xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
9. Mae darpariaethau paragraffau 10 i 15 o'r Atodlen hon yn gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac sy'n cael ei reoli gan ffermwr yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau paragraffau 1 i 8.
10.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12, yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol, rhaid i ffermwr beidio â hau, na gwneud unrhyw waith paratoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu na thrin y tir hwnnw mewn unrhyw ffordd arall .
(2) mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad ym mharagraff 11 neu 12 yn gyfeiriad at y dyddiad hwnnw sy'n dod o fewn y cyfnod neilltuo cyfredol.
11.—(1) Caiff ffermwr wneud paratoadau ar gyfer hau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ffermwr hau unrhyw hadau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf os yw'r hadau yn cael eu hau er mwyn cynhyrchu cnwd i'w gynaeafu yn y flwyddyn ganlynol.
(3) Pan fo ffermwr yn hau tir glas ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â'r esemptiad yn is-baragraff (2), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.
12. Caiff ffermwr drin y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf at ddibenion rheoli chwyn.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas mewn cae neu ran o gae, caiff roi gorchudd arall, serch hynny, yn lle'r gorchudd glas hwnnw ar yr amod bod yr hadau yn cael eu hau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl difa'r gorchudd glas sy'n bodoli eisoes.
(2) Rhaid i'r hadau sydd i'w hau er mwyn sefydlu gorchudd glas newydd yn lle'r hen un —
(a)bod yn hadau o fath perthnasol, pan fo'r gorchudd i'w amnewid mewn rhan yn unig o gae sy'n cael ei reoli yn unol ag opsiwn y lleiniau 10 metr; a
(b)bod ym mhob achos arall —
(i)yn hadau o fath perthnasol; neu
(ii)yn gymysgedd perthnasol o hadau.
(3) O ran y cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas wedi'i amnewid, rhaid i ffermwr gydymffurfio â'r amodau hynny a nodwyd yn Rhan A o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud ag un o'r opsiynau rheoli canlynol —
(a)pan fo'r hadau a heuwyd yn hadau o fath perthnasol, opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; neu
(b)pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, opsiwn y gorchudd adar gwyllt.
(4) Pan fo ffermwr yn amnewid gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw, na chynaeafu unrhyw gnydau a gynhyrchir ar y tir hwnnw, yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.
14.—(1) Rhaid i ffermwr sicrhau, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fydd unrhyw orchudd glas na thoriadau o unrhyw orchudd glas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu hadau neu at unrhyw ddiben masnachol neu amaethyddol arall yn y flwyddyn gyfredol.
(2) Caiff ffermwr —
(a)yn ddarostyngedig i baragraffau 11(3) a 13(4), ddefnyddio unrhyw orchudd glas neu doriadau o'r fath at unrhyw ddibenion amaethyddol ar ôl 31 Awst; a
(b)rhoi ar y farchnad unrhyw doriadau, neu gnydau, a gynaeafir o'r gorchudd glas ar neu ar ôl 15 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.
(3) Rhaid i ffermwr sicrhau na chaiff unrhyw doriadau o'r gorchudd glas eu symud oddi ar y neilltir o dan sylw ac eithrio yn unol ag is-baragraff (2) neu gyda chydsyniad ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol.
15.—(1) Rhaid i ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith, gwastraff, calch na gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac eithrio yn unol â'r is-baragraffau canlynol.
(2) Caiff ffermwr daenu gwrteithiau ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol cyn eu taenu fod y tir wedi'i leoli mewn ardal y mae'n hysbys ei fod yn cael ei defnyddio fel ardal ar gyfer bwyta gan wyddau yn y gaeaf a'i fod i'w reoli fel ardal o'r fath.
(3) Drwy gydol y cyfnod neilltuo, caiff ffermwr daenu gwastraff organig ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar yr amod —
(a)nad yw'n cael ei daenu ond ar fannau lle mae gorchudd glas yn bodoli eisoes ar y neilltir;
(b)ei fod yn cael ei daenu fesul dogn na fyddai'n difa'r gorchudd glas hwnnw; ac
(c)yn achos tail a slyri, nad ydynt yn cael eu taenu —
(i)o fewn 10 metr i unrhyw gwrs dŵ r; na
(ii)o fewn 50 metr i unrhyw dyllau turio.
(4) Rhaid i ffermwr beidio â storio na dadlwytho na gwaredu fel arall unrhyw wastraff ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, ac eithrio ei fod yn cael storio gwastraff organig mewn cae sy'n cynnwys neu'n ffurfio rhan o'r neilltir lle mae'r gwastraff organig hwnnw i'w daenu ganddo ar y cae hwnnw yn unol ag is-baragraff (3).
(5) Caiff ffermwr daenu gwrtaith yn ystod y flwyddyn gyfredol ar unrhyw barsel o dir amaethyddol sy'n cael ei reoli yn unol â pharagraff 4 lle bo gorchudd glas newydd yn cael ei sefydlu yn y flwyddyn honno, ar yr amod nad yw cyfanswm y nitrogen yn y gwrtaith hwnnw yn fwy na 30 cilogram yr hectar o dir y mae'n cael ei daenu arno.
(6) Caiff ffermwr daenu calch neu gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo cnydau i'w tyfu ar y tir hwnnw yn y flwyddyn ganlynol.