Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005

Erthygl 3

ATODLEN 2Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion

Pŵer yr Archwilydd Cyffredinol i godi ffi am archwilio cyfrifon.

1.  Er i adran 7 ac Atodlen 4 ddod i rym, mae adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1) yn parhau i fod yn effeithiol, fel pe na bai'r Ddeddf wedi'i diddymu, i'r graddau y mae'n ymwneud â ffioedd ar gyfer archwilio cyfrifon y Cynulliad a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Rheoliadau cyfrifon ac archwilio

2.—(1Mae is-baragraff (2) yn gymwys er—

(a)i adran 67 a pharagraffau 35, 36 a 38(3) o Atodlen 2, a

(b)i'r geiriau “or the National Assmebly for Wales” yn adran 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 gael eu diddymu(2).

(2Mae pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau o dan adrannau 27 a 52(1) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym, o ran cyfrifon neu ddatganiadau o gyfrifon a baratowyd o ran unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005.

Deddf y Comisiwn Archwilio 1998: darpariaethau ynghylch adennill symiau nad oes cyfrif amdanynt

3.  Er i is-adrannau (1) a (2) o adran 69 a pharagraff 38(3) o Atodlen 2 ddod i rym—

(a)mae adran 2 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i barhau i fod yn gymwys i gyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) at ddibenion —

(i)adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno, i'r graddau bod yn ddarpariaeth honno'n cael ei harbed gan is-baragraff (c); a

(ii)adran 18 o'r Ddeddf honno, i'r graddau mae'r adran honno yn cael ei harbed gan is-baragraff (b);

(b)mae adran 18 o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i aros mewn grym—

(i)i'r graddau y mae'n ymwneud â chyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) a baratowyd o ran blwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005; a

(ii)er mwyn i swyddogaeth archwilydd o dan is-adran (1) o'r adran honno fod yn arferadwy yn unig o ran mater y mae etholwr llywodraeth leol wedi cyflwyno gwrthwynebiad yn ei gylch o dan adran 16(1)(a) o'r Ddeddf honno;

(c)mae hawliau etholwr llywodraeth leol o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 i ddod gerbron archwilydd ac i gyflwyno gwrthwynebiadau i aros mewn grym i'r graddau —

(i)y mae'r gwrthwynebiad yn ymwneud ag unrhyw fater y gallai archwilydd gymryd camau yn ei gylch o dan adran 18(1) o'r Ddeddf honno fel y mae wedi'i harbed gan is-baragraff (b);

(ii)mai cyfrifon corff llywodraeth leol yng Nghymru (heblaw awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru) yw'r cyfrifon dan sylw; a

(iii)yr oedd y cyfrifon dan sylw wedi'u paratoi o ran blwyddyn ariannol a oedd yn dechrau cyn 1 Ebrill 2005.