7. Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn wladolyn i un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd neu'n blentyn y wladolyn o'r fath—
(a)y mae ei gwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru neu gan sefydliad neu sefydliadau yng Nghymru ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; a
(b)sy'n bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9(b) ac (c); ac
(c)nad yw'n syrthio o fewn paragraff 8.