- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
8.—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu blawd pysgod ar gyfer ei fwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny yn unol â phwynt B(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod a fwriedir i'w fwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny–
(a)yn unol â phwynt B(c) o'r Rhan honno, ar safle a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt B(c)(i) o'r Rhan honno, ar gyfer unrhyw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt B(c) (ii) o'r Rhan honno, mewn safle a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt B(d) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n dod gyda'r bwydydd anifeiliaid fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â'r frawddeg gyntaf ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
(5) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt B(e) o'r Rhan honno.
(6) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt B(f) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â darpariaethau'r ail baragraff yn y pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r ffarm o dan y paragraff hwnnw.
9.—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 8 yn drosedd.
(2) Mae'n drosedd i gynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 8(2)(b)–
(a)gadw anifeiliaid cnoi cil;
(b)traddodi bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) a gynhyrchwyd gan y cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref o'i ddaliad; neu
(c)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd pysgod gyda chynnwys protein crai o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt B(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned–
(a)beidio â sicrhau bod bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael eu cadw mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;
(b)peidio â sicrhau bod bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael eu gweithgynhyrchu yn unol â'r ail fewnoliad; neu
(c)peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
10.—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm i'w bwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil wneud hynny–
(a)yn unol â phwynt C(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt C(a)(i) o'r Rhan honno, ar gyfer cynhyrchwyr bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt C(a)(ii) o'r Rhan honno mewn sefydliad a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw.
(2) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt C(b) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n dod gyda'r bwydydd anifeiliaid fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid hynny mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt C(c) o'r Rhan honno.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath ar gyfer anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt C(c) o'r Rhan honno.
(5) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt C(d) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â'r darpariaethau yn yr ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
11.—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 10 yn drosedd.
(2) Mae'n drosedd i unryw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 10(1)(b)–
(a)gadw anifeiliaid cnoi cil;
(b)anfon bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu
(c)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu ffosffad tricalsiwm gyda chynnwys ffosfforws o 10% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt C(a)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned–
(a)beidio â sicrhau bod bwydydd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer anifeiliaid cnoi cil yn cael eu gweithgynhyrchu yn unol â'r mewnoliad cyntaf yn y pwynt hwnnw;
(b)peidio â sicrhau eu bod yn cael eu cadw mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu
(c)peidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
12.—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu–
(a)cynhyrchion gwaed, neu fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed, a fwriedir ar gyfer eu bwydo i anifeiliaid sy'n cael eu ffermio ac nad ydynt yn cnoi cil; neu
(b)flawd gwaed, neu fwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys blawd gwaed, a fwriedir i'w fwydo i bysgod,
sicrhau bod y gwaed yn dod o ladd-dy sydd wedi ei gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol at bwrpas pwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned a'i fod naill ai–
(i)ddim yn cael ei ddefnyddio i gigydda anifeiliaid cnoi cil; neu
(ii)bod system rheoli wedi cael ei sefydlu yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(a) o'r Rhan honno i sicrhau y cedwir gwaed anifeiliaid cnoi cil ar wahân i waed anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil a'i fod wedi cael ei awdurdodi at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Mae'n rhaid i feddiannydd y lladd-dy draddodi'r gwaed yn unol â phwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae'n rhaid i unrhyw gludydd ei gludo yn unol â'r pwynt hwnnw.
(3) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny yn unol â naill ai'r paragraff cyntaf neu'r ail baragraff ym mhwynt D(b) o'r Rhan honno.
(4) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed wneud hynny–
(a)yn unol â phwynt D(c) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw;
(b)yn unol â phwynt D(c)(i) o'r Rhan honno, fel cynhyrchydd bwydydd cyfansawdd cartref a gofrestrwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw; neu
(c)yn unol â phwynt D(c)(ii) o'r Rhan honno, mewn sefydliad a awdurdodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y pwynt hwnnw.
(5) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n pecynnu'r bwydydd anifeiliaid eu labelu yn unol â phwynt D(d) o'r Rhan honno, ac mae'n rhaid i unrhyw ddogfennaeth sy'n mynd gyda'r bwydydd fod yn unol â'r pwynt hwnnw.
(6) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cludo'r bwydydd anifeiliaid mewn llwythi mawr wneud hynny yn unol â phwynt D(e) o'r Rhan honno.
(7) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio cerbyd, a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gludo bwydydd anifeiliaid o'r fath, i gludo bwydydd i anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r ail frawddeg ym mhwynt D(e) o'r Rhan honno.
(8) Mae'n rhaid i feddiannydd unrhyw fferm lle cedwir anifeiliaid cnoi cil gydymffurfio â'r paragraff cyntaf ym mhwynt D(f) o'r Rhan honno oni bai bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni y cydymffurfir â'r darpariaethau yn yr ail baragraff o'r pwynt hwnnw a'i fod wedi cofrestru'r fferm o dan y paragraff hwnnw.
13.—(1) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff 12 yn drosedd.
(2) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n casglu gwaed yn unol â'r ail baragraff o bwynt D(a) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned beidio â–
(a)chigydda anifeiliaid yn unol â mewnoliad cyntaf y paragraff hwnnw;
(b)casglu, storio, cludo neu becynnu gwaed yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu
(c)samplu a dadansoddi gwaed yn rheolaidd yn unol â thrydydd mewnoliad y paragraff hwnnw.
(3) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed yn unol â'r ail baragraff ym mhwynt D(b) o'r Rhan honno beidio â –
(a)sicrhau bod y gwaed yn cael ei brosesu yn unol â mewnoliad cyntaf o baragraff hwnnw;
(b)cadw deunydd crai a chynnyrch gorffenedig yn unol ag ail fewnoliad y paragraff hwnnw; neu
(c)samplu yn unol â thrydydd mewnoliad y paragraff hwnnw.
(4) Mae'n drosedd i unrhyw berson sy'n cynhyrchu bwydydd anifeiliaid yn unol â phwynt D(c)(ii) o Ran II o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned–
(a)beidio â sicrhau bod bwydydd anifeiliaid yn cael eu gweithgynhyrchu yn unol â mewnoliad cyntaf y pwynt hwnnw;
(b)beidio â sicrhau y'u cedwir mewn cyfleusterau ar wahân yn unol â'r ail fewnoliad; neu
(c)beidio â gwneud a chadw cofnod yn unol â'r trydydd mewnoliad.
(5) Mae'n drosedd i unryw un sy'n cynhyrchu bwyd cyfansawdd gartref sydd wedi ei gofrestru o dan baragraff 12(4)(b)–
(a)gadw anifeiliaid cnoi cil lle defnyddir cynhyrchion gwaed;
(b)cadw anifeiliaid ar wahân i bysgod lle defnyddir blawd gwaed;
(c)anfon bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed (boed yn gyflawn neu'n rhannol gyflawn) o'i ddaliad; neu
(ch)defnyddio bwydydd anifeiliaid sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed neu flawd gwaed gyda chyfanswm cynnwys protein o 50% neu fwy wrth gynhyrchu bwydydd anifeiliaid cyflawn.
14. Mae'n drosedd defnyddio cyfarpar a ddefnyddiwyd i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil o dan baragraffau 8, 10 neu 12, i gynhyrchu bwydydd i anifeiliaid cnoi cil, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan arolygydd.
15.—(1) Mae'n drosedd storio neu gludo–
(a)llwythi mawr o brotein anifeiliaid wedi ei brosesu (ar wahân i flawd pysgod); neu
(b)llwythi mawr o gynhyrchion, gan gynnwys bwydydd anifeiliaid, gwrteithiau organig a deunyddiau gwella pridd sy'n cynnwys proteinau o'r fath,
ac eithrio yn unol â phwynt C(a) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n drosedd storio neu gludo llwythi mawr o flawd pysgod, ffosffad deucalsiwm, ffosffad tricalsiwm, cynhyrchion gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil neu flawd gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil, ac eithrio yn unol â phwynt C(b) a C(c) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(3) Yn ogystal â gofynion is-baragraffau (1) a (2), mae'n drosedd cludo llwythi mawr o brotein anifeiliaid sydd wedi cael ei brosesu neu unrhyw un o'r deunyddiau a nodwyd yn is-baragraff (2) oni bai bod y cludwr wedi ei gofrestru gyda'r Cynulliad Cenedlaethol i'r diben hwnnw.
16.—(1) Mae'n drosedd gweithgynhyrchu, storio, cludo neu becynnu bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys cynhyrchion gwaed sy'n dod o anifeiliaid cnoi cil neu brotein anifeiliaid wedi ei brosesu, ar wahân i flawd pysgod, ac eithrio yn unol â phwynt D o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned.
(2) Mae'n drosedd gweithgynhyrchu neu gludo bwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys ffosffad deucalsiwm neu dricalsiwm neu gynhyrchion gwaed sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil ac eithrio yn unol â phwynt D o'r Rhan honno.
17.—(1) Yn unol â phwynt E(1) o Ran III o Atodiad IV i Reoliad TSE y Gymuned mae'n drosedd allforio protein anifeiliaid sydd wedi cael ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid cnoi cil, ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys.
(2) Mae'n drosedd allforio protein anifeiliaid sydd wedi ei brosesu sy'n dod o anifeiliaid nad ydynt yn cnoi cil (ac unrhyw beth sy'n ei gynnwys) ac eithrio yn unol â phwnt E(2) o'r Rhan honno a chytundeb yn ysgrifenedig rhwng y Cynulliad Cenedlaethol ac awdurod cymwys y trydydd gwledydd.
18.—(1) Mae'n drosedd gwerthu neu gyflenwi i'w ddefnyddio fel gwrtaith ar dir amaethyddol, neu i feddu gyda'r bwriad o werthu neu gyflenwi, unrhyw –
(a)brotein mamolaidd (ar wahân i ludw) sy'n deillio o sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd fel deunydd Categori 2 yn Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002; neu
(b)lludw sy'n deillio o losgi sgil-gynhyrchion anifeiliaid a ddosbarthwyd fel deunydd Categori 1 yn y Rheoliad hwnnw.
(2) Mae'n drosedd defnyddio unrhyw beth sydd wedi ei wahardd yn is-baragraff (1) fel gwrtaith ar dir amaethyddol.
(3) Yn y paragraff hwn–
(a)ystyr “tir amaethyddol”yw tir a ddefnyddir neu y gellir ei ddefnyddio at bwrpas masnach neu fusnes sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth; ac
(b)mae “amaethyddiaeth”yn cynnwys tyfu ffrwythau, tyfu hadau, ffermio gwartheg godro a bridio a chadw da byw, defnyddio tir fel tir pori, dolydd, tir helyg gwiail, defnyddio tir fel coetir, a garddwriaeth (ac eithrio lluosogi a thyfu planhigion mewn tai gwydr, strwythurau gwydr neu strwythurau plastig).
19.—(1) Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi, yn cludo neu'n derbyn unrhyw fwydydd anifeiliaid anwes sy'n cynnwys protein anifeiliaid nad yw wedi ei fwriadu ar gyfer ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid anwes gofnodi–
(i)enw'r gwneuthurwr;
(ii)dyddiad cyflenwi a derbyn;
(iii)safle'r tarddiad a'r gyrchfan;
(iv)niferoedd y bwyd anifeiliaid anwes; a
(v)natur y protein anifeiliaid sydd wedi ei gynnwys yn y bwyd anifeiliaid anwes.
(2) Mae'n rhaid iddo gadw'r cofnodion hynny am 2 flynedd.
(3) Mae'n rhaid i'r traddodwr sicrhau bod y bwyd anifeiliaid anwes wedi ei labelu gyda'r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) neu bod dogfennaeth yn gysylltiedig sy'n cynnwys yr wybodaeth honno.
(4) Mae unrhyw berson sy'n peidio â chydymffurfio â'r paragraff hwn yn euog o drosedd.
20. Mae'n drosedd cyflenwi cynhwysyn bwydydd anifeiliaid os yw'r cynhwysyn hwnnw wedi cael ei gynhyrchu ar safle lle defnyddir unrhyw brotein anifeiliaid (heblaw am fwyd pysgod) wedi ei brosesu mewn unrhyw broses gweithgynhyrchu oni bai bod y label neu'r ddogfennaeth gysylltiedig yn nodi hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: