
d
person a benodwyd yn rhinwedd adran 9 o Ddeddf 198915 (cymhorthwyr i grwpiau gwleidyddol);
dd
person a benodwyd yn rhinwedd rheoliadau o dan baragraff 6 Atodlen 1 i Ddeddf 2000 (cymhorthydd y maer); neu
e
person y mae rheoliadau a wneir o dan adran 35(4) a (5) (darpariaeth o ran penodi, disgyblu, atal dros dro a diswyddo athrawon a staff eraill mewn ysgolion a gyflogir gan yr awdurdod addysg lleol) o Ddeddf Addysg 200216 yn gymwys iddo.
4
1
Lle bo pwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo swyddog a ddynodwyd yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, rhaid i'r awdurdod perthnasol gymeradwyo'r penodiad hwnnw cyn cynnig y penodiad neu, pa un bynnag sy'n briodol, rhaid cymeradwyo'r diswyddo hwnnw cyn rhoi rhybudd diswyddo.
2
Lle bo pwyllgor neu is-bwyllgor yr awdurdod perthnasol yn cyflawni, ar ran yr awdurdod perthnasol, swyddogaeth penodi neu ddiswyddo unrhyw swyddog y cyfeirir ato yn is-baragraffau (a), (b), (c) neu (ch) o baragraff 3–
a
rhaid i o leiaf un aelod o'r corff gweithredu fod yn aelod o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw; a
b
rhaid nad yw mwy na hanner aelodau o'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw yn aelodau o weithrediaeth yr awdurdod perthnasol.
5
Nid oes unrhyw beth ym mharagraff 2 yn atal person rhag gweithredu fel aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlwyd gan yr awdurdod perthnasol i ystyried apêl gan aelod o staff yr awdurdod perthnasol yn erbyn unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud â diswyddo, neu gymryd camau disgyblu yn erbyn, yr aelod hwnnw o'r staff.