xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Cynhyrchion y Bwriedir eu Mewnforio

Cynhyrchion sy'n cael eu cludo o dan oruchwyliaeth

37.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i gynhyrchion y bwriedir eu mewnforio ac y mae'n ofynnol iddynt, o dan unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1, gael eu cludo o dan oruchwyliaeth milfeddyg o'r safle arolygu ar y ffin lle y cawsant eu cyflwyno gyntaf i'r tiriogaethau perthnasol i'w sefydliad gyrchfan.

(2Ni chaiff neb symud cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo o safle arolygu ar y ffin oni bai ei fod wedi'i gynnwys mewn cynhwysydd sy'n ddiogel rhag gollyngiadau neu gyfrwng cludo sydd wedi'i selio gan swyddog i'r Comisiynwyr neu gan y milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu hwnnw ar y ffin.

(3Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo ac unrhyw gludydd y mae o dan ei ofal am y tro sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei gludo yn ddi-oed i'w sefydliad cyrchfan, a bod y ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin yn mynd gydag ef nes iddo gyrraedd ei sefydliad gyrchfan.

(4Pan fo Rhan 2 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin wedi awdurdodi mewnforio cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo at ddibenion penodol fel a ddisgrifir yn rheoliad 36(c)(ii), rhaid i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch ac unrhyw gludydd sydd â gofal amdano am y tro sicrhau ei fod yn aros o dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr yn unol â'r weithdrefn T5 y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 471 i 495 o Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 2454/93 (sy'n gosod darpariaethau ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2913/92 sy'n sefydlu'r Cod Tollau Cymunedol)(1) nes iddo gyrraedd ei sefydliad gyrchfan.

(5Rhaid i weithredydd sefydliad gyrchfan neu warws storio drosiannol roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddog milfeddygol, sy'n gyfrifol ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth dros y sefydliad gyrchfan neu'r warws storio drosiannol, yn ôl y digwydd, fod unrhyw gynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cyrraedd yno.

(6Rhaid i weithredydd sefydliad gyrchfan sicrhau bod cynnyrch y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn cael yn y sefydliad gyrchfan y driniaeth a ragnodir ar ei gyfer gan y gyfarwyddeb berthnasol, y penderfyniad perthnasol neu'r rheoliad perthnasol a restrir yn Atodlen 1.

(1)

OJ Rhif L253, 11.10.93, t.1, a hynny fel y'i newidiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 2286/2003 (OJ Rhif L343, 31.12.2003, t.1).