Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Trawslwytho cynhyrchion y bwriedir eu mewnforio

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion a drawslwythwyd pan fo'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno wedi'i leoli yng Nghymru.

(2Cyn gynted ag y bo cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cyrraedd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch hysbysu'r milfeddyg swyddogol yno yn ysgrifenedig, neu ar ffurf gyfrifiadurol neu ffurf electronig arall, o union leoliad y cynnyrch, o'r amser yr amcangyfrifir y byddai'n cael ei drawslwytho neu ei ddadlwytho, ac o'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(3Pan fo cynnyrch, yn ôl yr hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2) i'w drawslwytho, a hwnnw'n gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo—

(a)o un awyren i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl iddo gael ei ddadlwytho mewn man o dan reolaeth y dollfa wrth y safle arolygu ar y ffin at gyfer cyflwyno am lai na deuddeng awr, neu

(b)o un long fordwyol i un arall, naill ai'n uniongyrchol neu ar ôl ei ddadlwytho mewn man fel yr un a enwyd uchod am lai na saith niwrnod,

os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, neu sicrhau eu bod yn cael eu rhoi iddo, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol, neu i gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol.

(4Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o awyren am ddeuddeng awr neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy na 48 awr o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar awyren i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(5Pan fwriedir dadlwytho cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o long fordwyol am saith niwrnod neu fwy, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch sicrhau ei fod yn cael ei storio am gyfnod nad yw'n hwy nag ugain niwrnod o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol yn y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno mewn lle yno sydd o dan reolaeth y dollfa a'i fod wedyn yn cael ei ail-lwytho ar long fordwyol i'w gludo ymlaen i'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan.

(6Rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cynnyrch, y mae paragraff (4) neu baragraff (5) yn gymwys iddo, ynghyd â'i ddogfennau gofynnol, i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni gwiriad dogfennol ar y dogfennau gofynnol ac, os yw'r milfeddyg swyddogol o'r farn bod y cynnyrch yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu i iechyd y cyhoedd, gwiriad adnabod ar y cynnyrch hwnnw yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

(7Pan fydd cynnyrch y mae paragraff (4) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy na 48 awr ar ôl ei ddadlwytho, neu os yw cynnyrch y mae paragraff (5) yn gymwys iddo yn cael ei storio am fwy nag ugain niwrnod ar ôl ei ddadlwytho, rhaid i unrhyw berson y mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi'r cynnyrch a'i ddogfennau gofynnol i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno, ganiatáu i'r milfeddyg swyddogol yno, neu gynorthwyydd a benodwyd yn unol â rheoliad 6(1)(b) neu 6(2)(c), gyflawni, ym mhob achos, wiriad adnabod o'r cynnyrch yn erbyn y dogfennau gofynnol a gwiriad ffisegol o'r cynnyrch.

Back to top

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources