- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
18 Ionawr 2005
Yn dod i rym
21 Ionawr 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (4) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, a chan gofio am ei amcanion cyffredinol, gyflawni yn briodol y swyddogaethau ychwanegol a roddir iddo drwy hyn ac ar ôl ymgynghori fel y mae'n ymddangos iddo ei fod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) (Diwygio) 2005 a daw i rym ar 21 Ionawr 2005.
2. Diwygir Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000(3) fel a ganlyn.
3. Yn erthygl 2 —
(a)hepgorer y diffiniad o “Deddf 1988”;
(b)yn lle'r diffiniad o “athro neu athrawes gymwysedig” rhodder y diffiniad canlynol —
“mae i “athro neu athrawes gymwysedig” yr un ystyr ag a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(4);”.
4. Yn Rhan II o'r Atodlen —
(a)yn lle paragraff 12 rhodder y canlynol —
“12. Os yw'n hysbys,
(a)y dyddiad pan ddechreuodd y person yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
(b)y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(5); a
(c)y dyddiad pryd y cyflogwyd y person am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)(6) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.”;
(b)hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen;
(c)ym mharagraff 16(c) ar ôl “person” ychwaneger y geiriau “sydd ym marn y Cyngor yn berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes”;
(ch)ym mharagraff 19 yn lle'r geiriau “gael ei gyflogi fel athro neu athrawes o dan reoliadau a wnaed o dan adran 218(1) a (2) o Ddeddf 1988” rhodder y geiriau “gyflawni gwaith penodedig o dan reoliadau a wnaed o dan adran 133 o Deddf Addysg 2002(7)”;
(d)yn lle paragraff 22 rhodder y canlynol —
“22. Telerau unrhyw gyfyngiad neu fanylion unrhyw waharddiad sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â'r person o ganlyniad i gyfarwyddyd a roddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(8).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Ionawr 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2000 (“Gorchymyn 2000”). Mae'r Gorchymyn hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”) gynnal cofnodion sy'n ymwneud â chategorïau o bersonau a bennir.
Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor gynnwys yn y cofnodion y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hynny yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau eraill i Orchymyn 2000.
Mae'n cyfyngu manylion academaidd a chymwysterau proffesiynol person a gaiff eu cynnwys yn y cofnodion i gymwysterau sy'n berthnasol i gyflogaeth fel athro neu athrawes.
Mae hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil Deddf Addysg 2002, ac yn disodli'r cyfeiriadau yng Ngorchymyn 2000 at Ddeddf Diwygio Addysg 1988 gan gyfeiriadau at Ddeddf 2002.
1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 2000/1941 (Cy.139) a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2497 (Cy.201).
2002 p.32. Gweler Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) 2004, O.S. 2004/1729 (Cy. 173).
O.S. 2003/543 (Cy.77). Amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 1 gan O.S. 2004/872 (Cy.87).
Mewnosodwyd rheoliad 18(2) gan O.S. 2004/872 (Cy.87).
Gweler Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004, 2004/1744 (Cy. 183).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: