2005 Rhif 68 (Cy.6)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, a chan gofio am ei amcanion cyffredinol, gyflawni yn briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir iddo drwy hyn ac ar ôl ymgynghori fel y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 21 Ionawr 2005.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2002

2

Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 20003 fel a ganlyn.

3

Yn erthygl 2 —

a

hepgorer y diffiniad o “Deddf 1988”;

b

yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” rhodder y diffiniad canlynol —

  • mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 20024;

4

Yn Rhan II o'r Atodlen —

a

yn lle paragraff 12 rhodder y canlynol —

12

Os yw'n hysbys,

a

y dyddiad pan ddechreuodd y person yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;

b

y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 20035; a

c

y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)6 o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.

b

hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen;

c

ym mharagraff 16(c) ar ôl “person” ychwaneger y geiriau “sydd ym marn y Cyngor yn berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes”;

ch

ym mharagraff 19 yn lle'r geiriau “gael ei gyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988” rhodder y geiriau “gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Deddf Addysg 20027”;

d

yn lle paragraff 22 rhodder y canlynol —

22

Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20028.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19989

D. Elis-ThomasLlywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 (“Gorchymyn 2000”). Mae'r Gorchymyn hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) gynnal cofnodion sy'n ymwneud â chategorïau o bersonau a bennir.

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnwys yn y cofnodion y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hynny yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill i Orchymyn 2000.

Mae'n cyfyngu manylion academaidd a chymwysterau proffesiynol person a gaiff eu cynnwys yn y cofnodion i gymwysterau sy'n berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes.

Mae hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil Deddf Addysg 2002, ac yn disodli'r cyfeiriadau yng Ngorchymyn 2000 at Ddeddf Diwygio Addysg 1988 gan gyfeiriadau at Ddeddf 2002.