- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006, deuant i rym ar 25 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Aelod-Wladwriaeth” (“Member State”) yw Aelod-Wladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig;
mae i “blawd cig ac esgyrn mamaliaid” (“mammalian meat and bone meal”) yr ystyr a roddir yn Rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2002(1);
ystyr “braster” (“fat”) yw'r rhin a geir ar ôl trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a bennir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC(2);
ystyr “bwyd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol” (“feeding stuff intended for a particular nutritional purpose”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd, y mae ei gyfansoddiad neu ddull ei weithgynhyrchu yn ei wahaniaethu oddi wrth fathau eraill o fwydydd anifeiliaid ac oddi wrth y math o gynhyrchion sy'n dod dan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/167/EEC sy'n gosod yr amodau sy'n rheoli paratoi, rhoi ar y farchnad a defnyddio bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol o fewn y Gymuned(3), ac y rhoddir unrhyw awgrym mewn perthynas ag ef y bwriedir ef at ddiben maethiadol penodol;
ystyr “bwyd anifeiliaid anwes” (“pet food”) yw bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid anwes a dehonglir “bwyd anifeiliaid anwes cyfansawdd” (“compound pet food”) yn unol â hynny;
ystyr “bwyd anifeiliaid cydategol” (“complementary feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n uchel eu cynnwys o ran sylweddau penodol ac nad yw, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol heblaw ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn cyfuniad â mathau eraill o fwyd anifeiliaid;
ystyr “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”), yn ddarostyngedig i reoliad 14(6), yw cymysgedd o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, pa un ai a ydyw yn cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio, ar gyfer ei fwydo drwy'r geg i anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm, ar ffurf bwydydd anifeiliaid cydategol neu fwyd anifeiliaid cyflawn;
ystyr “bwyd anifeiliaid cyflawn” (“complete feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd sydd, oherwydd ei gyfansoddiad, yn ddigonol ar gyfer dogn dyddiol;
ystyr “bwyd anifeiliaid mwynol” (“mineral feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cydategol a gyfansoddir o fwynau yn bennaf ac sy'n cynnwys o leiaf 40% o ludw yn ôl ei bwysau;
ystyr “bwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth” (“milk replacer feed”) yw bwyd anifeiliaid cyfansawdd a roddir ar ffurf sych, neu wedi ei ailgyfansoddi â swm penodedig o hylif, i fwydo anifeiliaid ifanc yn ychwanegol at y llaeth ar ôl y llaeth llo bach neu yn lle hwnnw, neu i fwydo lloi y bwriedir eu lladd;
ystyr “bwyd anifeiliaid triagl” (“molassed feeding stuff”) yw bwyd anifeiliaid cydategol wedi ei baratoi ar sail triagl ac sy'n cynnwys o leiaf 14%, yn ôl ei bwysau, mewn cyfanswm o siwgr wedi ei fynegi fel swcros;
ystyr “cynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid” (“product intended for animal feed”) yw unrhyw gynnyrch a ddefnyddir, neu a fwriedir ar gyfer ei ddefnyddio, mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid anwes, anifeiliaid fferm neu anifeiliaid sy'n byw'n rhydd yn y gwyllt;
ystyr “deunydd bwyd anifeiliaid” (“feed material”) yw—
unrhyw gynnyrch sy'n deillio o lysiau neu o anifeiliaid, yn ei gyflwr gwreiddiol, yn ffres neu wedi ei gadw;
unrhyw gynnyrch sy'n deillio o gynnyrch o'r fath drwy brosesu diwydiannol; neu
unrhyw sylwedd organig neu anorganig,
(p'un ai a yw'n cynnwys unrhyw ychwanegyn neu beidio) ac sydd i'w ddefnyddio ar gyfer bwydo anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm drwy'r geg, yn uniongyrchol fel y mae, neu ar ôl ei brosesu, wrth baratoi bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu fel cariwr rhag-gymysgedd;
ystyr “deunydd rhagnodedig” (“prescribed material”) yw deunydd a ddisgrifir yn rheoliad 5(1);
ystyr “diben maethiadol penodol” (“particular nutritional purpose”) yw diben diwallu unrhyw angen am faeth sydd ar anifeiliaid anwes neu dda byw cynhyrchiol, y mae eu proses cymathu neu amsugno, neu eu metabolaeth, efallai wedi cael ei handwyo dros dro, neu wedi ei handwyo dros dro neu'n barhaol, ac y gall felly llyncu bwyd anifeiliaid a all ateb y diben hwnnw fod o les iddynt;
ystyr “dogn dyddiol” (“daily ration”) yw cyfanswm cyfartalog y bwyd anifeiliaid, wedi ei fynegi ar sail 12% o leithedd, y mae ei angen ar anifail o fath, grŵp oedran a lefel gynhyrchiant penodedig er mwyn bodloni ei holl anghenion am faeth;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth 1970;
ystyr “ffeibr” (“fibre”) yw'r deunydd organig a gyfrifir ar ôl i fwyd anifeiliaid gael ei drin yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer ffeibr a bennir ym Mhwynt 3 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 73/46/EEC(4);
ystyr “gwerth egni” (“energy value”) yw gwerth egni bwyd anifeiliaid cyfansawdd wedi ei gyfrifo yn unol â'r dull perthnasol a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “Gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“EEA State”) yw Aelod-Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;
ystyr “y Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd” (“the Compound Feeding Stuffs Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar farchnata bwydydd anifeiliaid cyfansawdd (5);
ystyr “y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol” (“the Certain Products Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 82/471/EEC ynghylch cynhyrchion penodol a ddefnyddir mewn maethiad anifeiliaid(6);
ystyr “y Gyfarwyddeb Deunyddiau Bwyd Anifeiliaid” (“the Feed Materials Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 96/25/EC ynghylch cylchredeg deunyddiau bwyd anifeiliaid(7);
ystyr “y Gyfarwyddeb Ychwanegion” (“the Additives Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 70/524/EEC ynghylch ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid(8);
ystyr “isafswm oes storio” (“minimum storage life”) o ran bwyd anifeiliaid cyfansawdd, yw'r dyddiad hyd at yr hwn y bydd y bwyd anifeiliaid hwnnw, o dan amodau storio priodol, yn cadw ei briodweddau penodol;
ystyr “lleithedd” (“moisture”) yw dŵr a deunyddiau anweddol eraill a benderfynir yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer lleithedd a bennir yn Rhan I o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC(9);
ystyr “lludw” (“ash”) yw'r mater sy'n deillio o drin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer lludw a bennir ym Mhwynt 5 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/250/EEC(10);
mae i “micro-organedd” yr ystyr a roddir i “micro-organism” gan Erthygl 2(2)(m) o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion;
ystyr “olew” (“oil”) yw'r rhin a geir yn sgil trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn briodol a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer olewau a brasterau a bennir yn Rhan IV o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 71/393/EEC (11);
ystyr “protein” (“protein”), ac eithrio ym mharagraffau 7, 8, 9 a 10 o Ran I o Atodlen 3, lle mae iddo'r ystyr a roddir iddo gan reoliad 3(1) o Reoliadau Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2002(12), yw'r mater a geir yn sgil trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer protein a bennir ym Mhwynt 2 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 72/199/EEC (13);
mae i “rhag-gymysgedd” yr ystyr a roddir i “premixture” yn Erthygl 2(2)(e) y Rheoliad Ychwanegion, ac eithrio unrhyw rag-gymysgedd sy'n cynnwys ychwanegyn sy'n perthyn i gategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o'r Rheoliad hwnnw heblaw'r rhai sydd yn y grwpiau swyddogaeth a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw;
ystyr “y Rheoliad Ychwanegion” (“the Additives Regulation”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch ychwanegion i'w defnyddio ar gyfer maethiad anifeiliaid(14);
ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001(15);
ystyr “rhoi mewn cylchrediad” (“put into circulation”) yw gwerthu neu drosglwyddo mewn ffordd arall, bod mewn meddiant gyda golwg ar werthu neu drosglwyddo mewn ffordd arall, neu gynnig i werthu, ym mhob achos i drydydd parti, ac yn rheoliadau 13(8) a 14 mae hefyd yn golygu mewnforio i Gymru o wlad nad yw'n Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;
mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i “establishment” gan Erthygl 3(d) o Reoliad (EC) Rhif 183/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd(16);
ystyr “starts” (“starch”) yw'r mater a geir yn sgil trin bwyd anifeiliaid yn unol â'r weithdrefn a nodir yn y dull dadansoddi ar gyfer starts a bennir ym Mhwynt 1 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 72/199/EEC;
ystyr “sylwedd annymunol” (“undesirable substance”) yw unrhyw sylwedd neu gynnyrch, nad yw'n gyfrwng pathogenig, sy'n bresennol mewn neu ar gynnyrch a fwriedir ar gyfer bwyd anifeiliaid ac—
sy'n berygl posibl i iechyd pobl neu anifeiliaid neu i'r amgylchedd; neu
sy'n rhywbeth a allai effeithio'n andwyol ar gynhyrchiant da byw;
ystyr “ychwanegyn” (“additive”), yn ddarostyngedig i reoliad 21(4), yw ychwanegyn bwyd y mae'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei gyfer, ac eithrio unrhyw ychwanegyn yng nghategorïau (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o'r Rheoliad hwnnw, heblaw'r rhai yn y grwpiau swyddogaeth a restrir ym mharagraff 4(a), (b) a (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw;
(2) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen gyda Rhif fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall.
(3) Lle bynnag, mewn cofnod mewn tabl neu gofnod arall mewn Atodlen i'r Rheoliadau hyn, y gwelir cyfeiriad gyda Rhif at droednodyn, mae'r troednodyn sydd â'r Rhif hwnnw i'w drin fel pe bai'n gynwysedig yn y testun y mae'n berthnasol iddo neu fel pe bai'n ymhelaethu ar y testun hwnnw.
(4) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran gyda Rhif fel cyfeiriad at yr adran sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Ddeddf, oni nodir yn wahanol.
(5) Rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y mae wedi ei ddiwygio ar y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn neu cyn hynny.
3.—(1) Mae is-adran (1) o adran 66 yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai—
(a)y diffiniad canlynol wedi ei roi yn lle'r diffiniad o “feeding stuff”—
““feeding stuff” means—
a product of vegetable or animal origin in its natural state (whether fresh or preserved);
a product derived from the industrial processing of such a product; or
an organic or inorganic substance, used singly or in a mixture,
whether or not containing additives, for oral feeding to pet animals or farmed creatures;”;
(b)y diffiniad canlynol wedi ei roi yn lle'r diffiniad o “pet animal”—
““pet animal” means an animal belonging to a species normally nourished and kept, but not consumed, by man, other than an animal bred for fur;”.
(2) Mae is-adran (2) o adran 66 yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o'r is-adran honno—
“(b)material shall be treated—
(i)as imported or sold for use as a feeding stuff whether it is imported or, as the case may be, sold, to be used by itself, or as an ingredient in something which is to be so used, and
(ii)as used as a feeding stuff whether it is so used by itself, or as an ingredient in something which is to be so used.
(c)paragraph (b) shall not apply in any circumstances in which Article 16 (labelling and packaging of feed additives and premixtures) of Regulation (EC) No 1831/2003 of the European Parliament and of the Council on additives for use in animal nutrition applies.(17)”.
(3) Mae adrannau 73 a 73A yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “any farmed creatures” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “animals of any description prescribed for the purpose of the definition of “feeding stuff” in section 66(1) of this Act”.
(4) Mae adran 85 yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai —
(a)paragraff (a) i'r graddau y mae'n ymwneud â thraddodi y tu allan i'r Deyrnas Unedig, wedi'i hepgor; a
(b)paragraff (b) wedi'i hepgor.
4. O ran bwydydd anifeiliaid sydd wedi ei fewnforio, bydd adran 69(1) yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “and in either case before it is removed from the premises” wedi'u hepgor.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y deunydd rhagnodedig at ddibenion adrannau 68(1) a 69(1) yw unrhyw ddeunydd y gellir ei ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ni fydd adran 68(2) yn gymwys.
6. I'r graddau y mae darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gweithredu'r Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd (sydd yn bennaf yn rheoleiddio labelu a phecynnu bwydydd anifeiliaid cyfansawdd), nid ydynt yn gymwys o dan yr amgylchiadau a nodir yn Erthygl 14(c) (sy'n ymwneud ag anifeiliaid a gedwir ar gyfer dibenion gwyddonol neu arbrofol) o'r Gyfarwyddeb honno.
7. Mae Rheoliadau 2001, ac eithrio rheoliad 17A a pharagraff 19 o Atodiad 4 i'r Rheoliadau hynny, ac at ddiben paragraff 27 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn Rhannau I i VIII o'r Tabl i Atodlen 3 i'r Rheoliadau hynny, wedi eu dirymu, yn ogystal â'r offerynnau diwygio a restrir yn Atodlen 9 ac i'r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.
8. Ac eithrio o ran ychwanegion a rhag-gymysgeddau na chynhwysir mohonynt mewn bwydydd anifeiliaid, bydd y manylion, yr wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol, neu y caniateir, eu cynnwys mewn datganiad statudol neu eu datgan fel arall, fel y'u pennir yn narpariaethau Atodlen 3, a rhaid iddynt gydymffurfio â'r darpariaethau hynny.
9.—(1) Ac eithrio pan fo'r amgylchiadau'n ymwneud â symiau bach o fwydydd anifeiliaid yn Erthygl 5(2) o'r Gyfarwyddeb Bwydydd Anifeiliaid Cyfansawdd ac yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'n rhaid i'r datganiad statudol—
(a)yn achos unrhyw ddeunydd rhagnodedig a draddodir mewn pecyn neu gynhwysydd arall
(i)fod ar ffurf label wedi ei gysylltu â'r pecyn neu'r cynhwysydd hwnnw; neu
(ii)fod wedi ei farcio'n eglur yn uniongyrchol arno, a
(b)yn achos y deunydd rhagnodedig hwnnw a draddodir mewn swmp, fod ar ffurf dogfen sy'n ymwneud â phob llwyth ac a anfonir ynghyd â phob llwyth.
(2) Yn achos unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid a werthir mewn swm sydd heb fod yn fwy na 10 cilogram, ac a gyflenwir yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol, gall y datganiad statudol gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Rhaid i'r manylion, y wybodaeth a'r cyfarwyddiadau y mae'n ofynnol eu cynnwys neu y caniateir eu cynnwys yn y datganiad statudol—
(a)fod wedi eu gosod yn eglur ar wahân i unrhyw wybodaeth arall;
(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), fod yn Saesneg; a
(c)fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy.
(4) At ddibenion adran 69 (marcio deunydd sydd wedi ei baratoi ar gyfer i'w werthu), rhaid i ddeunydd rhagnodedig a gynhwysir mewn pecyn neu gynhwysydd arall gael ei labelu neu ei farcio yn y dull sydd wedi ei ragnodi o ran deunydd o'r fath ym mharagraff (1) neu, os yw'n gymwys, (2), a rhaid i'r deunydd hwnnw mewn swmp gael ei farcio drwy arddangos dogfen sy'n ymwneud ag ef mor agos at y deunydd ag y bo'n ymarferol.
(5) Yn achos unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd neu ddeunydd bwyd anifeiliaid y bwriedir ei hallforio i Aelod-Wladwriaeth, rhaid i'r datganiad statudol fod mewn un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Gymuned, yn ôl penderfyniad yr Aelod-Wladwriaeth honno.
(6) Yn achos unrhyw fwyd anifeiliaid, ac eithrio bwyd anifeiliaid sy'n cynnwys ychwanegyn yng nghategori (d) neu (e) o Erthygl 6(1) o'r Rheoliad Ychwanegion heblaw'r rhai yn y grwpiau swyddogaeth a restrir ym mharagraff 4(a), (b) neu (c) o Atodiad 1 i'r Rheoliad hwnnw, y bwriedir ei allforio i Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw'n Aelod-wladwriaeth, rhaid i'r datganiad statudol fod mewn un neu ragor o ieithoedd swyddogol y Wladwriaeth yr allforir iddi.
10.—(1) Mae adran 74(2) yn effeithiol yng Nghymru fel pe bai'r geiriau “or the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2006,” wedi eu mewnosod ar ôl y geiriau “this Part of this Act”.
(2) At ddibenion adran 74, fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), bydd y cyfyngiadau ar amrywiad o ran unrhyw gam-ddatgan mewn datganiad statudol, dogfen neu farc, ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd bwyd anifeiliaid, pan fo'r cam-ddatgan yn ymwneud—
(a)ag unrhyw gyfansoddyn dadansoddiadol a bennir yng ngholofn gyntaf—
(i)Rhan A o Atodlen 4 (os yw'r bwyd anifeiliaid yn fwyd anifeiliaid cyfansawdd na fwriedir ar gyfer anifeiliaid anwes),
(ii)Rhan B o Atodlen 4 (os yw'r bwyd anifeiliaid yn bwyd anifeiliaid cyfansawdd i anifeiliaid anwes), neu
(iii)Rhan C o Atodlen 4 (yn achos deunydd bwyd anifeiliaid);
(b)ag unrhyw fitamin neu elfen hybrin a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan CH o'r Atodlen honno; neu
(c)â gwerth egni unrhyw fwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn gyntaf Rhan D o'r Atodlen honno,
fel y'u nodwyd o ran y cyfansoddyn hwnnw neu y fitamin hwnnw, yr elfen hybrin honno neu'r bwyd anifeiliaid hwnnw, yn y cofnod cyfatebol yn yr ail Golofn o'r Rhan berthnasol o'r Atodlen honno.
(3) At ddibenion Rhan IV o'r Ddeddf neu ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â thrin manylion o ran unrhyw ddeunydd a gynhwysir mewn datganiad statudol, neu mewn unrhyw ddogfen, neu sydd wedi eu marcio ar y deunydd, neu a ddynodir gan farc ar y deunydd, fel pe baent yn anwir oherwydd unrhyw gamddatganiad ynddynt ynghylch natur, sylwedd neu ansawdd y deunydd—
(a)os cafodd y deunydd ei werthu gyntaf, neu ei roi mewn cylchrediad fel arall, mewn Gwladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd;
(b)os nad oedd y camddatganiad, ar adeg rhoi'r deunydd mewn cylchrediad, y tu hwnt i unrhyw gyfyngiadau ar amrywiadau a ragnodwyd mewn perthynas ag ef yn y Wladwriaeth dan sylw; ac
(c)os oedd unrhyw gyfyngiadau o'r fath yn cyd-fynd ag unrhyw Ddeddfwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd a oedd yn gymwys.
11. At ddibenion adran 70, rhoddir i'r ymadroddion “bwyd anifeiliaid cydategol” (“complementary feeding stuff”), “bwyd anifeiliaid cyflawn”, (“complete feeding stuff”) “bwyd anifeiliaid cyfansawdd” (“compound feeding stuff”) “bwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth” (“milk replacer feed”), “bwyd anifeiliaid mwynol” (“mineral feeding stuff”) a “bwyd anifeiliaid triagl” (“molassed feeding stuff”) ym mhob achos yr ystyr a roddir i'r ymadrodd o dan sylw gan reoliad 2(1).
12.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad fwyd anifeiliaid cyfansawdd, oni bai ei fod mewn bag neu gynhwysydd, a'r bag neu'r cynhwysydd wedi ei selio yn y fath fodd fel bod y sêl, wrth i'r bag neu'r cynhwysydd gael ei agor, yn cael ei difrodi ac na ellir ei hailddefnyddio.
(2) Gall bwydydd anifeiliaid cyfansawdd gael eu rhoi mewn cylchrediad mewn swmp, mewn bagiau heb eu selio neu mewn cynwysyddion heb eu selio, yn achos —
(a)danfoniadau rhwng cynhyrchwyr bwydydd anifeiliaid cyfansawdd neu'r sawl sy'n eu rhoi mewn cylchrediad;
(b)danfoniadau oddi wrth gynhyrchwyr bwydydd anifeiliaid cyfansawdd i fentrau pecynnu;
(c)bwydydd anifeiliaid cyfansawdd a geir drwy gymysgu grawnfwydydd neu ffrwythau cyfan;
(ch)blociau neu lyfeini;
(d)symiau bach heb fod yn fwy na 50 cilogram o ran pwysau, a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr terfynol ac sy'n cael eu cymryd yn uniongyrchol o fag neu gynhwysydd a oedd, yn union cyn ei agor, yn cydymffurfio â'r ddarpariaeth ynghylch selio ym mharagraff (1).
(3) Gall bwydydd anifeiliaid cyfansawdd gael eu rhoi mewn cylchrediad mewn swmp, neu mewn cynwysyddion sydd heb eu selio, ond nid mewn bagiau sydd heb eu selio, yn achos—
(a)danfoniadau uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchydd i'r defnyddiwr terfynol;
(b)bwydydd anifeiliaid triagl sy'n cynnwys llai na thri deunydd bwyd anifeiliaid;
(c)bwydydd anifeiliaid ar ffurf pelenni.
13.—(1) Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at Ran gyda Rhif yn golygu Rhan o Atodlen 2.
(2) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II, o dan enw heblaw'r enw a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn (2) o'r Rhan honno.
(3) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid nas rhestrir yn Rhan II o dan enw a bennir yng ngholofn (2) o'r Rhan honno neu dan enw neu derm a allai mewn unrhyw ffordd arall gamarwain prynwr ynglŷn â beth yw'r deunydd mewn gwirionedd.
(4) Pan fydd enw deunydd bwyd anifeiliaid a restrir yng ngholofn (2) o Ran II yn cynnwys enw neu derm cyffredin a restrir yng ngholofn (4) o Ran I, ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o'r fath nac unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd yn cynnwys deunydd bwyd anifeiliaid o'r fath oni bai fod y deunydd bwyd anifeiliaid wedi cael ei baratoi drwy'r broses a bennir yng ngholofnau (2) a (3) o Ran I sy'n cyfateb i'r enw neu derm cyffredin hwnnw.
(5) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid nac unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd sy'n cynnwys unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid, oni bai—
(a)yn achos unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (3) o Ran II, nad yw purdeb botanegol y deunydd bwyd anifeiliaid yn ôl ei bwysau yn llai na'r ganran (os oes un) a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (3) o Ran II neu, os nad oes canran wedi ei phennu, nad yw'n llai na 95%; neu
(b)yn achos unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn (1) o Ran III nad yw purdeb botanegol y deunydd bwyd anifeiliaid yn ôl ei bwysau yn llai na 95%; a
bod y deunydd bwyd anifeiliaid hefyd yn cydymffurfio â'r darpariaethau ynghylch purdeb botanegol a chemegol a nodir ym mharagraff 1 o Adran II o Ran A o'r Atodiad i'r Gyfarwyddeb Bwyd Anifeiliaid.
(6) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid i lynu deunydd bwyd anifeiliaid arall, os yw swm y deunydd bwyd anifeiliaid a ddefnyddir felly yn fwy na 3% o gyfanswm pwysau'r deunydd bwyd anifeiliaid a lynir.
(7) Heb ragfarnu adrannau 73 a 73A, ni chaiff unrhyw berson fewnforio i Gymru o wladwriaeth nad yw'n Wladwriaeth yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, gyflenwi (heblaw drwy werthu), meddiannu gyda golwg ar ei gyflenwi, na defnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid sy'n andwyol neu'n beryglus i anifeiliaid fferm, i anifeiliaid anwes neu, drwy yfed neu fwyta cynhyrchion unrhyw anifail a fwydwyd ar y deunydd bwyd anifeiliaid, i fodau dynol.
(8) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad na defnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid sy'n andwyol i'r amgylchedd.
(9) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad na defnyddio unrhyw ddeunydd bwyd anifeiliaid mewn ffordd sy'n debygol o gamarwain ynghylch ei briodweddau.
(10) Ym mharagraff 5(a) cymerir nad yw “disgrifiad” (“description”) yn cynnwys unrhyw ofyniad ynghylch purdeb botanegol, ac at ddibenion y rheoliad hwn ac Atodlen 2 rhaid diffinio “purdeb botanegol” (“botanical purity”) yn unol â pharagraff 2 o Adran II o Ran A o'r Atodiad i'r Gyfarwyddeb Deunyddiau Bwydydd Anifeiliaid.
14.—(1) Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at golofn gyda Rhif yn golygu colofn o Atodlen 5.
(2) Ni chaiff unrhyw berson—
(a)rhoi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2; na
(b)defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath fel bwyd anifeiliaid,
os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd a bennir yng ngholofn 1 uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3.
(3) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol—
(a)os ydyw, gyda golwg ar y swm ohono yr argymhellir ei ddefnyddio mewn dogn dyddiol, yn cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 mewn perthynas â bwydydd anifeiliaid cyflawn; ac
(b)os nad oes darpariaeth yn ymwneud ag unrhyw fwyd anifeiliaid cydategol yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.
(4) Ni chaiff unrhyw berson gymysgu unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 sy'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng ngholofn 1 uwchlaw'r lefel a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 3 at ddiben gwanedu gydag unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid.
(5) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw gynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio unrhyw gynnyrch o'r fath fel bwyd anifeiliaid, oni bai ei fod—
(a)mewn cyflwr da ac yn ddilys; a
(b)o ansawdd masnachol.
(6) At ddibenion paragraff (5), nid yw cynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a bennir yng ngholofn 2 mewn cyflwr da, yn ddilys ac o ansawdd gwerthadwy os yw'n cynnwys unrhyw sylwedd annymunol a bennir yng Ngholofn 1 ar lefel uwch na'r lefel a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yng ngholofn.
(7) At ddibenion paragraff (3) mae “bwyd anifeiliaid” (“feeding stuff”) yn cynnwys bwyd anifeiliaid i'w fwydo drwy'r geg i anifeiliaid sy'n byw yn rhydd yn y gwyllt, a dehonglir “bwyd anifeiliaid cydategol” (“complementary feeding stuff”) a “bwyd anifeiliaid cyflawn” (“complete feeding stuff”) yn unol â hynny.
(8) Mae paragraff (9) yn gymwys ar gyfer unrhyw berson sydd ag unrhyw un o'r cynhyrchion canlynol a fwriedir fel bwyd anifeiliaid yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth at ddibenion masnach neu fusnes—
(a)soeg cnewyll palmwydd;
(b)bwydydd anifeiliaid a gafwyd drwy brosesu pysgod neu anifeiliaid morol eraill;
(c)blawd gwymon a deunyddiau bwyd anifeiliaid sy'n deillio o wymon; neu
(ch)bwydydd anifeiliaid cyflawn ar gyfer pysgod neu anifeiliaid sy'n cynhyrchu ffwr.
(9) Os gofynnir iddynt gan arolygydd, rhaid i unrhyw berson y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) drefnu a chyflwyno i'r arolygydd ddadansoddiad i arddangos fod yr arsenig anorganig a gynhwysir mewn cynnyrch a fwriedir fel bwyd anifeiliaid a restrir ym mharagraff (8) oddi mewn i'r cyfyngiad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
(10) Bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â chais a wneir dan baragraff (9) yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
15.—(1) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys—
(a)ysgarthion, wrin neu gynhwysion y llwybr traul wedi eu gwahanu yn sgil gwacáu neu dynnu'r llwybr traul, ni waeth a oes unrhyw fath o drin neu gymysgu wedi ei ddefnyddio;
(b)croen wedi ei drin â sylweddau barcio, gan gynnwys y gwastraff sy'n dod ohono;
(c)hadau neu ddeunyddiau eraill ar gyfer lluosogi planhigion sydd, ar ôl eu cynaeafu, wedi eu trin yn benodol â chynhyrchion amddiffyn planhigion gan fwriadu eu lluosogi, neu sgil-gynhyrchion sy'n deillio ohonynt;
(ch)pren, blawd llif neu ddeunyddiau eraill sy'n deillio o bren a driniwyd â chynhyrchion i gadw pren fel y'u diffinir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion biwleiddiadol ar y farchnad(18);
(d)yn ddarostyngedig i baragraff (3), gwastraff (pa un a gafodd ei drin ymhellach, neu y bydd yn cael ei drin ymhellach neu beidio) a gafwyd drwy drin “dŵr gwastraff trefol” (“urban waste water”), “dŵr gwastraff domestig” (“domestic waste water”) neu “ddŵr gwastraff diwydiannol” (“industrial waste water”) (fel y diffinir y termau hynny yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC yn ymwneud â thrin dŵr gwastraff trefol), beth bynnag fo ffynhonell y dŵr gwastraff dan sylw(19);
(dd)gwastraff trefol solet, megis gwastraff cartrefi, ond ac eithrio gwastraff arlwyo (“catering waste”) fel y'i diffinir gan Reoliad (EC) 1774/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau iechyd ynghylch sgil-gynhyrchion anifeiliaid heb eu bwriadu ar gyfer eu bwyta gan bobl(20)
(e)pecynnau a rhannau o becynnau a ddefnyddiwyd mewn amaethyddiaeth neu yn y diwydiant bwyd.
(2) At ddibenion paragraff (1) mae i “gwastraff” yr ystyr a roddir i “waste” yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(21).
(3) At ddibenion paragraff 1(d), diffinir y term “dŵr gwastraff” fel y diffinir “waste water” yn unol â'r troednodyn i bwynt 5 o'r Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2004/217/EC yn sefydlu rhestr o ddeunyddiau y gwaherddir eu cylchredeg neu eu defnyddio ar gyfer maethiad anifeiliaid(22).
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), ni chaiff unrhyw berson werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid neu fel ffynhonnell protein mewn bwyd anifeiliaid, unrhyw ddeunydd sy'n perthyn i grŵp cynhyrchion a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 6, oni bai bod y deunydd hwnnw—
(a)wedi ei enwi yn gynnyrch a ganiateir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno; a
(b)yn cydymffurfio â'r holl fanylebau a gofynion a gynhwysir yng ngholofnau 3 i 6 o'r Atodlen honno a'u gorfodi ganddynt mewn perthynas ag ef.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff unrhyw berson werthu, na meddiannu gyda golwg ar werthu, i'w ddefnyddio fel bwyd anifeiliaid, na defnyddio fel bwyd anifeiliaid, unrhyw gynnyrch a geir o furumau o'r math “Candida” a dyfir ar n-alcanau.
(3) Ni fydd paragraffau (1) a (2) yn gymwys o ran unrhyw ddeunydd neu gynnyrch sydd wedi ei hepgor o gymhwysiad y Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol gan Erthygl 16 ohoni yn ymwneud ag allforion i drydydd gwledydd.
(4) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a awdurdodwyd ar gyfer rhanddirymiad gan Erthygl 3.2 (yn ymwneud â dibenion gwyddonol neu arbrofol) o'r Gyfarwyddeb Cynhyrchion Penodol.
17. Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw fwyd anifeiliaid sy'n cymryd lle llaeth a fwriedir ar gyfer lloi hyd at 70 cilogram o bwysau byw, os yw'r bwyd anifeiliaid hwnnw yn cynnwys llai na 30 miligram o haearn ym mhob cilogram o'r bwyd anifeiliaid cyflawn yn ôl cynnwys lleithedd o 12%.
18.—(1) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad—
(a)unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd a gyfansoddwyd yn bennaf o sgil-gynhyrchion reis y mae lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig ynddo yn uwch na 3.3% o'i fater sych; na
(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd arall y mae lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig ynddo yn uwch na 2.2% o'i fater sych.
(2) Ni fydd paragraff (1)(b) yn gymwys ar gyfer rhoi mewn cylchrediad unrhyw fwyd anifeiliaid cyfansawdd—
(a)sydd yn cynnwys glynwyr mwynol a ganiateir sy'n cael eu henwi neu eu disgrifio yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/57/EC(23);
(b)sydd yn fwyd anifeiliaid mwynol;
(c)sydd yn cynnwys mwy na 50% o sglodion betys siwgr neu fwydion betys siwgr; neu
(ch)a fwriedir ar gyfer pysgod a ffermir ac sy'n cynnwys mwy na 15% o flawd pysgod,
os datgenir yn y datganiad statudol lefel y lludw sy'n anhoddadwy mewn asid hydroclorig fel canran o'r bwyd anifeiliaid fel y cyfryw.
19.—(1) Ni chaiff unrhyw berson roi mewn cylchrediad unrhyw fwyd anifeiliaid a fwriedir ar gyfer diben maethiadol penodol, oni bai—
(a)bod y diben maethiadol penodol o dan sylw wedi ei bennu yng ngholofn 1 o Bennod A o Atodlen 7;
(b)bod gan y bwyd anifeiliaid y nodweddion maethiadol hanfodol a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 2 o'r Bennod honno;
(c)bod y bwyd anifeiliaid wedi ei fwriadu ar gyfer anifeiliaid a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 3 o'r Bennod honno;
(ch)yr argymhellir defnyddio'r bwyd anifeiliaid am gyfnod o amser sydd o fewn yr amrediad a bennir gyferbyn â'r diben maethiadol penodol hwnnw yng ngholofn 5 o'r Bennod honno;
(d)y cydymffurfir â'r gofynion a bennir ym mharagraffau 1, 2 ac 8 o Bennod B o Atodlen 7 o ran y bwyd anifeiliaid; ac
(dd)fod cyfansoddiad y bwyd anifeiliaid yn gyfryw fel bod modd iddo ateb y diben maethiadol penodol y bwriedir ef ar ei gyfer.
(2) Bydd Atodlen 7 yn effeithiol fel a bennir yn Atodlen 3.
20.—(1) Ni chaiff unrhyw berson dramgwyddo neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad Ychwanegion a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a)Erthygl 3 (rhoi ar y farchnad, prosesu a defnyddio ychwanegion bwyd anifeiliaid), paragraffau (1) i (4), wedi eu darllen gydag Erthygl 10;
(b)Erthygl 12 (goruchwylio);
(c)Erthygl 16, paragraffau (1) i (5), (labelu a phecynnu ychwanegion a rhag-gymysgeddau).
(3) Mewn unrhyw achosion ar gyfer trosedd dan baragraff (2)(a), mae'n amddiffyniad i brofi fod y weithred a achosodd y drosedd—
(a)yn un y mae Erthygl 10 o'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei chyfer; a
(b)yn un na fyddai wedi bod yn drosedd petai Rheoliadau 2001 wedi bod yn gweithredu ar yr adeg y digwyddodd y weithred.
(4) Mewn unrhyw achosion ar gyfer trosedd dan baragraff (2)(c), mae'n amddiffyniad i brofi fod y weithred a achosodd y drosedd—
(a)yn un y mae Erthygl 25.2 o'r Rheoliad Ychwanegion yn gymwys ar ei chyfer; a
(b)yn un na fyddai wedi bod yn drosedd petai Rheoliadau 2001 wedi bod yn gweithredu ar yr adeg y digwyddodd y weithred.
(5) Er gwaethaf y diddymiad y cyfeirir ato yn rheoliad 7, os anfonwyd sylwadau cychwynnol cyn 18 Hydref 2004 i'r Comisiwn yn unol â rheoliad 11(2) o'r Rheoliadau Porthiant 2000(24), ymdrinir â'r cais hwnnw yn unol â rheoliad 11 y Rheoliadau hynny.
21.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson gyhoeddi neu ddatgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol a gafodd y person hwnnw, cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau o dan reoliad 11 o Reoliadau Porthiant 2000 (“Feeding Stuffs Regulations 2000”) heb gydsyniad blaenorol ysgrifenedig—
(a)y person a wnaeth gais, yn unol â'r rheoliad hwnnw, am awdurdodiad gan y Gymuned, neu yn ôl y digwydd, am ddefnydd newydd, o'r ychwanegyn o dan sylw, neu
(b)aseinai neu olynydd perchenogaeth y person hwnnw i'r wybodaeth gyfrinachol.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn cyfyngu ar gyhoeddi neu ddatgelu'r wybodaeth honno at ddibenion arfer swyddogaethau o dan y rheoliad hwnnw.
(3) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol o fath a bennir yn Erthygl 7(2) o'r Gyfarwyddeb Ychwanegion.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth gyfrinachol” (“confidential information”) yw gwybodaeth o'r fath a bennir yn Erthygl 7(1) o'r Cyfarwyddeb Ychwanegion ac mae i “ychwanegyn” (“additive”) yr ystyr a roddir yn Erthygl 2 o'r Gyfarwyddeb honno.
(5) Mae cyhoeddi neu ddatgelu yn groes i baragraff (1) yn dwyn cosb fel pe bai'n ddatgelu a waherddir gan adran 83 o'r Ddeddf.
22. I'r graddau y gwneir unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, bydd y ddarpariaeth honno'n orfodadwy fel pe bai wedi ei gwneud o dan y darpariaethau hynny yn Rhan IV o'r Ddeddf y gwneir darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn oddi tanynt, a bydd darpariaethau'r Rhan honno yn gymwys yn unol â hynny.
23.—(1) At ddibenion gorfodi a gweinyddu'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2), bydd i adran 74A(3) effaith fel pe bai'r geiriau “or fails to comply with any requirement imposed by any provision specified in regulation 23(2) of the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2006” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “imposed by regulations under subsection (1) above, or fails to comply with any other provision of the regulations,”.
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw rheoliad 12(1), 13(2) i (9), 14(2) i (5), 15(1), 16(1) a (2), 17, 18(1), 19(1) a 20(1).
24.—(1) Caiff y Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999(25) eu diwygio o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Yn Atodlen 2 Rhan I (darpariaethau cyffredinol), yn is-baragraff 3(e)(ii) rhodder yr ymadrodd “listed in Schedule 5 to the Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2006” yn lle'r geiriau o “listed in Schedule 7” hyd at ddiwedd yr is-baragraff.
(3) Yn Atodiad I i Ran II i Atodlen 2, rhodder yn lle'r ail gofnod ar gyfer Starts (dull polarimetrig)—
(a)yng ngholofn 2 y geiriau “Point 1 of Annex 1 to Directive 72/199/EEC ((as replaced entirely by the Annex to Directive 1999/79/EC”;
(b)yng ngholofn 3 y geiriau “OJ No. L123, 29.5.72, p.6. (OJ/SE 1966-1972 supplement p.74). OJ No. L209, 7.8.1999, p.23.”.
(4) Yn Atodlen 3 Rhan II (nodiadau ar gyfer cwblhau tystysgrif), yn is-baragraff (a) o nodyn (11)—
(a)hepgorer yr ymadrodd “as amended” hyd at, ac yn cynnwys, yr ymadrodd “the Feeding Stuffs, the Feeding Stuffs (Sampling and Analysis) and the Feeding Stuffs (Enforcement) (Amendment) (Wales) (No. 2) Regulations 2003”;
(b)rhodder yr ymadrodd “Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2006” yn lle “Feeding Stuffs (Wales) Regulations 2001”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(26)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Ionawr 2006
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: