- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
2 Mawrth 2005
Yn dod i rym
31 Mawrth 2005
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) (Diwygio) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn y gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002(3) ac mae cyfeiriad at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Prif Reoliadau sy'n dwyn y Rhif hwnnw.
2. Yn rheoliad 3(1) —
(a)ym mharagraffau (i) a (ii) o'r diffiniad o “cyflawni'r Dangosydd Pynciau Craidd” yn lle'r geiriau “ym mhrofion y CC” rhodder y geiriau “mewn asesiadau gan athrawon”;
(b)yn y diffiniad o “lefel 4” a “lefel 5” yn lle'r geiriau “profion y CC” rhodder y geiriau “asesiadau gan athrawon”; ac
(c)rhodder ar ôl y diffiniad o “anghenion addysgol arbennig” y canlynol —
“ystyr “asesiadau gan athrawon” (“teacher assessment”) yw asesiadau o ddisgyblion a wneir gan athrawon er mwyn penderfynu lefel y cyrhaeddiad y maent wedi'i chyflawni yn y Gymraeg, y Saesneg, gwyddoniaeth neu fathemateg, ac y gwneir darpariaeth asesu ar eu cyfer gan orchmynion neu o dan orchmynion a wneir o dan adran 108(3)(c) o Ddeddf Addysg 2002 sydd mewn grym pan wneir yr asesiadau”.
3. Yn rheoliad 4 —
(a)hepgorer paragraff (2);
(b)ar ôl paragraff (4) rhodder:
“(5) Ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, rhaid i drydydd cynllun atodol ymwneud â chyfnod —
(a)o ran gosod targedau a bennir yn rheoliad 30 yn unig, y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07;
(b)o ran popeth arall, y flwyddyn ysgol 2005-06”.
4. Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (2) ychwaneger y canlynol —
“(3) Pan fydd targedau wedi'u gosod o dan baragraff (1) drwy gyfeirio at gyflawniadau ym mhrofion y CC mae'r targedau hynny i'w darllen fel petai'r cyfeiriadau at gyflawniadau ym mhrofion y CC yn gyfeiriadau at gyflawniadau mewn asesiadau gan athrawon”.
5. Yn rheoliad 12 —
(a)ym mharagraff (1) yn lle “ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r” rhodder “mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y”;
(b)ym mharagraff (2) ym mhob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair “profion” rhodder “asesiadau”.
6. Yn rheoliad 13 —
(a)ym mharagraff (1) yn lle “ym mhrofion y CC sydd i'w gweinyddu i'r” rhodder y geiriau “mewn asesiadau gan athrawon sydd i'w gwneud ar y”; a hefyd
(b)ym mharagraff (2) o bob un o'r is-baragraffau (a) i (ch) yn lle'r gair “profion” rhodder “asesiadau”.
7. Yn rheoliad 30, ar ôl paragraff 1(b) rhodder:
“(c)yn y trydydd cynllun atodol, targedau ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2005-06 a 2006-07”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
2 Mawrth 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Gwnaed y Rheoliadau hyn o dan adrannau 6 a 138 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac maent yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002.
Mae adran 6 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod addysg lleol lunio cynllun datblygu addysg (sy'n cael ei adnabod yng Nghymru wrth yr enw “cynllun strategol addysg”) ar gyfer ei ardal.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad am gynllun llawn dilynol ac yn mewnosod gofyniad am drydydd cynllun atodol i'w lunio ar gyfer blwyddyn ysgol 2005-06.
Hefyd, mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau o ran y targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyflawniadau disgyblion yng nghyfnodau allweddol dau a thri. Yn lle'r cyfeiriadau at brofion y Cwricwlwm Cenedlaethol maent yn rhoi cyfeiriadau at asesiadau gan athrawon ac yn darparu bod targedau a osodwyd sy'n cyfeirio at ganlyniadau profion i'w darllen fel petaent yn cyfeirio at ganlyniadau asesiadau gan athrawon. Mae'r diwygiadau yn rhannol ganlyniadol i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004. Mae'r Gorchymyn hwnnw'n pennu'r trefniadau asesu ar gyfer disgyblion sy'n astudio Cymraeg (fel iaith gyntaf), Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth ym mlwyddyn olaf cyfnod allweddol dau. Mae'n disodli'r gofyniad i brofion gael eu rhoi i'r disgyblion hynny, fel y penderfynir ar lefelau eu cyrhaeddiad drwy asesiadau gan athrawon.
1998 p.31. Ar gyfer ystyr “regulations” gweler adran 142.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: