xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 45 (Cy.4)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

13 Ionawr 2005

Yn dod i rym

15 Ionawr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 15 Ionawr 2005 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

(2mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn ôl y digwydd.

Isafswm arwynebedd a dimensiynau parseli neilltir

3.  At ddibenion ail frawddeg Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor, caniateir i dir gael ei neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —

(a)os yw'n gymwys ar gyfer hawl neilltir yn unol ag Erthygl 54(2) o Reoliad y Cyngor neu'n cael ei gyfrif yn gymwys ar gyfer hawl neilltir o ganlyniad i gais a ganiateir o dan reoliad 5;

(b)os yw o leiaf 6 metr (ond yn llai na 10 metr) ei led;

(c)os yw o leiaf 0.05 hectar o ran maint; ac

(ch)os yw'n ffinio —

(i)â pherth;

(ii)â choetir;

(iii)â chwrs dŵ r; neu

(iv)â darn o dir yr hysbyswyd o dan adran 28(1)(b) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(8) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Safonau ychwanegol cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da mewn perthynas â neilltir

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu wedi'u nodi yn Atodlen 1.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd wedi'u nodi yn Atodlen 2.

(3mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) i fod yn gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu a thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd yn y drefn honno yn ychwanegol at y safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i'r tir yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Trawsgydymffurfio 2004.

(4Nid yw darpariaethau paragraffau (1) a (2) yn gymwys i dir —

(a)sydd wedi'i neilltuo neu wedi'i goedwigo yn unol ag Erthyglau 22 i 24 neu Erthygl 31 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999(9) sy'n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac sy'n diwygio neu'n diddymu Rheoliadau penodol, a

(b)sy'n cael ei gyfrif yn neilltir at ddibenion Erthygl 54 o Reoliad y Cyngor,

i'r graddau y mae gofynion Atodlen 1 neu 2 yn anghydnaws â'r gofynion amgylcheddol neu'r gofynion coedwigo a bennwyd yn unol â'r Erthyglau hynny.

(5mae ffermwr yn esempt rhag unrhyw ofyniad penodol yn Atodlen 1 neu 2 mewn perthynas â neilltir penodol os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol mewn cais sy'n cael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â'r gofyniad hwnnw, y dylai gael ei esemptio rhagddo —

(a)er mwyn hwyluso ymchwil i effaith defnyddio dulliau penodol o reoli neilltir;

(b)er diogelu'r amgylchedd;

(c)os sefydliad addysgol yw'r ffermwr, er mwyn ei gwneud yn hwylus iddo gyflawni ei bwrpas addysgol;

(ch)am fod un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y cyfnod neilltuo—

(i)bod piblinell, cebl neu beilon, yn rhinwedd unrhyw bŵer neu awdurdodiad a roddir gan neu o dan unrhyw ddeddfiad, yn cael ei gosod neu ei osod neu y bydd yn cael ei gosod neu ei osod drwy, neu'n cael ei hadeiladu neu y bydd yn cael ei hadeiladu neu ei adeiladu ar neu ar draws, y tir, ac nad oedd gosod neu adeiladu'r piblinell, cebl neu beilon yn gynnig yr hysbyswyd y ffermwr ohono fwy na 5 mis cyn y dyddiad y cafodd y tir ei neilltuo;

(ii)bod gwaith cynnal a chadw'r biblinell, y cebl neu'r peilon yn cael ei wneud neu y bydd yn cael ei wneud o dan awdurdod statudol ar y neilltir penodol; neu

(iii)bod gwaith cloddio archeolegol yn cael ei wneud, neu y bydd yn cael ei wneud, ar y tir;

(d)er iechyd neu ddiogelwch pobl neu anifeiliaid;

(dd)am fod yr esemptiad hwnnw yn angenrheidiol, naill er mwyn ei gwneud yn bosibl trin achos difrifol o niwed i iechyd planhigion neu heigiad difrifol o unrhyw bla neu chwynnyn penodol, neu er mwyn caniatáu i fesurau gael eu cymryd i atal unrhyw beth o'r fath sy'n achosi'r niwed neu'r heigiad rhag datblygu; neu

(e)er mwyn bod o fudd i elusen (fel y'i diffinnir yn adran 96(1) o Ddeddf Elusennau 1993)(10).

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu bod unrhyw esemptiad a roddir yn unol â pharagraff (5) yn effeithiol tan ddyddiad a bennir yn yr esemptiad, neu hyd nes bod achlysur penodol, a bennir yn yr esemptiad, wedi digwydd.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “chwynnyn penodol” yw unrhyw un o'r chwyn niweidiol a restrir yn adran 1(2) o Ddeddf Chwyn 1959(11), sef Rhododendron ponticum, clymog Japan (Reynoutria japonica), efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum) neu ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera).

Cyfnewid tir cymwys a thir anghymwys

5.—(1Mewn sefyllfa a bennir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) o baragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004, caiff ffermwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dir nad yw fel arall yn gymwys ar gyfer hawl neilltir.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r cais gael ei wneud ar unrhyw ffurf y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani, a phan fo'r ffermwr yn bwriadu cyfnewid y tir y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer am dir arall sy'n gymwys ar gyfer hawl neilltir (gan gynnwys tir sy'n cael ei gyfrif yn gymwys ar gyfer hawl neilltir o ganlyniad i gais a ganiatawyd o dan y rheoliad hwn), rhaid iddo roi manylion am y tir hwnnw, yn ogystal â'r tir y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer, yn ei gais.

(3Pan fo ffermwr yn dal unrhyw ran o'r tir y mae ei gais wedi'i wneud ar ei gyfer, neu unrhyw dir y mae'n bwriadu ei gyfnewid am y tir hwnnw, fel tenant, rhaid iddo gael cydsyniad ysgrifenedig ei landord â'r cyfnewid, a rhaid i'r cais gynnwys datganiad gan y ceisydd bod y cydsyniad hwnnw wedi'i sicrhau.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r cais a wnaed o dan baragraff (1) os yw wedi'i fodloni —

(a)bod is-baragraff perthnasol paragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004 a nodwyd yng nghais y ffermwr yn gymwys mewn perthynas â'r tir y mae'r cais wedi'i wneud ar ei gyfer;

(b)pan fo'r cais wedi'i wneud ar sail is-baragraff (c) paragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004, ynglyn â'r rhesymau a roddwyd ganddo dros ddymuno cyfnewid tir anghymwys am dir cymwys ar ei ddaliad; ac

(c)ynglyn â'r canlynol —

(i)os yw'r tir y mae'r cais wedi'i wneud ar ei gyfer i'w gyfnewid am dir cymwys arall, nad yw arwynebedd y tir y mae'r cais wedi'i wneud ar ei gyfer yn fwy o 5% nag arwynebedd y tir sydd i'w gyfnewid; neu

(ii)os na fwriedir cyfnewid unrhyw dir, ni fydd cymeradwyo'r cais yn arwain at gynnydd sylweddol yn arwynebedd cyfan y tir sy'n gymwys at ddibenion hawliau neilltir.

(5Pan fo cymeradwyaeth wedi'i rhoi o dan baragraff (4) ond bod unrhyw ddatganiad a oedd wedi'i gynnwys gan y ffermwr yn y cais, neu unrhyw wybodaeth a oedd wedi'i rhoi mewn cysylltiad â'r cais, yn anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth honno.

(6Yn y rheoliad hwn mae i “yn gymwys ar gyfer hawl neilltir”, mewn perthynas â thir, yr ystyr a roddir i “eligible for set-aside entitlement” gan baragraff cyntaf Erthygl 54(2) o Reoliad y Cyngor.

Darpariaethau ynglyn â deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd

6.—(1mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (defnyddio tir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai at ddibenion di-fwyd).

(2Rhaid i ddeunyddiau crai y mae Erthygl 146(2)(b) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn gymwys iddynt gael eu pwyso gan weithredydd cyfarpar pwyso cyhoeddus sy'n dal tystysgrif a ddyroddwyd o dan adran 18 o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985(12).

(3At ddibenion Erthygl 146(4) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, rhaid i rawnfwydydd a hadau olew y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddynt gael eu dadnatureiddio drwy eu lliwio â lliw llachar.

(4At ddibenion Erthygl 157(1) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, 15 Mai yn y flwyddyn y mae'r cais perthnasol i gael yr hawl neilltir gysylltiedig yn cael ei wneud yw'r diwrnod olaf y caniateir adneuo contract y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

(5At ddibenion Erthygl 157(3) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, 31 Ionawr yn y flwyddyn sy'n dilyn y flwyddyn y mae'r cais perthnasol i gael yr hawl neilltir gysylltiedig yn cael ei wneud yw'r diwrnod olaf y caniateir i gasglwr neu brosesydd cyntaf y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn y paragraff hwnnw.

(6Yn y rheoliad hwn —

ystyr “yr hawl neilltir gysylltiedig” (“the associated set-aside entitlement”) yw'r hawl neilltir sy'n cael ei hawlio ar gyfer y tir sydd wedi'i neilltuo i gynhyrchu'r deunyddiau crai y mae'r contract y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (4), a'r wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff 5, yn ymwneud â hwy; ac

mae i “prosesydd cyntaf” yr ystyr a roddir i “first processor” gan Erthygl 144(c) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004.

Cadw cofnodion a dal gafael arnynt gan gasglwr a chan brosesydd

7.—(1mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ffermwr yn neilltuo tir at ddibenion di-fwyd, ac ym mharagraffau (2) i (5) mae cyfeiriadau at “deunyddiau crai” yn gyfeiriadau at ddeunyddiau crai a gynhyrchir ar y tir hwnnw.

(2Yn ystod unrhyw fis pan fydd casglwr yn prynu neu'n gwerthu unrhyw ddeunyddiau crai, rhaid iddo wneud cofnod o faint o bob deunydd crai y mae wedi'i brynu neu wedi'i werthu yn ystod y mis hwnnw, ac enwau a chyfeiriadau'r prynwyr neu'r proseswyr dilynol y mae wedi gwerthu'r deunyddiau crai hynny iddynt.

(3Rhaid i gasglwr ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) tan y cynharaf o'r canlynol —

(a)diwedd y drydedd flwyddyn galendr sy'n dilyn y flwyddyn galendr y mae'n cyflwyno i brosesydd y deunyddiau crai y mae'r cofnodion hynny'n cyfeirio atynt; neu

(b)seithfed pen-blwydd dyddiad eu creu.

(4Ar unrhyw ddydd y mae prosesydd yn prynu, prosesu, dinistrio, gwerthu neu fel arall yn gwaredu unrhyw gynhyrchion a geir drwy brosesu deunyddiau crai o'r fath, rhaid iddo wneud cofnod sy'n dangos —

(a)meintiau'r gwahanol ddeunyddiau crai a brynwyd ganddo ar gyfer prosesu;

(b)maint y deunyddiau crai a broseswyd ganddo ynghyd â maint a math y cynhyrchion terfynol, y cydgynhyrchion a'r sgil-gynhyrchion a gafwyd o'r prosesu;

(c)maint y deunyddiau crai a gollwyd yn ystod y prosesu;

(ch)maint y deunyddiau crai a ddinistriwyd, os o gwbl, ynghyd â'r rheswm dros eu dinistrio;

(d)maint a math y cynhyrchion a werthwyd neu a waredwyd fel arall ganddo a'r pris a gafwyd amdanynt; ac

(dd)enwau a chyfeiriadau unrhyw brynwyr neu broseswyr dilynol y mae'n gwerthu iddynt y deunyddiau crai hynny neu'r cynhyrchion hynny a gafwyd drwy'r prosesu.

(5Rhaid i brosesydd ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) am ddwy flynedd o'r naill neu'r llall o'r dyddiadau canlynol —

(a)pan fo'r cofnodion yn ymwneud â phrynu, prosesu, gwastraffu, dinistrio, gwerthu neu waredu fel arall y deunyddiau crai, y dyddiad y mae'n prynu, prosesu, gwastraffu, dinistrio, gwerthu neu fel arall yn gwaredu'r deunyddiau crai, yn ôl y digwydd; a

(b)pan fo'r cofnodion yn ymwneud â gwerthu neu waredu fel arall gynhyrchion a gafwyd drwy brosesu'r deunyddiau crai hynny, y dyddiad y cafodd y cynhyrchion hynny eu gwerthu neu eu gwaredu fel arall, yn ôl y digwydd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(13)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Ionawr 2005

Rheoliadau 2(1) a 4(1) a (4)

ATODLEN 1SAFONAU YCHWANEGOL CYFLWR AMAETHYDDOL AC AMGYLCHEDDOL DA SY'N GYMWYS MEWN PERTHYNAS Å THIR SYDD WEDI'I NEILLTUO ODDI WRTH WAITH CYNHYRCHU

RHAN A

Opsiynau rheoli ar gyfer tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

1.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu mewn blwyddyn galendr benodol, rhaid i ffermwr, yn ystod y flwyddyn honno, gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i un o'r opsiynau rheoli canlynol (fel y'u nodir ym mharagraffau 2, 3 a 4 yn ôl eu trefn) —

(a)opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau;

(b)opsiwn yr aildyfiant naturiol; neu

(c)yr opsiwn gorchudd adar gwyllt.

(2Yn 2005, ar gyfer pob rhan o gae y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn honno, caiff ffermwr gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y lleiniau o dan 10 metr (fel y'i nodir ym mharagraff 5).

(3Pan fo ffermwr yn 2006 neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny yn neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu dir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo, rhaid iddo gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau a nodwyd ym mharagraff 2 yn ystod y flwyddyn honno.

(4Pan fo ffermwr —

(a)wedi cyflwyno cais ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol am ganiatâd i reoli tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â chynllun rheoli sydd wedi'i nodi yn ei gais, a

(b)wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol i'r cynllun,

rhaid i'r ffermwr reoli'r tir yn unol â'r cynllun rheoli hwnnw yn lle cydymffurfio â'r amodau a nodir ym mharagraffau canlynol yr Atodlen hon a fyddai fel arall yn gymwys.

(5At ddibenion yr Atodlen hon —

ystyr “y cyfnod neilltuo cyfredol” (“the current set-aside period”) yw'r cyfnod neilltuo yn ystod y flwyddyn gyfredol;

ystyr “cymysgedd perthnasol o hadau” (“a relevant mixture of seed”) yw cymysgedd o hadau cnydau o wahanol fathau —

(a)

nad yw'n gymysgedd o wahanol fathau o hadau grawnfwydydd yn unig nac o wahanol fathau o hadau cnydau bresych yn unig;

(b)

nad yw'n gymysgedd o un math o gnwd a hadau codlysiau yn unig, cymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o rawnfwydydd a hadau codlysiau yn unig, nac yn gymysgedd o gnydau bresych a hadau codlysiau yn unig; ac

(c)

na fyddai'n ymarferol cynaeafu'r cnydau ohonynt ar wahân;

ystyr “y flwyddyn flaenorol” (“the previous year”) yw'r flwyddyn galendr yn union o flaen y flwyddyn gyfredol;

ystyr “y flwyddyn ganlynol” (“the following year”) yw'r flwyddyn galendr yn union ar ôl y flwyddyn gyfredol;

ystyr “y flwyddyn gyfredol” (“the current year”) yw'r flwyddyn y cyfeirir ati yn is-baragraff (1);

ystyr “hadau o fath perthnasol” (“seed of a relevant kind”) yw —

(a)

hadau porfa;

(b)

cymysgedd o hadau porfa a hadau planhigion llydanddail brodorol nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gyffredin ar gyfer cynhyrchiant amaethyddol (pan nad yw'r cymysgedd hwnnw yn cynnwys mwy na 50 y cant yn ôl pwysau o hadau codlysiau);

(c)

hadau mwstard; neu

(ch)

hadau phacelia; ac

ystyr “y tymor gorchudd glas cyfredol” (“the current green cover season”) yw'r tymor gorchudd glas yn ystod y flwyddyn gyfredol.

(6Ym mharagraffau 2(1)(b), 3(1)(b), 4(1)(c) a 5(1)(b), ystyr “y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) mewn perthynas â chae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu —

(a)pan nad yw'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae na rhan o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol neu pan fo'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd yn y flwyddyn ganlynol, yw'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)pan fo'r ffermwr yn bwriadu neilltuo'r cae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol (ond nad yw'n bwriadu ei neilltuo at ddiben di-fwyd), yw'r cyfnod neilltuo cyfredol.

Opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau

2.—(1Ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy hau hadau o fath perthnasol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas ar ôl hynny tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(c)torri neu ddifa'r gorchudd glas yn unol â pharagraff 6.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys —

(a)yn 2005 —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn y glaswelltir a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996(14); a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn y flwyddyn flaenorol ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.

Opsiwn yr aildyfiant naturiol

3.—(1Ym mhob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd yn y cae hwnnw neu'r rhan honno o gae yn y flwyddyn flaenorol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas ar ôl hynny tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(c)torri neu ddifa'r gorchudd glas yn unol â pharagraff 6.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys —

(a)yn 2005 —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996(15); a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn y flwyddyn flaenorol ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol; ac

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.

Opsiwn y gorchudd adar gwyllt

4.—(1Ym mhob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, naill ai —

(i)sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd yn y cae hwnnw neu'r rhan honno o gae yn y flwyddyn flaenorol; neu

(ii)sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol drwy hau cymysgedd perthnasol o hadau.

(b)pan fo gorchudd glas wedi'i sefydlu erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn unol ag is-baragraff (a)(i) —

(i)cynnal a chadw'r gorchudd glas hwnnw hyd nes y caiff ei amnewid yn unol ag is-baragraff (ii); a

(ii)amnewid y gorchudd glas hwnnw drwy hau gorchudd glas newydd sy'n cynnwys cymysgedd perthnasol o hadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol a dinistrio'r gorchudd glas sydd i'w amnewid;

(c)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas a sefydlwyd o dan baragraff (a)(ii) neu (b)(ii) tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(ch)torri neu ddifa'r gorchudd yn unol â pharagraff 6 oni bai —

(i)bod y cae i'w neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn ganlynol; a

(ii)bod y ffermwr heb gynaeafu unrhyw ran o'r gorchudd glas, nac wedi caniatáu i unrhyw ran ohono gael ei gynaeafu neu ei bori, yn y flwyddyn gyfredol.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys —

(a)yn 2005 —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt a nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996; a

(ii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol; a

(b)yn 2006 ac ym mhob blwyddyn ar ôl hynny —

(i)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn y flwyddyn flaenorol;

(ii)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn flaenorol honno yn unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt; a

(iii)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol yn y flwyddyn o dan sylw.

Opsiwn y lleiniau o dan 10 metr

5.—(1Ym mhob rhan o gae sydd i'w rheoli yn unol ag opsiwn y lleiniau o dan 10 metr, rhaid i ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 7, sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol —

(i)drwy hau hadau o fath perthnasol; neu

(ii)drwy ganiatáu aildyfiant naturiol yn dilyn y cnwd diwethaf a gynhyrchwyd ar y rhan honno o'r cae o dan sylw yn y flwyddyn flaenorol;

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau 8, 12 a 13, cynnal a chadw'r gorchudd glas tan ddiwedd y cyfnod perthnasol; ac

(c)torri'r gorchudd glas o leiaf unwaith yn ystod y flwyddyn gyfredol.

(2Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn 2005 —

(a)pan fo'r cae neu'r rhan o gae wedi'i neilltuo yn 2004 yn unol ag Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor 1251/1999 ac wedi'i reoli neu wedi'i rheoli yn ystod y flwyddyn honno yn unol ag opsiwn yr ymylon caeau a nodir ym mharagraff 5 o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996; a

(b)pan fo'r gorchudd glas a sefydlwyd yn unol â gofynion yr opsiwn hwnnw wedi'i gynnal a'i gadw tan ddechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol.

Torri neu ddifa'r gorchudd glas

6.—(1Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1), rhaid i ffermwr wneud y naill neu'r llall o'r canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), torri'r gorchudd glas rhwng 15 Gorffennaf a 15 Awst (yn gynhwysol) yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol; neu

(b)difa'r gorchudd glas rhwng 15 Gorffennaf a 31 Awst (yn gynhwysol) yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol.

(2Caiff ffermwr (pan fo'n torri'r gorchudd glas mewn cae neu ran o gae yn unol ag is-baragraff (1)(a)) yn achos cae sydd i'w neilltuo yn y flwyddyn ganlynol, adael heb ei dorri 25% o'r arwynebedd sydd wedi'i neilltuo yn y cae hwnnw, ar yr amod bod unrhyw arwynebedd a adewir heb ei dorri yn unol â'r paragraff hwn ac sydd hefyd wedi'i adael heb ei dorri yn ystod y ddwy flynedd flaenorol yn unol â'r paragraff hwn (neu baragraff 7(2)(b) o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd År 1996) yn cael ei dorri yn unol ag is-baragraff (1) yn y flwyddyn ganlynol.

Esemptiadau rhag y gofyniad i sefydlu gorchudd glas ar neilltir

7.—(1Ym mhob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2) yn cael ei weithredu, bydd ffermwr yn rhinwedd y ddarpariaeth hon yn cael ei drin fel un sy'n esempt rhag gofyniad i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol, os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol nad oedd yn ymarferol sefydlu gorchudd glas erbyn hynny am resymau hinsoddol, ac, os yw'n cael ei drin fel un sy'n esempt, rhaid iddo sefydlu gorchudd glas cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas.

(2Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), nid oes rhaid i ffermwr sefydlu gorchudd glas ar lain o dir sy'n rhan o'r tir sydd wedi;'i neilltuo ac sy'n ffinio â'i ymyl, a honno'n llain hyd at —

(a)1 metr o led, pan fo'r llain o dir sydd wedi'i neilltuo yn ffinio â thir a blannwyd â chnwd nad yw'n gnwd hadau;

(b)2 fetr o led, pan fo'r llain o dir sydd wedi'i neilltuo yn ffinio â thir a blannwyd â chnwd hadau; neu

(c)5 metr, mewn unrhyw fan lle gall fod yn bosibl i gerbydau fynd ar y tir hwnnw o ffordd neu drac sy'n gyfagos â'r tir hwnnw, ar yr amod bod y llain yn cael ei haredig a'i gadael yn fraenar.

(3Yn is-baragraff (2), ystyr “cnwd hadau” yw cnwd a dyfir fel bod modd cynaeafu hadau'r cnwd a'u hau i sefydlu cnwd pellach.

Esemptiadau rhag y gofyniad i gynnal a chadw gorchudd glas ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

8.—(1Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), nid yw'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo'r gorchudd glas hwnnw wedi'i ddifa ar ôl taenu plaleiddiad ar y tir ar neu ar ôl 15 Ebrill yn y flwyddyn gyfredol.

(2Ar gyfer pob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), bydd ffermwr yn cael ei drin yn rhinwedd y ddarpariaeth hon fel un sy'n esempt rhag gofyniad i gynnal a chadw gorchudd glas os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol bod y gorchudd glas a sefydlodd wedi methu neu nad oedd modd iddo atal yn rhesymol y methiant hwnnw.

(3Bydd yr esemptiadau a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys —

(a)yn achos yr esemptiad yn is-baragraff (1), tan ddechrau tymor canlynol y gorchudd glas; a

(b)yn achos yr esemptiad yn is-baragraff (2), tan ddiwedd y flwyddyn gyfredol.

(4Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), a lle mae ffermwr wedi dewis peidio â sefydlu gorchudd glas ar lain o dir yn unol â pharagraff 7(2), nid oes rhaid iddo gynnal a chadw unrhyw orchudd glas sydd wedyn yn ymsefydlu ar y llain honno.

RHAN BSafonau cyffredinol sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

Yr amodau sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

9.  Mae darpariaethau paragraffau 10 i 15 o'r Atodlen hon yn gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac sy'n cael ei reoli gan ffermwr yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau paragraffau 1 i 8.

Gwahardd hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, a gwahardd trin y tir hwnnw

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12, yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol, rhaid i ffermwr beidio â hau, na gwneud unrhyw waith paratoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu na thrin y tir hwnnw mewn unrhyw ffordd arall .

(2mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad ym mharagraff 11 neu 12 yn gyfeiriad at y dyddiad hwnnw sy'n dod o fewn y cyfnod neilltuo cyfredol.

Esemptiadau rhag y gwaharddiad ar hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

11.—(1Caiff ffermwr wneud paratoadau ar gyfer hau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ffermwr hau unrhyw hadau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf os yw'r hadau yn cael eu hau er mwyn cynhyrchu cnwd i'w gynaeafu yn y flwyddyn ganlynol.

(3Pan fo ffermwr yn hau tir glas ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â'r esemptiad yn is-baragraff (2), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.

Trin tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu at ddibenion rheoli chwyn

12.  Caiff ffermwr drin y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf at ddibenion rheoli chwyn.

Amnewid y gorchudd glas a newid opsiynau rheoli

13.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas mewn cae neu ran o gae, caiff roi gorchudd arall, serch hynny, yn lle'r gorchudd glas hwnnw ar yr amod bod yr hadau yn cael eu hau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl difa'r gorchudd glas sy'n bodoli eisoes.

(2Rhaid i'r hadau sydd i'w hau er mwyn sefydlu gorchudd glas newydd yn lle'r hen un —

(a)bod yn hadau o fath perthnasol, pan fo'r gorchudd i'w amnewid mewn rhan yn unig o gae sy'n cael ei reoli yn unol ag opsiwn y lleiniau 10 metr; a

(b)bod ym mhob achos arall —

(i)yn hadau o fath perthnasol; neu

(ii)yn gymysgedd perthnasol o hadau.

(3O ran y cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas wedi'i amnewid, rhaid i ffermwr gydymffurfio â'r amodau hynny a nodwyd yn Rhan A o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud ag un o'r opsiynau rheoli canlynol —

(a)pan fo'r hadau a heuwyd yn hadau o fath perthnasol, opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau; neu

(b)pan fo'r hadau a heuwyd yn gymysgedd perthnasol o hadau, opsiwn y gorchudd adar gwyllt.

(4Pan fo ffermwr yn amnewid gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw, na chynaeafu unrhyw gnydau a gynhyrchir ar y tir hwnnw, yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.

Defnyddio'r gorchudd glas

14.—(1Rhaid i ffermwr sicrhau, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fydd unrhyw orchudd glas na thoriadau o unrhyw orchudd glas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu hadau neu at unrhyw ddiben masnachol neu amaethyddol arall yn y flwyddyn gyfredol.

(2Caiff ffermwr —

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau 11(3) a 13(4), ddefnyddio unrhyw orchudd glas neu doriadau o'r fath at unrhyw ddibenion amaethyddol ar ôl 31 Awst; a

(b)rhoi ar y farchnad unrhyw doriadau, neu gnydau, a gynaeafir o'r gorchudd glas ar neu ar ôl 15 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.

(3Rhaid i ffermwr sicrhau na chaiff unrhyw doriadau o'r gorchudd glas eu symud oddi ar y neilltir o dan sylw ac eithrio yn unol ag is-baragraff (2) neu gyda chydsyniad ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Taenu gwrtaith, gwastraff, calch a gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

15.—(1Rhaid i ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith, gwastraff, calch na gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac eithrio yn unol â'r is-baragraffau canlynol.

(2Caiff ffermwr daenu gwrteithiau ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol cyn eu taenu fod y tir wedi'i leoli mewn ardal y mae'n hysbys ei fod yn cael ei defnyddio fel ardal ar gyfer bwyta gan wyddau yn y gaeaf a'i fod i'w reoli fel ardal o'r fath.

(3Drwy gydol y cyfnod neilltuo, caiff ffermwr daenu gwastraff organig ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar yr amod —

(a)nad yw'n cael ei daenu ond ar fannau lle mae gorchudd glas yn bodoli eisoes ar y neilltir;

(b)ei fod yn cael ei daenu fesul dogn na fyddai'n difa'r gorchudd glas hwnnw; ac

(c)yn achos tail a slyri, nad ydynt yn cael eu taenu —

(i)o fewn 10 metr i unrhyw gwrs dŵ r; na

(ii)o fewn 50 metr i unrhyw dyllau turio.

(4Rhaid i ffermwr beidio â storio na dadlwytho na gwaredu fel arall unrhyw wastraff ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, ac eithrio ei fod yn cael storio gwastraff organig mewn cae sy'n cynnwys neu'n ffurfio rhan o'r neilltir lle mae'r gwastraff organig hwnnw i'w daenu ganddo ar y cae hwnnw yn unol ag is-baragraff (3).

(5Caiff ffermwr daenu gwrtaith yn ystod y flwyddyn gyfredol ar unrhyw barsel o dir amaethyddol sy'n cael ei reoli yn unol â pharagraff 4 lle bo gorchudd glas newydd yn cael ei sefydlu yn y flwyddyn honno, ar yr amod nad yw cyfanswm y nitrogen yn y gwrtaith hwnnw yn fwy na 30 cilogram yr hectar o dir y mae'n cael ei daenu arno.

(6Caiff ffermwr daenu calch neu gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo cnydau i'w tyfu ar y tir hwnnw yn y flwyddyn ganlynol.

Rheoliad 4(2) a (4)

ATODLEN 2SAFONAU YCHWANEGOL CYFLWR AMAETHYDDOL AC AMGYLCHEDDOL DA SY'N GYMWYS MEWN PERTHYNAS Å THIR SYDD WEDI'I NEILLTUO AR GYFER DARPARU CNYDAU DI-FWYD

Taenu gwrteithiau a gwastraff ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu cnydau di-fwyd

Dim ond ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu cnydau di-fwyd y caiff ffermwr daenu gwrtaith neu wastraff cyhyd —

(a)â'i bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau bod y cnydau yn tyfu'n iawn; a

(b)â bod dull ei daenu yn gyson â'r Code of Good Agricultural Practice for the Protection of Water a gymeradwywyd o dan Orchymyn Dŵr (Atal Llygredd) (Cod Ymarfer) 1998(16).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Ionawr 2005. Maent yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1) (“Rheoliad y Cyngor”), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1) (“Rheoliad y Comisiwn 1973/2004”) ynglyn â'r rhwymedigaeth i neilltuo tir o dan y Cynllun Taliad Sengl newydd ar gyfer ffermwyr (“y Cynllun”). Daeth y Cynllun ei hun i rym ar 1 Ionawr 2005.

Mae rheoliad 3 yn pennu isafswm maint ac isafswm lled y tir y caniateir ei neilltuo mewn sefyllfaoedd penodol fel y'u caniateir o dan Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor. Wrth wneud hynny, mae'n rhan-ddirymu'r ddarpariaeth yn Erthygl 54(4) sydd fel arall yn pennu isafswm maint ac isafswm lled y tir y caniateir ei neilltuo.

Mae rheoliad 4, fel y'i darllenir gydag Atodlenni 1 a 2, yn pennu'r cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i dir sy'n cael ei neilltuo o dan y Cynllun. Mae'r rhain yn gymwys yn ychwanegol at y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys yn rhinwedd Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 / 3280 (Cy.284)).

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i ffermwyr wneud cais i dir na ellir ei neilltuo o dan y Cynllun gael ei gyfrif yn dir y caniateir ei neilltuo o dan y Cynllun. Mae Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004 yn pennu ym mha achosion y gellir caniatáu hynny. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu cyfnewid tir.

Mae rheoliad 6 yn pennu darpariaethau ynglyn â deunyddiau crai a dyfir ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu deunyddiau i weithgynhyrchu o fewn y Gymuned Ewropeaidd gynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid (“deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd”) ac mae'n eu pennu fel a ganlyn —

(a)mae'n dynodi'r Cynulliad Cenedlaethol fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (defnyddio tir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai at ddibenion di-fwyd) (paragraff (1));

(b)mae'n pennu darpariaethau ynglyn â phwyso deunyddiau crai penodol sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd os ydynt i gael eu defnyddio at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Erthygl 146(1) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (paragraff (2));

(c)mae'n pennu'r dull annatureiddio sydd i'w defnyddio ar gyfer grawnfwydydd a hadau olew os ydynt i'w defnyddio at unrhyw un o'r dibenion a bennir yn Erthygl 146(1)(a) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (paragraff (3)); ac

(ch)mae'n pennu dyddiad ym mlwyddyn y cais, sef 15 Mai, fel y diwrnod olaf erbyn pryd y mae rhaid i gontractau a wneir rhwng ffermwyr a chasglwyr neu broseswyr ynghylch deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd gael eu hadneuo gyda'r Cynulliad Cenedlaethol (paragraff (4)) a dyddiad yn y flwyddyn ganlynol, sef 31 Ionawr, fel y diwrnod olaf erbyn pryd y mae rhaid i wybodaeth benodol ynglyn â'r deunyddiau hynny gael ei hadneuo yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol (paragraff (5)).

Mae rheoliad 7 yn pennu'r cofnodion y mae rhaid i gasglwyr a phroseswyr cyntaf eu cadw ynghylch unrhyw ddeunyddiau crai a gynhyrchwyd at ddibenion di-fwyd ac a brynwyd ganddynt ac yn pennu hyd y cyfnod y dylid cadw'r cofnodion hynny.

Mae arfarniad rheoliadol ynglyn â'r Rheoliadau hyn wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 85).

(4)

O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1.

(5)

O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. Rhif L 161, 30.4.2004, t. 48, fel y mae wedi'i gywiro drwy gorigendwm yn O.J. Rhif L 206, 9.6.2004, t. 20).

(6)

O.J. Rhif L 160, 26.6.1999, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor.

(9)

O.J. Rhif L160, 26.6.99, t.80, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1783/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70).

(10)

1993 p.10.

(11)

1959 p.54.

(12)

1985 p.72.

(13)

1998 p.38.

(14)

O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(15)

O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.