RHAN 2CYMHWYSTRA

Cyrsiau dynodedig5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4 os yw—

a

wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;

b

yn un o'r canlynol—

i

cwrs amser-llawn;

ii

cwrs rhyngosod; neu

iii

cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

c

yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

ch

yn cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

2

Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

3

At ddibenion paragraff (1)—

a

mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, p'un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

b

bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

c

ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199236.

4

Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol—

a

er gwaetha'r ffaith y gall y cwrs arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a

b

er gwaetha'r ffaith y gall rhan o'r cwrs fod yn ddewisol.

5

Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

6

At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).