Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005

Talu ffioedd

52.—(1Codir ffi resymol a gaiff ei chyfrifo yn unol â rheoliadau 53 a 54 ac Atodlen 3 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth safle arolygu ar y ffin.

(2Codir y ffi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn daladwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, pa un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliadau 4 ac 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y safle arolygu ar y ffin lle y cyflawnir y gwiriadau milfeddygol.