xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10Ffioedd am Wiriadau Milfeddygol

Talu ffioedd

52.—(1Codir ffi resymol a gaiff ei chyfrifo yn unol â rheoliadau 53 a 54 ac Atodlen 3 am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar lwyth wrth safle arolygu ar y ffin.

(2Codir y ffi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a bydd yn daladwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, pa un bynnag sy'n gyfrifol, yn unol â rheoliadau 4 ac 5, am weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn wrth y safle arolygu ar y ffin lle y cyflawnir y gwiriadau milfeddygol.

Cyfrifo ffioedd

53.  Rhaid i'r ffi am wiriadau milfeddygol gwmpasu'r costau a restrir yn Rhan I o Atodlen 3 a rhaid ei chyfrifo yn unol â Rhan II, III, IV neu V, yn ôl y digwydd, o Atodlen 3.

Trosi'r ffioedd yn sterling

54.  Caiff ffioedd a fynegir mewn ewros yn Atodlen 3 eu trosi'n bunnoedd sterling yn ôl y gyfradd drosi sy'n cael ei chyhoeddi yng nghyfres “C” o Gylchgrawn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ym Medi'r flwyddyn galendr cyn y flwyddyn y cyflawnwyd y gwiriad milfeddygol perthnasol ynddi.

Atebolrwydd am dalu ffioedd

55.  Pan ofynnir iddo wneud hynny, rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lwyth dalu'r ffi a godwyd am y gwiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ar y llwyth.

Gwybodaeth am ffioedd

56.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdod lleol neu'r Asiantaeth, os gofynnir yn ysgrifenedig iddo neu iddi wneud hynny, ddarparu ar gyfer unrhyw berson sy'n rhoi cynhyrchion gerbron yn unol â rheoliad 18, neu ar gyfer unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, fanylion y cyfrifiadau y mae'n eu defnyddio i benderfynu ffioedd am wiriadau milfeddygol a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan berson neu gorff o'r fath wrth benderfynu ffioedd o'r fath.

(2Os gofynnir iddo'n ysgrifenedig wneud hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth, rhaid i awdurdod lleol ddarparu ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, yr wybodaeth y gallai fod ei hangen arno neu arni mewn cysylltiad â chyfrifo'r ffioedd am wiriadau milfeddygol, ynghyd â chopïau o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan bersonau neu gyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i awdurdodau lleol

57.—(1Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i awdurdod lleol ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, o fewn un niwrnod ar hugain o godi'r ffi, apelio'n ysgrifenedig ar y sail bod swm y ffi yn afresymol—

(a)i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi; a

(b)i'r Asiantaeth, os ffi am wiriadau milfeddygol a gyflawnwyd mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw'r ffi.

(2Pan fo apêl o dan baragraff (1), rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth, yn ôl y digwydd, ymgynghori â'r awdurdod lleol ac, os caiff ei fodloni neu ei bodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid iddo neu iddi hysbysu'r awdurdod lleol, a rhaid i'r awdurdod lleol ailgyfrifo swm y ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r Asiantaeth ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.

Apelau yn erbyn ffioedd a dalwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i'r Asiantaeth

58.—(1Caiff unrhyw berson sydd wedi talu ffi am wiriadau milfeddygol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i'r Asiantaeth, ac unrhyw gorff sy'n cynrychioli personau o'r fath, cyn pen un diwrnod ar hugain ar ôl i'r ffi gael ei chodi, roi hysbysiad ysgrifenedig o'i ddymuniad i apelio i berson annibynnol a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu pan fo'r ffi wedi'i thalu i'r Asiantaeth, i berson annibynnol a benodwyd gan yr Asiantaeth ar y sail bod swm y ffi yn afresymol.

(2Os i'r Asiantaeth y talwyd y ffi, rhaid i swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mharagraffau (3) i (4) gael eu cyflawni gan yr Asiantaeth.

(3Pan fydd apelydd yn rhoi hysbysiad o'i ddymuniad i ymddangos gerbron person annibynnol a benodwyd at y diben a chael gwrandawiad ganddo——

(a)rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi person annibynnol i wrando sylwadau a phennu terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid cyflwyno sylwadau i'r person annibynnol hwnnw;

(b)rhaid i'r person a benodir felly beidio â bod yn un o swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru nac yn was iddo, ac eithrio gyda chydsyniad yr apelydd;

(c)os bydd yr apelydd yn gofyn am hynny, rhaid i'r gwrandawiad fod yn un cyhoeddus;

(ch)rhaid i'r person annibynnol roi adroddiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ac

(d)os bydd yr apelydd yn gofyn hynny, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu copi o adroddiad y person annibynnol ar ei gyfer.

(4Os caiff y person annibynnol ei fodloni bod swm y ffi yn afresymol, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ailgyfrifo'r ffi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y person annibynnol ac ad-dalu i'r person a dalodd y ffi y gwahaniaeth rhwng y ffi wreiddiol a'r ffi a ailgyfrifwyd.