- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
21.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 22, mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan fydd y milfeddyg swyddogol, yn dilyn gwiriad milfeddygol wrth safle arolygu ar y ffin, yn penderfynu bod cynnyrch (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad gyrchfan yn Rheoliad 15(b)) yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio, neu fod rhyw afreoleidd-dra arall mewn perthynas â'r cynnyrch; a
(b)pan fydd swyddog awdurdodedig yn penderfynu, yn dilyn gwiriad milfeddygol ar gynnyrch sydd wedi'i leoli i ffwrdd o safle arolygu ar y ffin (ac eithrio cynnyrch tramwy sy'n bodloni gofynion Rhan 7 neu gynnyrch y cyfeiriwyd at ei sefydliad gyrchfan yn Rheoliad 15(b)), yn penderfynu bod y cynnyrch yn gynnyrch nad yw'n cydymffurfio.
(2) Os yw is-baragraff (1)(a) yn gymwys, rhaid i'r milfeddyg swyddogol gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sy'n gyfrifol am y cynnyrch, ac os bydd is-baragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r swyddog awdurdodedig gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r person sydd yn ei farn ef â gofal dros y cynnyrch, yn ei gwneud yn ofynnol iddo naill ai—
(a)anfon y cynnyrch ymlaen o'r safle arolygu ar y ffin, neu, os bydd is-baragraff (1)(b) yn gymwys, ei anfon ymlaen o safle arolygu ar y ffin, a nodir yn yr hysbysiad, a hynny drwy'r dull cludo a ddefnyddiwyd i'w gyflwyno i Gymru, i gyrchfan y cytunwyd arni gyda'r milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig, sydd wedi'i lleoli mewn trydedd wlad, a hynny o fewn cyfnod o drigain o ddiwrnodau yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl cyflwyno'r hysbysiad; neu
(b)gwaredu'r cynnyrch yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1774/2002 yn y cyfleusterau a ddarparwyd at y diben hwnnw ac sydd agosaf at y safle arolygu ar y ffin neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, sydd agosaf at leoliad y cynnyrch.
(3) Rhaid gwaredu'r cynnyrch yn unol ag is-baragraff (2)(b)—
(a)pan fydd ei anfon ymlaen wedi'i ragwahardd ar sail iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd oherwydd canlyniadau gwiriad milfeddgol, neu drwy unrhyw ofyniad o ran iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd sydd wedi'i osod mewn offeryn Cymunedol sydd mewn grym ar y dyddiad y cafodd y Rheoliadau hyn eu gwneud, neu sydd fel arall yn amhosibl; neu
(b)pan fydd y cyfnod o drigain o ddiwrnodau y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (2)(a) wedi mynd heibio; neu
(c)pan fydd y person sy'n gyfrifol am y cynnyrch neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, perchennog y cynnyrch yn cytuno ar unwaith i'w waredu.
(4) O ran cynnyrch y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno mewn perthynas ag ef yn unol â pharagraff 2, rhaid i'r person sy'n gyfrifol amdano, neu, os yw is-baragraff (1)(b) yn gymwys, ei berchennog, sicrhau ei fod yn cael ei storio hyd oni chaiff ei anfon ymlaen neu ei waredu o dan oruchwyliaeth y milfeddyg swyddogol neu'r swyddog awdurdodedig yn y fan neu o dan yr amodau a gyfarwyddir ganddo yn yr hysbysiad.
(5) Ym mharagraff (1)(a) “afreoleidd-dra arall” mewn perthynas â chynnyrch yw—
(a)ei gyflwyno i Gymru o drydedd wlad, neu ei roi gerbron mewn safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan yng Nghymru, heb fod hysbysiad wedi'i roi yn unol â rheoliad 17;
(b)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol sydd wedi'i chynnwys mewn hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17;
(c)unrhyw wybodaeth ffug neu gamarweiniol a roddwyd yn unol â rheoliad 45 neu 49;
(ch)unrhyw gamgymeriad, hepgoriad neu wybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn dogfen ofynnol, ac unrhyw anghysondeb rhwng dogfen ofynnol ac—
(i)yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 17 o gyflwyno neu roi'r cynnyrch gerbron, neu
(ii)y cynnyrch ei hun, neu
(iii)y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli ar y cynnyrch, ar y llwyth sy'n cynnwys y cynnyrch neu ar y cynhwysydd sy'n dal y cynnyrch neu'r llwyth;
(d)unrhyw ddiffyg yn y cynnyrch sy'n ei wneud yn anffit i'w ddefnyddio at y diben y bwriedir ef ar ei gyfer, yn ôl y dogfennau gofynnol;
(dd)unrhyw ddiffyg yn y seliau, y stampiau, y marciau neu'r labeli y cyfeirir atynt yn is-baragraff (5)(ch)(iii) gan gynnwys, yn achos cynnyrch sydd wedi'i becynnu, unrhyw doriad o'r gofynion labelu sydd wedi'u gosod ar gyfer y cynnyrch hwnnw mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1;
(e)yn achos cynnyrch y bwriedir ei fewnforio, unrhyw awgrym yn y dogfennau gofynnol nad yw'r cynnyrch yn cydymffurfio â'r amodau mewnforio; ac
(f)yn achos cynnyrch nad yw'n cydymffurfio ac sy'n gynnyrch tramwy, neu gynnyrch y cyfeirir at ei sefydliad gyrchfan yn rheoliad 15(b), unrhyw doriad o'r gofynion a osodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw nad yw'n cydymffurfio mewn unrhyw gyfarwyddeb, penderfyniad neu reoliad a restrir yn Atodlen 1.
(6) Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(a) neu (1)(b) yn ei dramgwyddo apelio i lys ynadon o fewn un mis i ddyddiad y penderfyniad trwy gyfrwng cwyn am orchymyn a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i'r achos.
(7) Tra byddir yn aros am benderfyniad ar apêl yn unol â pharagraff (6) bydd paragraff (4) yn gymwys i ddull storio'r cynnyrch o dan sylw.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: