- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu wedi'u nodi yn Atodlen 1.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd wedi'u nodi yn Atodlen 2.
(3) mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) i fod yn gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu a thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd yn y drefn honno yn ychwanegol at y safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i'r tir yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Trawsgydymffurfio 2004.
(4) Nid yw darpariaethau paragraffau (1) a (2) yn gymwys i dir —
(a)sydd wedi'i neilltuo neu wedi'i goedwigo yn unol ag Erthyglau 22 i 24 neu Erthygl 31 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(1) sy'n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac sy'n diwygio neu'n diddymu Rheoliadau penodol, a
(b)sy'n cael ei gyfrif yn neilltir at ddibenion Erthygl 54 o Reoliad y Cyngor,
i'r graddau y mae gofynion Atodlen 1 neu 2 yn anghydnaws â'r gofynion amgylcheddol neu'r gofynion coedwigo a bennwyd yn unol â'r Erthyglau hynny.
(5) mae ffermwr yn esempt rhag unrhyw ofyniad penodol yn Atodlen 1 neu 2 mewn perthynas â neilltir penodol os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol mewn cais sy'n cael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â'r gofyniad hwnnw, y dylai gael ei esemptio rhagddo —
(a)er mwyn hwyluso ymchwil i effaith defnyddio dulliau penodol o reoli neilltir;
(b)er diogelu'r amgylchedd;
(c)os sefydliad addysgol yw'r ffermwr, er mwyn ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni ei bwrpas addysgol;
(ch)am fod un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y cyfnod neilltuo—
(i)bod piblinell, cebl neu beilon, yn rhinwedd unrhyw bŵer neu awdurdodiad a roddir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, yn cael ei gosod neu ei osod neu y bydd yn cael ei gosod neu ei osod drwy, neu'n cael ei hadeiladu neu y bydd yn cael ei hadeiladu neu ei adeiladu ar neu ar draws, y tir, ac nad oedd gosod neu adeiladu'r piblinell, cebl neu beilon yn gynnig yr hysbyswyd y ffermwr ohono fwy na 5 mis cyn y dyddiad y cafodd y tir ei neilltuo;
(ii)bod gwaith cynnal a chadw'r biblinell, y cebl neu'r peilon yn cael ei wneud neu y bydd yn cael ei wneud o dan awdurdod statudol ar y neilltir penodol; neu
(iii)bod gwaith cloddio archeolegol yn cael ei wneud, neu y bydd yn cael ei wneud, ar y tir;
(d)er iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid;
(dd)am fod yr esemptiad hwnnw yn angenrheidiol, naill er mwyn ei gwneud yn bosibl trin achos difrifol o niwed i iechyd planhigion neu heigiad difrifol o unrhyw bla neu chwynnyn penodol, neu er mwyn caniatáu i fesurau gael eu cymryd i atal unrhyw beth o'r fath sy'n achosi'r niwed neu'r heigiad rhag datblygu; neu
(e)er mwyn bod o fudd i elusen (fel y'i diffinnir yn adran 96(1) o Ddeddf Elusennau 1993)(2).
(6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu bod unrhyw esemptiad a roddir yn unol â pharagraff (5) yn effeithiol tan ddyddiad a bennir yn yr esemptiad, neu hyd nes bod achlysur penodol, a bennir yn yr esemptiad, wedi digwydd.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “chwynnyn penodol” yw unrhyw un o'r chwyn niweidiol a restrir yn adran 1(2) o Ddeddf Chwyn 1959(3), sef Rhododendron ponticum, clymog Japan (Reynoutria japonica), efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum) neu ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera).
O.J. Rhif L160, 26.6.99, t.80, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1783/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: