xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 2(1) a 4(1) a (4)

ATODLEN 1SAFONAU YCHWANEGOL CYFLWR AMAETHYDDOL AC AMGYLCHEDDOL DA SY'N GYMWYS MEWN PERTHYNAS Å THIR SYDD WEDI'I NEILLTUO ODDI WRTH WAITH CYNHYRCHU

RHAN A

Opsiynau rheoli ar gyfer tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

1.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu mewn blwyddyn galendr benodol, rhaid i ffermwr, yn ystod y flwyddyn honno, gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i un o'r opsiynau rheoli canlynol (fel y'u nodir ym mharagraffau 2, 3 a 4 yn ôl eu trefn) —

(a)opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau;

(b)opsiwn yr aildyfiant naturiol; neu

(c)yr opsiwn gorchudd adar gwyllt.

(2Yn 2005, ar gyfer pob rhan o gae y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn honno, caiff ffermwr gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y lleiniau o dan 10 metr (fel y'i nodir ym mharagraff 5).

(3Pan fo ffermwr yn 2006 neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny yn neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu dir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo, rhaid iddo gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau a nodwyd ym mharagraff 2 yn ystod y flwyddyn honno.

(4Pan fo ffermwr —

(a)wedi cyflwyno cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol am ganiatâd i reoli tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â chynllun rheoli sydd wedi'i nodi yn ei gais, a

(b)wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r cynllun,

rhaid i'r ffermwr reoli'r tir yn unol â'r cynllun rheoli hwnnw yn lle cydymffurfio â'r amodau a nodir ym mharagraffau canlynol yr Atodlen hon a fyddai fel arall yn gymwys.

(5At ddibenion yr Atodlen hon —

ystyr “y cyfnod neilltuo cyfredol” (“the current set-aside period”) yw'r cyfnod neilltuo yn ystod y flwyddyn gyfredol;

ystyr “cymysgedd perthnasol o hadau” (“a relevant mixture of seed”) yw cymysgedd o hadau cnydau o wahanol fathau —

(a)

nad yw'n gymysgedd o wahanol fathau o hadau grawnfwydydd yn unig nac o wahanol fathau o hadau cnydau bresych yn unig;

(b)

nad yw'n gymysgedd o un math o gnwd a hadau codlysiau yn unig, cymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o gnydau bresych a hadau codlysiau yn unig; ac

(c)

na fyddai'n ymarferol cynaeafu'r cnydau ohonynt ar wahân;

ystyr “y flwyddyn flaenorol” (“the previous year”) yw'r flwyddyn galendr yn union o flaen y flwyddyn gyfredol;

ystyr “y flwyddyn ganlynol” (“the following year”) yw'r flwyddyn galendr yn union ar ôl y flwyddyn gyfredol;

ystyr “y flwyddyn gyfredol” (“the current year”) yw'r flwyddyn y cyfeirir ati yn is-baragraff (1);

ystyr “hadau o fath perthnasol” (“seed of a relevant kind”) yw —

(a)

hadau porfa;

(b)

cymysgedd o hadau porfa a hadau planhigion llydanddail brodorol nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gyffredin ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol (pan nad yw'r cymysgedd hwnnw yn cynnwys mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o hadau codlysiau);

(c)

hadau mwstard; neu

(ch)

hadau phacelia; ac

ystyr “y tymor gorchudd glas cyfredol” (“the current green cover season”) yw'r tymor gorchudd glas yn ystod y flwyddyn gyfredol.

(6Ym mharagraffau 2(1)(b), 3(1)(b), 4(1)(c) a 5(1)(b), ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) mewn perthynas â chae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —

(a)pan nad yw'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae na rhan o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol neu pan fo'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd yn y flwyddyn ganlynol, yw'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)pan fo'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol (ond nad yw'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd), yw'r cyfnod neilltuo cyfredol.

Opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau

2.—(1Ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy hau hadau o fath perthnasol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas ar ôl hynny tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(c)torri neu ddifa'r gorchudd glas yn unol â pharagraff 6.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys —

(a)yn 2005 —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn y glaswelltir a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996(1); a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn y flwyddyn flaenorol ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.

Opsiwn yr aildyfiant naturiol

3.—(1Ym mhob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd yn y cae hwnnw neu'r rhan honno o gae yn y flwyddyn flaenorol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas ar ôl hynny tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(c)torri neu ddifa'r gorchudd glas yn unol â pharagraff 6.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys —

(a)yn 2005 —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996(2); a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn y flwyddyn flaenorol ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol; ac

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.

Opsiwn y gorchudd adar gwyllt

4.—(1Ym mhob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, naill ai —

(i)sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd yn y cae hwnnw neu'r rhan honno o gae yn y flwyddyn flaenorol; neu

(ii)sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy hau cymysgedd perthnasol o hadau.

(b)pan fo gorchudd glas wedi'i sefydlu erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn unol ag is-baragraff (a)(i) —

(i)cynnal a chadw'r gorchudd glas hwnnw hyd nes y caiff ei amnewid yn unol ag is-baragraff (ii); a

(ii)amnewid y gorchudd glas hwnnw drwy hau gorchudd glas newydd sy'n cynnwys cymysgedd perthnasol o hadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol a dinistrio'r gorchudd glas sydd i'w amnewid;

(c)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas a sefydlwyd o dan baragraff (a)(ii) neu (b)(ii) tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(ch)torri neu ddifa'r gorchudd yn unol â pharagraff 6 oni bai —

(i)bod y cae i'w neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol; a

(ii)bod y ffermwr heb gynaeafu unrhyw ran o'r gorchudd glas, nac wedi caniatáu i unrhyw ran ohono gael ei gynaeafu neu ei bori, yn y flwyddyn gyfredol.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys —

(a)yn 2005 —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt a nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996; a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn y flwyddyn flaenorol;

(ii)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn flaenorol honno yn unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt; a

(iii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.

Opsiwn y lleiniau o dan 10 metr

5.—(1Ym mhob rhan o gae sydd i'w rheoli yn unol ag opsiwn y lleiniau o dan 10 metr, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol —

(i)drwy hau hadau o fath perthnasol; neu

(ii)drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd ar y rhan honno o'r cae o dan sylw yn y flwyddyn flaenorol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(c)torri'r gorchudd glas o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn gyfredol.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn 2005 —

(a)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag opsiwn yr ymylon caeau a nodir ym mharagraff 5 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996; a

(b)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol.

Torri neu ddifa'r gorchudd glas

6.—(1Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1), rhaid i ffermwr wneud y naill neu'r llall o'r canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), torri'r gorchudd glas rhwng 15 Gorffennaf a 15 Awst (yn gynhwysol) yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol; neu

(b)difa'r gorchudd glas rhwng 15 Gorffennaf a 31 Awst (yn gynhwysol) yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol.

(2Caiff ffermwr (pan fo'n torri'r gorchudd glas mewn cae neu ran o gae yn unol ag is-baragraff (1)(a)) yn achos cae sydd i'w neilltuo yn y flwyddyn ganlynol, adael heb ei dorri 25% o'r arwynebedd sydd wedi'i neilltuo yn y cae hwnnw, ar yr amod bod unrhyw arwynebedd a adewir heb ei dorri yn unol â'r paragraff hwn ac sydd hefyd wedi'i adael heb ei dorri yn ystod y ddwy flynedd flaenorol yn unol â'r paragraff hwn (neu baragraff 7(2)(b) o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996) yn cael ei dorri yn unol ag is-baragraff (1) yn y flwyddyn ganlynol.

Esemptiadau rhag y gofyniad i sefydlu gorchudd glas ar neilltir

7.—(1Ym mhob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2) yn cael ei weithredu, bydd ffermwr yn rhinwedd y ddarpariaeth hon yn cael ei drin fel un sy'n esempt rhag gofyniad i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol, os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol nad oedd yn ymarferol sefydlu gorchudd glas erbyn hynny am resymau hinsoddol, ac, os yw'n cael ei drin fel un sy'n esempt, rhaid iddo sefydlu gorchudd glas cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas.

(2Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), nid oes rhaid i ffermwr sefydlu gorchudd glas ar lain o dir sy'n rhan o'r tir sydd wedi;'i neilltuo ac sy'n ffinio â'i ymyl, a honno'n llain hyd at —

(a)1 metr o led, pan fo'r llain o dir sydd wedi'i neilltuo yn ffinio â thir a blannwyd â chnwd nad yw'n gnwd hadau;

(b)2 fetr o led, pan fo'r llain o dir sydd wedi'i neilltuo yn ffinio â thir a blannwyd â chnwd hadau; neu

(c)5 metr, mewn unrhyw fan lle gall fod yn bosibl i gerbydau fynd ar y tir hwnnw o ffordd neu drac sy'n gyfagos â'r tir hwnnw, ar yr amod bod y llain yn cael ei haredig a'i gadael yn fraenar.

(3Yn is-baragraff (2), ystyr “cnwd hadau” yw cnwd a dyfir fel bod modd cynaeafu hadau'r cnwd a'u hau i sefydlu cnwd pellach.

Esemptiadau rhag y gofyniad i gynnal a chadw gorchudd glas ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

8.—(1Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), nid yw'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo'r gorchudd glas hwnnw wedi'i ddifa ar ôl taenu plaleiddiad ar y tir ar neu ar ôl 15 Ebrill yn y flwyddyn gyfredol.

(2Ar gyfer pob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), bydd ffermwr yn cael ei drin yn rhinwedd y ddarpariaeth hon fel un sy'n esempt rhag gofyniad i gynnal a chadw gorchudd glas os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol bod y gorchudd glas a sefydlodd wedi methu neu nad oedd modd iddo atal yn rhesymol y methiant hwnnw.

(3Bydd yr esemptiadau a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys —

(a)yn achos yr esemptiad yn is-baragraff (1), tan ddechrau tymor canlynol y gorchudd glas; a

(b)yn achos yr esemptiad yn is-baragraff (2), tan ddiwedd y flwyddyn gyfredol.

(4Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), a lle mae ffermwr wedi dewis peidio â sefydlu gorchudd glas ar lain o dir yn unol â pharagraff 7(2), nid oes rhaid iddo gynnal a chadw unrhyw orchudd glas sydd wedyn yn ymsefydlu ar y llain honno.

RHAN BSafonau cyffredinol sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

Yr amodau sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

9.  Mae darpariaethau paragraffau 10 i 15 o'r Atodlen hon yn gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac sy'n cael ei reoli gan ffermwr yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau paragraffau 1 i 8.

Gwahardd hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, a gwahardd trin y tir hwnnw

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12, yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol, rhaid i ffermwr beidio â hau, na gwneud unrhyw waith paratoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu na thrin y tir hwnnw mewn unrhyw ffordd arall .

(2mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad ym mharagraff 11 neu 12 yn gyfeiriad at y dyddiad hwnnw sy'n dod o fewn y cyfnod neilltuo cyfredol.

Esemptiadau rhag y gwaharddiad ar hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

11.—(1Caiff ffermwr wneud paratoadau ar gyfer hau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ffermwr hau unrhyw hadau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf os yw'r hadau yn cael eu hau er mwyn cynhyrchu cnwd i'w gynaeafu yn y flwyddyn ganlynol.

(3Pan fo ffermwr yn hau tir glas ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â'r esemptiad yn is-baragraff (2), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.

Trin tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu at ddibenion rheoli chwyn

12.  Caiff ffermwr drin y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf at ddibenion rheoli chwyn.

Amnewid y gorchudd glas a newid opsiynau rheoli

13.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas mewn cae neu ran o gae, caiff roi gorchudd arall, serch hynny, yn lle'r gorchudd glas hwnnw ar yr amod bod yr hadau yn cael eu hau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl difa'r gorchudd glas sy'n bodoli eisoes.

(2Rhaid i'r hadau sydd i'w hau er mwyn sefydlu gorchudd glas newydd yn lle'r hen un —

(a)bod yn hadau o fath perthnasol, pan fo'r gorchudd i'w amnewid mewn rhan yn unig o gae sy'n cael ei reoli yn unol ag opsiwn y lleiniau 10 metr; a

(b)bod ym mhob achos arall —

(i)yn hadau o fath perthnasol; neu

(ii)yn gymysgedd perthnasol o hadau.

(3O ran y cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas wedi'i amnewid, rhaid i ffermwr gydymffurfio â'r amodau hynny a nodwyd yn Rhan A o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud ag un o'r opsiynau rheoli canlynol —

(a)pan fo'r hadau a heuwyd yn hadau o fath perthnasol, opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; neu

(b)pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, opsiwn y gorchudd adar gwyllt.

(4Pan fo ffermwr yn amnewid gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw, na chynaeafu unrhyw gnydau a gynhyrchir ar y tir hwnnw, yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.

Defnyddio'r gorchudd glas

14.—(1Rhaid i ffermwr sicrhau, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fydd unrhyw orchudd glas na thoriadau o unrhyw orchudd glas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu hadau neu at unrhyw ddiben masnachol neu amaethyddol arall yn y flwyddyn gyfredol.

(2Caiff ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau 11(3) a 13(4), ddefnyddio unrhyw orchudd glas neu doriadau o'r fath at unrhyw ddibenion amaethyddol ar ôl 31 Awst; a

(b)rhoi ar y farchnad unrhyw doriadau, neu gnydau, a gynaeafir o'r gorchudd glas ar neu ar ôl 15 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.

(3Rhaid i ffermwr sicrhau na chaiff unrhyw doriadau o'r gorchudd glas eu symud oddi ar y neilltir o dan sylw ac eithrio yn unol ag is-baragraff (2) neu gyda chydsyniad ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Taenu gwrtaith, gwastraff, calch a gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

15.—(1Rhaid i ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith, gwastraff, calch na gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac eithrio yn unol â'r is-baragraffau canlynol.

(2Caiff ffermwr daenu gwrteithiau ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol cyn eu taenu fod y tir wedi'i leoli mewn ardal y mae'n hysbys ei fod yn cael ei defnyddio fel ardal ar gyfer bwyta gan wyddau yn y gaeaf a'i fod i'w reoli fel ardal o'r fath.

(3Drwy gydol y cyfnod neilltuo, caiff ffermwr daenu gwastraff organig ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar yr amod —

(a)nad yw'n cael ei daenu ond ar fannau lle mae gorchudd glas yn bodoli eisoes ar y neilltir;

(b)ei fod yn cael ei daenu fesul dogn na fyddai'n difa'r gorchudd glas hwnnw; ac

(c)yn achos tail a slyri, nad ydynt yn cael eu taenu —

(i)o fewn 10 metr i unrhyw gwrs dŵ r; na

(ii)o fewn 50 metr i unrhyw dyllau turio.

(4Rhaid i ffermwr beidio â storio na dadlwytho na gwaredu fel arall unrhyw wastraff ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, ac eithrio ei fod yn cael storio gwastraff organig mewn cae sy'n cynnwys neu'n ffurfio rhan o'r neilltir lle mae'r gwastraff organig hwnnw i'w daenu ganddo ar y cae hwnnw yn unol ag is-baragraff (3).

(5Caiff ffermwr daenu gwrtaith yn ystod y flwyddyn gyfredol ar unrhyw barsel o dir amaethyddol sy'n cael ei reoli yn unol â pharagraff 4 lle bo gorchudd glas newydd yn cael ei sefydlu yn y flwyddyn honno, ar yr amod nad yw cyfanswm y nitrogen yn y gwrtaith hwnnw yn fwy na 30 cilogram yr hectar o dir y mae'n cael ei daenu arno.

(6Caiff ffermwr daenu calch neu gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo cnydau i'w tyfu ar y tir hwnnw yn y flwyddyn ganlynol.

(1)

O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.