RHAN 1RHAGARWEINIOL A CHYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006, deuant i rym ar 25 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Aelod-Wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig;

  • mae i “blawd cig ac esgyrn mamaliaid” (“mammalian meat and bone meal”) yr ystyr a roddir yn Rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 20025;

  • ystyr “braster” (“fat”) yw'r rhin a geir ar ôl trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a bennir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC6;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol” (“feeding stuff intended for a particular nutritional purpose”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd, y mae ei gyfansoddiad neu ddull ei weithgynhyrchu yn ei wahaniaethu oddi wrth fathau eraill o fwydydd anifeiliaid ac oddi wrth y math o gynhyrchion sy'n dod dan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/167/EEC sy'n gosod yr amodau sy'n rheoli paratoi, rhoi ar y farchnad a defnyddio bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol o fewn y Gymuned7, ac y rhoddir unrhyw awgrym mewn perthynas ag ef y bwriedir ef at ddiben maethiadol penodol;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid anwes” (“pet food”) yw bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid anwes a dehonglir “bwyd anifeiliaid anwes cyfansawdd” (“compound pet food”) yn unol â hynny;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid cydategol” (“complementary feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n uchel eu cynnwys o ran sylweddau penodol ac nad yw, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol heblaw ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn cyfuniad â mathau eraill o fwyd anifeiliaid;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”), yn ddarostyngedig i reoliad 14(6), yw cymysgedd o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, pa un ai a ydyw yn cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio, ar gyfer ei fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm, ar ffurf bwydydd anifeiliaid cydategol neu fwyd anifeiliaid cyflawn;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid cyflawn” (“complete feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid mwynol” (“mineral feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cydategol a gyfansoddir o fwynau yn bennaf ac sy'n cynnwys o leiaf 40% o ludw yn ôl ei bwysau;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth” (“milk replacer feed”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd a roddir ar ffurf sych, neu wedi ei ailgyfansoddi â swm penodedig o hylif, i fwydo anifeiliaid ifanc yn ychwanegol at y llaeth ar ôl y llaeth llo bach neu yn lle hwnnw, neu i fwydo lloi y bwriedir eu lladd;

  • ystyr “bwyd anifeiliaid triagl” (“molassed feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cydategol wedi ei baratoi ar sail triagl ac sy'n cynnwys o leiaf 14%, yn ôl ei bwysau, mewn cyfanswm o siwgr wedi ei fynegi fel swcros;

  • ystyr “cynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid” (“product intended for animal feed”) yw unrhyw gynnyrch a ddefnyddir, neu a fwriedir ar gyfer ei ddefnyddio, mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm neu anifeiliaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt;

  • ystyr “deunydd bwyd anifeiliaid” (“feed material”) yw—

    1. a

      unrhyw gynnyrch sy'n deillio o lysiau neu o anifeiliaid, yn ei gyflwr gwreiddiol, yn ffres neu wedi ei gadw;

    2. b

      unrhyw gynnyrch sy'n deillio o gynnyrch o'r fath drwy brosesu diwydiannol; neu

    3. c

      unrhyw sylwedd organig neu anorganig,

    (p'un ai a yw'n cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio) ac sydd i'w ddefnyddio ar gyfer bwydo anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm drwy'r geg, yn uniongyrchol fel y mae, neu ar ôl ei brosesu, wrth baratoi bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu fel cariwr rhag-gymysgedd;

  • ystyr “deunydd rhagnodedig” (“prescribed material”) yw deunydd a ddisgrifir yn rheoliad 5(1);

  • ystyr “diben maethiadol penodol” (“particular nutritional purpose”) yw diben diwallu unrhyw angen am faeth sydd ar anifeiliaid anwes neu dda byw cynhyrchiol, y mae eu proses cymathu neu amsugno, neu eu metabolaeth, efallai wedi cael ei handwyo dros dro, neu wedi ei handwyo dros dro neu'n barhaol, ac y gall felly llyncu bwyd anifeiliaid a all ateb y diben hwnnw fod o les iddynt;

  • ystyr “dogn dyddiol” (“daily ration”) yw cyfanswm cyfartalog y bwyd anifeiliaid, wedi ei fynegi ar sail 12% o leithedd, y mae ei angen ar anifail o fath, grŵp oedran a lefel gynhyrchiant penodedig er mwyn bodloni ei holl anghenion am faeth;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;

  • ystyr “ffeibr” (“fibre”) yw'r deunydd organig a gyfrifir ar ôl i fwyd anifeiliaid gael ei drin yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer ffeibr a bennir ym Mhwynt 3 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 73/46/EEC8;

  • ystyr “gwerth egni” (“energy value”) yw gwerth egni bwyd anifeiliaid cyfansawdd wedi ei gyfrifo yn unol â'r dull perthnasol a bennir yn Atodlen 1;

  • ystyr “Gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“EEA State”) yw Aelod-Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd” (“the Compound Feeding Stuffs Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar farchnata bwydydd anifeiliaid cyfansawdd 9;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol” (“the Certain Products Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/471/EEC ynghylch cynhyrchion penodol a ddefnyddir mewn maethiad anifeiliaid10;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Deunyddiau Bwyd Anifeiliaid” (“the Feed Materials Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC ynghylch cylchredeg deunyddiau bwyd anifeiliaid11;

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Ychwanegion” (“the Additives Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid12;

  • ystyr “isafswm oes storio” (“minimum storage life”) o ran bwyd anifeiliaid cyfansawdd, yw'r dyddiad hyd at yr hwn y bydd y bwyd anifeiliaid hwnnw, o dan amodau storio priodol, yn cadw ei briodweddau penodol;

  • ystyr “lleithedd” (“moisture”) yw dŵr a deunyddiau anweddol eraill a benderfynir yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer lleithedd a bennir yn Rhan I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC13;

  • ystyr “lludw” (“ash”) yw'r mater sy'n deillio o drin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer lludw a bennir ym Mhwynt 5 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/250/EEC14;

  • mae i “micro-organedd” yr ystyr a roddir i “micro-organism” gan Erthygl 2(2)(m) o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion;

  • ystyr “olew” (“oil”) yw'r rhin a geir yn sgil trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC 15;

  • ystyr “protein” (“protein”), ac eithrio ym mharagraffau 7, 8, 9 a 10 o Ran I o Atodlen 3, lle mae iddo'r ystyr a roddir iddo gan reoliad 3(1) o Reoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 200216, yw'r mater a geir yn sgil trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer protein a bennir ym Mhwynt 2 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 72/199/EEC 17;

  • mae i “rhag-gymysgedd” yr ystyr a roddir i “premixture” yn Erthygl 2(2)(e) y Rheoliad Ychwanegion, ac eithrio unrhyw rag-gymysgedd sy'n cynnwys ychwanegyn sy'n perthyn i gategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o'r Rheoliad hwnnw heblaw'r rhai sydd yn y grwpiau swyddogaeth a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw;

  • ystyr “y Rheoliad Ychwanegion” (“the Additives Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch ychwanegion i'w defnyddio ar gyfer maethiad anifeiliaid18;

  • ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Porthiant (Cymru) 200119;

  • ystyr “rhoi mewn cylchrediad” (“put into circulation”) yw gwerthu neu drosglwyddo mewn ffordd arall, bod mewn meddiant gyda golwg ar werthu neu drosglwyddo mewn ffordd arall, neu gynnig i werthu, ym mhob achos i drydydd parti, ac yn rheoliadau 13(8) a 14 mae hefyd yn golygu mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” gan Erthygl 3(d) o Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd20;

  • ystyr “starts” (“starch”) yw'r mater a geir yn sgil trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer starts a bennir ym Mhwynt 1 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 72/199/EEC;

  • ystyr “sylwedd annymunol” (“undesirable substance”) yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw'n gyfrwng pathogenig, sy'n bresennol mewn neu ar gynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid ac—

    1. a

      sy'n berygl posibl i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i'r amgylchedd; neu

    2. b

      sy'n rhywbeth a allai effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant da byw;

  • ystyr “ychwanegyn” (“additive”), yn ddarostyngedig i reoliad 21(4), yw ychwanegyn bwyd y mae'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei gyfer, ac eithrio unrhyw ychwanegyn yng nghategorïau (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o'r Rheoliad hwnnw, heblaw'r rhai yn y grwpiau swyddogaeth a restrir ym mharagraff 4(a), (b) a (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw;

2

Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen gyda Rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall.

3

Lle bynnag, mewn cofnod mewn tabl neu gofnod arall mewn Atodlen i'r Rheoliadau hyn, y gwelir cyfeiriad gyda Rhif at droednodyn, mae'r troednodyn sydd â'r Rhif hwnnw i'w drin fel pe bai'n gynwysedig yn y testun y mae'n berthnasol iddo neu fel pe bai'n ymhelaethu ar y testun hwnnw.

4

Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran gyda Rhif fel cyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Ddeddf, oni nodir yn wahanol.

5

Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae wedi ei ddiwygio ar y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn neu cyn hynny.

Diwygio Deddf Amaethyddiaeth 1970 o ran pob bwyd anifeiliaid3

1

Mae is-adran (1) o adran 66 yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai—

a

y diffiniad canlynol wedi ei roi yn lle'r diffiniad o “feeding stuff”—

  • “feeding stuff” means—

    1. a

      a product of vegetable or animal origin in its natural state (whether fresh or preserved);

    2. b

      a product derived from the industrial processing of such a product; or

    3. c

      an organic or inorganic substance, used singly or in a mixture,

    whether or not containing additives, for oral feeding to pet animals or farmed creatures;

b

y diffiniad canlynol wedi ei roi yn lle'r diffiniad o “pet animal”—

  • “pet animal” means an animal belonging to a species normally nourished and kept, but not consumed, by man, other than an animal bred for fur;

2

Mae is-adran (2) o adran 66 yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o'r is-adran honno—

b

material shall be treated—

i

as imported or sold for use as a feeding stuff whether it is imported or, as the case may be, sold, to be used by itself, or as an ingredient in something which is to be so used, and

ii

as used as a feeding stuff whether it is so used by itself, or as an ingredient in something which is to be so used.

c

paragraph (b) shall not apply in any circumstances in which Article 16 (labelling and packaging of feed additives and premixtures) of Regulation (EC) No 1831/2003 of the European Parliament and of the Council on additives for use in animal nutrition applies.21

3

Mae adrannau 73 a 73A yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “any farmed creatures” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “animals of any description prescribed for the purpose of the definition of “feeding stuff” in section 66(1) of this Act”.

4

Mae adran 85 yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai —

a

paragraff (a) i'r graddau y mae'n ymwneud â thraddodi y tu allan i'r Deyrnas Unedig, wedi'i hepgor; a

b

paragraff (b) wedi'i hepgor.

Addasu Deddf Amaethyddiaeth 1970 o ran bwydydd anifeiliaid wedi eu mewnforio4

O ran bwydydd anifeiliaid sydd wedi ei fewnforio, bydd adran 69(1) yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “and in either case before it is removed from the premises” wedi'u hepgor.

Deunydd rhagnodedig5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y deunydd rhagnodedig at ddibenion adrannau 68(1) a 69(1) yw unrhyw ddeunydd y gellir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn, ni fydd adran 68(2) yn gymwys.

Esemptiadau rhag y Rheoliadau hyn6

I'r graddau y mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd (sydd yn bennaf yn rheoleiddio labelu a phecynnu bwydydd anifeiliaid cyfansawdd), nid ydynt yn gymwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 14(c) (sy'n ymwneud ag anifeiliaid a gedwir ar gyfer dibenion gwyddonol neu arbrofol) o'r Gyfarwyddeb honno.

Dirymiadau7

Mae Rheoliadau 2001, ac eithrio rheoliad 17A a pharagraff 19 o Atodiad 4 i'r Rheoliadau hynny, ac at ddiben paragraff 27 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn Rhannau I i VIII o'r Tabl i Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny, wedi eu dirymu, yn ogystal â'r offerynnau diwygio a restrir yn Atodlen 9 ac i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.