xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
15 Mawrth 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(6) o Ddeddf Plant 2004(1), gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 2004.
2.—(1) 16 Mawrth 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 42 a 43 o'r Ddeddf i rym.
(2) 1 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 35, 36, 37, 38, 39, 40 a 41 o'r Ddeddf i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
15 Mawrth 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 2004 (“y Ddeddf”).
Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 35 i 43 o'r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, sy'n ymwneud â swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru a Lloegr, i rym. Daw adrannau 42 a 43 sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo a staff i rym ar 16 Mawrth 2005 a daw adrannau 35 i 41 ac Atodlen 3 i rym ar 1 Ebrill 2005.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Plant 2004 y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr ar y dyddiad a bennir wrth ymyl O.S. 2005/394 C.18, ac eithrio pan fo cofnod yn dangos bod darpariaeth wedi'i dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 10 | 1 Ebrill 2005 |
Adran 11(yn rhannol) | 1 Mawrth 2005 |
Adran 11 (y gweddill) | 1 Hydref 2005 |
Adran 13(yn rhannol) | 1 Mawrth 2005 |
Adran 14 (yn rhannol) | 1 Mawrth 2005 |
Adran 16 (yn rhannol) | 1 Mawrth 2005 |
Adran 17 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 18 | 1 Ebrill 2005 |
Adran 20 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 21 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 22 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 23 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 24 | 1 Ebrill 2005 |
Adran 44 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2005 |
Adran 44 (y gweddill) | 1 Gorffennaf |
Adran 48 (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 5 a 7 o Atodlen 4 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 50 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 51 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2005 |
Adran 52 | 1 Gorffennaf |
Adran 53 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 54 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 55 | 1 Ebrill 2005 |
Adran 57 | 1 Mawrth 2005 |
Adran 60 o ran Cymru a Lloegr | 1 Mawrth 2005 |
Rhan 1 o Atodlen 5 | 1 Mawrth 2005 |
Rhan 2 o Atodlen 5 (yn rhannol) | 1 Mawrth 2005 |
Rhannau 3 a 4 o Atodlen 5 | 1 Ebrill 2005 |