xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliadau 5 a 51
1. Cwrs gradd gyntaf heblaw cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4.
2. Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.
3. Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—
(a)Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu
(b)Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
4. Cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf.
5. Cwrs o hyfforddiant pellach i athrawon neu weithwyr ieuenctid a chymuned.
6. Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol—
(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu
(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,
nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
7. Cwrs sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon—
(a)yn uwch na safon cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o'r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 6(a) neu (b) uchod; ond
(b)nad yw'n uwch na safon cwrs gradd gyntaf,
ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.