- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu mewn blwyddyn galendr benodol, rhaid i ffermwr, yn ystod y flwyddyn honno, gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i un o'r opsiynau rheoli canlynol (fel y'u nodir ym mharagraffau 2, 3 a 4 yn ôl eu trefn) —
(a)opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau;
(b)opsiwn yr aildyfiant naturiol; neu
(c)yr opsiwn gorchudd adar gwyllt.
(2) Yn 2005, ar gyfer pob rhan o gae y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn honno, caiff ffermwr gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y lleiniau o dan 10 metr (fel y'i nodir ym mharagraff 5).
(3) Pan fo ffermwr yn 2006 neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny yn neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu dir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo, rhaid iddo gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau a nodwyd ym mharagraff 2 yn ystod y flwyddyn honno.
(4) Pan fo ffermwr —
(a)wedi cyflwyno cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol am ganiatâd i reoli tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â chynllun rheoli sydd wedi'i nodi yn ei gais, a
(b)wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r cynllun,
rhaid i'r ffermwr reoli'r tir yn unol â'r cynllun rheoli hwnnw yn lle cydymffurfio â'r amodau a nodir ym mharagraffau canlynol yr Atodlen hon a fyddai fel arall yn gymwys.
(5) At ddibenion yr Atodlen hon —
ystyr “y cyfnod neilltuo cyfredol” (“the current set-aside period”) yw'r cyfnod neilltuo yn ystod y flwyddyn gyfredol;
ystyr “cymysgedd perthnasol o hadau” (“a relevant mixture of seed”) yw cymysgedd o hadau cnydau o wahanol fathau —
nad yw'n gymysgedd o wahanol fathau o hadau grawnfwydydd yn unig nac o wahanol fathau o hadau cnydau bresych yn unig;
nad yw'n gymysgedd o un math o gnwd a hadau codlysiau yn unig, cymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o gnydau bresych a hadau codlysiau yn unig; ac
na fyddai'n ymarferol cynaeafu'r cnydau ohonynt ar wahân;
ystyr “y flwyddyn flaenorol” (“the previous year”) yw'r flwyddyn galendr yn union o flaen y flwyddyn gyfredol;
ystyr “y flwyddyn ganlynol” (“the following year”) yw'r flwyddyn galendr yn union ar ôl y flwyddyn gyfredol;
ystyr “y flwyddyn gyfredol” (“the current year”) yw'r flwyddyn y cyfeirir ati yn is-baragraff (1);
ystyr “hadau o fath perthnasol” (“seed of a relevant kind”) yw —
hadau porfa;
cymysgedd o hadau porfa a hadau planhigion llydanddail brodorol nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gyffredin ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol (pan nad yw'r cymysgedd hwnnw yn cynnwys mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o hadau codlysiau);
hadau mwstard; neu
hadau phacelia; ac
ystyr “y tymor gorchudd glas cyfredol” (“the current green cover season”) yw'r tymor gorchudd glas yn ystod y flwyddyn gyfredol.
(6) Ym mharagraffau 2(1)(b), 3(1)(b), 4(1)(c) a 5(1)(b), ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) mewn perthynas â chae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —
(a)pan nad yw'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae na rhan o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol neu pan fo'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd yn y flwyddyn ganlynol, yw'r tymor gorchudd glas cyfredol; a
(b)pan fo'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol (ond nad yw'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd), yw'r cyfnod neilltuo cyfredol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: