xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 (“Gorchymyn 2000”). Mae'r Gorchymyn hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) gynnal cofnodion sy'n ymwneud â chategorïau o bersonau a bennir.

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnwys yn y cofnodion y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hynny yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill i Orchymyn 2000.

Mae'n cyfyngu manylion academaidd a chymwysterau proffesiynol person a gaiff eu cynnwys yn y cofnodion i gymwysterau sy'n berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes.

Mae hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil Deddf Addysg 2002, ac yn disodli'r cyfeiriadau yng Ngorchymyn 2000 at Ddeddf Diwygio Addysg 1988 gan gyfeiriadau at Ddeddf 2002.